MANYLION.
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Heb ei ddarparu
- Pwnc: Heb ei ddarparu
- Oriau: Rhan amser
- Cytundeb: Cyfnod penodol
- Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
- Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
- Math o gyflog: Per annum
- Cyflog: Graddfa Gyflog o fewn: £33,731 - £51,942
- Iaith: Unrhyw
- Dyddiad Cau: 25 Mehefin , 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Athro/Athrawes (Cyfnod Mamolaeth) - Ysgol Penrhyn Dewi VA
Cyngor Sir Benfro
Cyflog: Graddfa Gyflog o fewn: £33,731 - £51,942
Athro Lletygarwch ac Arlwyo/ Bwyd a Maeth (Cyfnod Mamolaeth)Dewch i gymryd rhan allweddol mewn adran gyfeillgar a chydweithredol mewn ysgol lwyddiannus i bob oed yn un o leoliadau prydferthaf Cymru.
Ysgol yr Eglwys yng Nghymru 3-16 oed yw Ysgol Wirfoddol a Gynorthwyir Penrhyn Dewi ac mae'n gwasanaethu dinas hanesyddol Tyddewi a'r cyffiniau. Yn ardal hardd Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, mae'r ysgol yn cynnig amgylchedd gofalgar, cynhwysol a chroesawgar lle mae'r disgyblion a'r staff yn falch o'r ethos Cristnogol a chymunedol. Mae gan yr ysgol gysylltiadau cryf â'r gymuned leol, lle mae cyfleoedd helaeth ar gyfer gweithgareddau awyr agored yn ogystal â gweithgareddau cymdeithasol a diwylliannol.
Mae'r ysgol am benodi ymarferydd blaengar ac arloesol sy'n frwd dros y newidiadau i'r cwricwlwm sydd ar waith ar hyn o bryd yng Nghymru ac a hoffai'r cyfle i drosi'r syniadau hyn yn addysgu ymarferol. Mae Lletygarwch ac Arlwyo yn bwnc hynod boblogaidd yn yr ysgol. Croesewir ac anogir ceisiadau gan athrawon cynradd ac uwchradd cymwysedig sy'n barod i addysgu Bwyd a Maeth i Flwyddyn 9 a Lletygarwch ac Arlwyo ar lefel TGAU. Ystyrir pob arbenigedd addysgu, a darperir hyfforddiant priodol yn ôl yr angen. Byddai parodrwydd i addysgu pwnc arall hefyd yn ddymunol. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio'n bennaf o fewn tîm Maes Dysgu a Phrofiad Gwyddoniaeth a Thechnoleg.
Mae diogelu ac amddiffyn plant yn flaenoriaethau hollbwysig i Wasanaeth Addysg a Phlant Sir Benfro. Ein nod yw cynorthwyo plant a phobl ifanc agored i niwed i sicrhau eu bod mor ddiogel â phosibl. Mae ein hysgolion yn ymrwymedig i sicrhau diogelwch pob plentyn, a byddant yn cymryd camau i ddiogelu eu llesiant, gan gydnabod bod ganddynt yr hawl i gael eu hamddiffyn. Cefnogir hyn gan ethos cyffredinol pob ysgol.
Gofynnwn i bob ymgeisydd gyflwyno ceisiadau ar-lein. Os na allwch wneud hyn, cysylltwch â'r Gweinyddwr Recriwtio cyn gynted â phosibl.
Os ydych chi eisoes yn ddefnyddiwr, gwnewch yn siŵr eich bod wedi mewngofnodi i'ch cyfrif cyn dechrau cwblhau ffurflen gais.
Fideo Addysgu Sir Benfro: Fideo - Cyngor Sir Penfro
Buddion i Weithwyr
Mae ein buddion i weithwyr wedi'u cynllunio i helpu i fuddsoddi yn eich dyfodol ac maent yn ychwanegol at fyw a gweithio yn Sir Benfro, un o'r siroedd mwyaf prydferth a dymunol yn y DU.
Mae gwefan Ymweld â Sir Benfro https://www.visitpembrokeshire.com/cy-gb yn ffynhonnell wybodaeth ardderchog, ac mae'n arddangos yr amrywiaeth eang o weithgareddau, amwynderau ac anturiaethau sy'n aros amdanoch.
Cyfeiriwch at y disgrifiad swydd uchod am ragor o fanylion am y swydd wag hon a manyleb y person.
