MANYLION.
  • Lleoliad: Llangewydd Junior,
  • Pwnc: Heb ei ddarparu
  • Oriau: Heb ei nodi
  • Cytundeb: Heb ei nodi
  • Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
  • Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
  • Math o gyflog: Heb ei Gyflenwi
  • Cyflog: Graddfa Gyflog Athrawon + ADY
  • Iaith: Unrhyw
  • Dyddiad Cau: 17 Mehefin , 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Athrawes ADY Ysgol Iau Llangewydd (Dros Dro)

Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr

Cyflog: Graddfa Gyflog Athrawon + ADY

Dros dro tan fis Awst 2027.

Mae Ysgol Iau Llangewydd wedi'i lleoli ym Mhen-y-bont ar Ogwr ac mae'n rhan o glwstwr o ysgolion Bryntirion. Mae 343 o ddisgyblion ar y gofrestr sydd rhwng saith ac un ar ddeg oed. Ar hyn o bryd, mae gan yr ysgol 12 o ddosbarthiadau prif ffrwd a 2 ddosbarth ADY. Fodd bynnag, ym mis Medi rydym yn agor ein trydydd dosbarth ADY a fydd yn darparu ar gyfer disgyblion ag anghenion niwroddatblygiadol.

Byddai secondiad gan aelod o staff BCBC hefyd yn cael ei ystyried.

Y Rôl

Manylion Cyflog: Athro/Athrawes Prif Raddfa Gyflog

Mae'r Corff Llywodraethu yn ceisio penodi athro/athrawes brofiadol, sy'n arloesol, yn greadigol ac yn ymarferydd ysbrydoledig yn yr ystafell ddosbarth sy'n ymrwymedig i gynorthwyo llesiant a dysgu plant ac sydd â dyheadau a disgwyliadau uchel ar gyfer y disgyblion y maent yn gweithio gyda nhw.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn:
- Ymarferydd dysgu sylfaen rhagorol a phrofiadol yn yr ystafell ddosbarth gyda dealltwriaeth gadarn o'r Cwricwlwm i Gymru.
- Yn brofiadol wrth weithio gyda disgyblion ag ADY a darparu ar gyfer eu hanghenion (yn benodol y rhai ag anghenion niwroddatblygiadol)
- Profiad o ysgrifennu Cynlluniau Datblygu Unigol / cyflwyno Cynlluniau Datblygu Unigol.
- Gallu darparu profiadau dysgu gwahaniaethol o ansawdd uchel i gefnogi a herio pob dysgwr.
- Gweithio'n effeithiol fel rhan o dîm llwyddiannus.
- Gweithio'n effeithiol gyda rhieni ac asiantaethau allanol.
- Yn drefnus ac yn meddu ar sgiliau rhyngbersonol rhagorol.
- Cysylltu a gweithio gyda rhieni, llywodraethwyr, a'r gymuned ehangach.
- Gweithio'n effeithiol mewn tîm Maes Dysgu a Phrofiad.
Yn Ysgol Iau Llangewydd rydym yn ymrwymedig i ddatblygu proffesiynol o ansawdd uchel, a gallwn gynnig dysgwyr cyfeillgar, brwdfrydig, hapus a fydd yn herio eich ffordd o feddwl. Rydym yn ymrwymedig i lesiant staff a byddwn yn darparu amgylchedd gwaith cefnogol i bawb.
Swydd i ddechrau ym mis Medi 2026
Gofynnir i ymgeiswyr llwyddiannus ar y rhestr fer ymweld â'r ysgol drwy apwyntiad gyda'r Pennaeth a chyflwyno gwers naill ai yn Llangewydd neu yn eu hysgol eu hunain (i'w gadarnhau).
I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â Krista Green ar 01656 815530 neu anfonwch e-bost at Head@llangewyddjs.bridgend.cymru.

Mae'r gallu i gyfarch cwsmeriaid drwy gyfrwng y Gymraeg yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.

Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn un o gyfrifoldebau craidd pob un o gyflogeion y cyngor.

Mae gwiriad cofnodion troseddol Manwl gyda Rhestr Waharddedig Plant gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.

Dyddiad Cau: 17 Mehefin 2026

Dyddiad Llunio'r Rhestr Fer: 22 Mehefin 2026

Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr

Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person