MANYLION.
  • Lleoliad: Llanidloes,
  • Pwnc: Heb ei ddarparu
  • Oriau: Llawn amser
  • Cytundeb: Heb ei ddarparu
  • Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
  • Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
  • Math o gyflog: Per annum
  • Cyflog: Graddfa 6 Pwynt 11 i Bwynt 14 £28,142 i £29,540 y flwyddyn ar gyfartaledd £14.58 i £15.31 yr awr
  • Iaith: Unrhyw
  • Dyddiad Cau: 28 Mehefin , 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Goruchwyliwr Cyflenwi (Cynorthwyydd Addysgu Lefel 3) (Ysgol Uwchradd Llanidloes)

Cyngor Sir Powys

Cyflog: Graddfa 6 Pwynt 11 i Bwynt 14 £28,142 i £29,540 y flwyddyn ar gyfartaledd £14.58 i £15.31 yr awr

Goruchwyliwr Cyflenwi (Cynorthwyydd Addysgu Lefel 3) (Ysgol Uwchradd Llanidloes)
Swydd-ddisgrifiad
Goruchwyliwr Cyflenwi
Mae Ysgol Uwchradd Llanidloes yn un o'r ysgolion mwyaf hapus a mwyaf llwyddiannus yng Nghymru. Rydyn wedi'n bendithio â diwylliant dysgu bywiog a llewyrchus, ethos gofalgar a thîm staff hynod ymroddedig. Dyma gyfle cyffrous ar gyfer unigolyn deinamig a gweithgar i gyfrannu'n llawn at fwynhâd ein disgyblion o ddysgu. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn weithgar, yn hyblyg ac yn ymdrechu i
gyflawni a chynnal y safonau uchaf. Byddant yn goruchwylio gwersi yn yr ysgol gynradd a'r ysgol uwchradd o fewn Ffederasiwn Ysgolion Llanidloes.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn:
• ofalgar am les a llwyddiant academaidd pob un o'n disgyblion;
• weithgar iawn ac yn ysbrydoli cariad tuag at ddysgu fydd yn sicrhau bod pob disgybl yn cyflawni'r safonau academaidd uchaf posibl;
• ddeinameg yn y dosbarth ac yn cynnal safonau uchel iawn o ddysgu;
• meddu ar sgiliau rhyngbersonol ardderchog, yn wir aelod o dîm ac yn fedrus wrth weithio'n annibynnol;
• meddu ar sgiliau trefnu ardderchog ac ag egwyddor waith cryf;
• cyfrannu'n llawn at ddarparu cyfleoedd all-gyrsiol;
• meddu ar agwedd bositif tuag at ddatrys problemau.
Mae'r gallu i addysgu trwy gyfrwng y Gymraeg ac i gynnig pwnc ychwanegol yn ddymunol, ond ddim yn angenrheidiol.
Cysylltwch â Mrs S Bound am fwy o wybodaeth
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: Dydd Sul 28 Mehefin 2026