Gwiriadau Cyflogaeth
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i wiriad datgelu gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Caiff yr wybodaeth bersonol rydym wedi'i chasglu gennych ei rhannu â Cifas pan fydd yn briodol ar gyfer eich rôl a'ch cyfrifoldeb, a bydd Cifas yn ei defnyddio i atal twyll, ymddygiad anghyfreithlon neu anonest arall, camymddwyn, ac ymddygiad arall sy'n ddifrifol amhriodol. Os caiff unrhyw un o'r rhain eu canfod, gellir gwrthod darparu rhai gwasanaethau neu gyflogaeth i chi. Bydd eich gwybodaeth bersonol hefyd yn cael ei defnyddio i wirio pwy ydych chi. Gallwch weld rhagor o fanylion am sut y caiff eich gwybodaeth ei defnyddio gennym ni a Cifas, a'ch hawliau diogelu data, yma: https://www.cifas.org.uk/fpn.
Dylai ymgeiswyr sicrhau bod ganddynt yr hawl i weithio yn y Deyrnas Unedig cyn gwneud cais am swydd wag.
Sylwch nad yw Cyngor Sir Penfro ar hyn o bryd yn derbyn ymgeiswyr sydd angen fisa Gweithiwr Medrus fel rhagofyniad i hawl i weithio yn y DU. Dylai ymgeiswyr sicrhau bod ganddynt yr hawl i weithio yn y DU cyn gwneud cais am swydd wag.
Nodyn Canllaw: Defnyddio Deallusrwydd Artiffisial a Chywirdeb Gwybodaeth:
- Rydym yn deall y gall ymgeiswyr ddewis defnyddio offer fel Deallusrwydd Artiffisial cynhyrchiol i gefnogi paratoi eu cais. Er bod defnyddio offer o'r fath yn cael ei ganiatáu, mae'n parhau i fod yn gyfrifoldeb llawn yr ymgeisydd i sicrhau bod yr holl wybodaeth a gyflwynir yn ffeithiol gywir, yn wir, ac yn gynrychioliadol o'u sgiliau, profiadau a chymwysterau eu hunain.
- Gall darparu gwybodaeth sy'n ffug, yn gamarweiniol, neu'n orliwiedig, p'un a gafodd ei chynhyrchu gan Deallusrwydd Artiffisial ai peidio, arwain at anghymhwyso o'r broses recriwtio neu ddiswyddo os caiff ei ddarganfod ar ôl penodi.
- Drwy gyflwyno'r cais hwn, rydych yn cadarnhau bod yr holl gynnwys a ddarperir yn gywir ac wedi'i gyflwyno'n ddidwyll.
Diogelu
Mae diogelu ac amddiffyn plant ac oedolion mewn perygl yn flaenoriaeth uchel i Gyngor Sir Penfro. Ein nod yw cefnogi plant sy'n agored i niwed ac oedolion mewn perygl er mwyn sicrhau eu bod mor ddiogel â phosibl. Rydym yn ymrwymedig i sicrhau eu diogelwch a byddwn yn gweithredu i ddiogelu eu llesiant. Mae Polisi Diogelu Corfforaethol y Cyngor yn darparu fframwaith i bob aelod o staff a gwasanaeth yn y Cyngor, gan amlinellu cyfrifoldebau mewn perthynas â diogelu ac amddiffyn plant ac oedolion mewn perygl yn ogystal â'r dulliau a ddefnyddir gan y Cyngor i sicrhau ei fod yn cyflawni ei ddyletswyddau.
Mae'r polisi hwn yn berthnasol i holl weithwyr a gweithlu'r Cyngor, yn ogystal â chynghorwyr, gwirfoddolwyr a darparwyr gwasanaethau a gomisiynir gan y Cyngor. Busnes pawb yw diogelu, p'un a ydynt yn gweithio i'r Cyngor neu'n gweithio ar ran y Cyngor.
Cymorth a Gwybodaeth Ychwanegol
- Cysylltwch â'r Tîm Systemau AD cyn gynted â phosibl os na allwch wneud cais ar-lein drwy anfon e-bost at hrsystemsteam@pembrokeshire.gov.uk .
- Cysylltwch â'r Tîm Recriwtio os oes gennych unrhyw ymholiadau yn ymwneud â'r swydd wag hon drwy anfon e-bost at recriwtio@sir-benfro.gov.uk
- Mae gweithwyr llywodraeth leol ar delerau'r Cyd-gyngor Cenedlaethol yn destun bargeinio cyflog cenedlaethol; mae'r holl gyflogau a nodir yn ein hysbysebion ar hyn o bryd ar sail cyflogau 1/4/2025.
Mae sgiliau Cymraeg yn ddymunol. Gellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg ac ni chânt eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau a gyflwynir yn Saesneg.