MANYLION.
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Welshpool,
- Pwnc: Heb ei ddarparu
- Oriau: Llawn amser
- Cytundeb: Parhaol
- Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
- Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
- Math o gyflog: Per annum
- Cyflog: Graddfa 5 Pwynt 7 i Bwynt 9 £26,403 i £27,254 y flwyddyn ar gyfartaledd £13.68 i £14.12 yr awr
- Iaith: Unrhyw
- Dyddiad Cau: 05 Gorffennaf, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cynorthwyydd Addysgu - Lefel 2 (Arbennig) (Ysgol Gynradd Y Trallwng)
Cyngor Sir Powys
Cyflog: Graddfa 5 Pwynt 7 i Bwynt 9 £26,403 i £27,254 y flwyddyn ar gyfartaledd £13.68 i £14.12 yr awr
Cynorthwyydd Addysgu - Lefel 2 (Arbennig) (Ysgol Gynradd Y Trallwng)Swydd-ddisgrifiad
Mae'r dyddiad cau ar gyfer y rôl wedi cael ei ymestyn, dyma'r dyddiadau newydd -
Dyddiad cau: 05/07/2026
Dyddiad creu rhestr fer: 06/07/2026
Cyfweliadau: 13/07/2026
Cynorthwyydd Addysgu Lefel 2 Arbennig
Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Y Trallwng
Contract Cyfnod Penodol 30 Oriau
Mae'r llywodraethwyr yn ceisio penodi Cynorthwyydd Addysgu hynod effeithiol, gofalgar a brwdfrydig i ymuno â'n Tîm Bugeiliol a chefnogi plant ag anawsterau ymddygiad, cyfathrebu, datblygiad emosiynol a chymdeithasol yn yr ysgol. Bydd gan yr ymgeisydd cywir brofiad o weithio gyda phlant ag Anghenion Dysgu Ychwanegol a bydd yn barod i ymgymryd â hyfforddiant i wella eu gwybodaeth.
Rydym yn chwilio am Gynorthwyydd Addysgu sy'n meddu ar y canlynol:
• Sydd â phrofiad o weithio gyda phlant ag anawsterau
ymddygiad, cyfathrebu, datblygiad emosiynol a chymdeithasol• Sydd â phrofiad o weithio'n agos gydag Athrawes/Athro Dosbarth/CADY a gweithwyr proffesiynol eraill• Yn hyblyg, rhagweithiol ac ymarferol
• Â gweledigaeth, egni a brwdfrydedd ar gyfer yr her hon a sgiliau
trefnu a rhyngbersonol rhagorol• Yn brofiadol o sefydlu a chynnal cydberthynasau proffesiynol da
Croesewir trafodaethau neu ymweliadau anffurfiol trwy apwyntiad ymlaen llaw gyda'r Pennaeth Mrs Lorna Tuffin Ffôn: 01938 538660
Dyddiad cau: 28.06.26
Dyddiad llunio'r rhestr fer: 29.06.26
Bydd cyfweliadau'n digwydd ar: 09.07.26