MANYLION.
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Machynlleth,
- Pwnc: Heb ei ddarparu
- Oriau: Llawn amser
- Cytundeb: Heb ei ddarparu
- Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
- Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
- Math o gyflog: Heb ei Gyflenwi
- Cyflog: Blank
- Iaith: Unrhyw
- Dyddiad Cau: 24 Mehefin , 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cyflog: Blank
Athrawon Uchelgeisiol (Ysgol Bro Hyddgen)Swydd-ddisgrifiad
Mae Sgiliau Iaith Gymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon
Nodwch y rôl Athro sydd orau gennych yn eich ffurflen gais
Athrawes/Athro Gwyddoniaeth i hyfforddi drwy'r Brifysgol Agored - Ysgol Bro Hyddgen
Athrawes/Athro Dylunio a Thechnoleg i hyfforddi drwy'r Brifysgol Agored - Ysgol Bro Hyddgen
Mae hwn yn gyfle i hyfforddi fel athro uwchradd drwy TAR A ARIENNIR YN LLAWN yn y Brifysgol Agored (rhaglen 2 flynedd).
Mae'r ysgol yn cynnig cyfle unigryw i unigolyn astudio rhaglen TAR (SAC) drwy raglen seiliedig ar gyflogaeth (2 flynedd) sy'n cael ei hariannu'n llawn gan Lywodraeth Cymru drwy ddarpariaeth y Brifysgol Agored. Mae'r rhaglen yn cynnig cytundeb cyflogaeth dwy flynedd o fewn yr ysgol lle byddwch wedyn yn hyfforddi wrth weithio. Mae'r ysgol wedi ymrwymo'n llwyr i gefnogi ymgyrch Llywodraeth Cymru i ehangu mynediad at addysgu ac i amrywio'r proffesiwn.
Mae'r rhaglen wedi'i hanelu at raddedigion sydd eisiau newid gyrfa neu raddedigion sydd â phrofiad o weithio mewn amgylchedd gyda phlant a phobl ifanc. Gall hyn gynnwys cynorthwywyr addysgu, hyfforddwyr dysgu neu swyddogion ieuenctid sydd eisiau symud ymlaen yn eu gyrfa. Croesewir ceisiadau hefyd gan ymgeiswyr sydd yn eu blwyddyn olaf yn y brifysgol.
Bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn cael cyfle i hyfforddi gyda staff profiadol ac arloesol yn Ysgol Bro Hyddgen ar raglen TAR y Brifysgol Agored. Mae gan yr ysgol gymuned unigryw a theimlad teuluol a Chymreig lle mae perthynas agos o ymddiriedaeth, gofal a pharch rhwng pobl ifanc a staff. Mae elfen gref o gydweithredu a chefnogaeth barod ymhlith y tîm staff, lle mae'r holl aelodau o staff yn deall pa mor hanfodol yw eu rôl yn llwyddiant a lles ein plant, pobl ifanc, a'n gilydd fel oedolion proffesiynol.
Rydym yn chwilio am unigolyn sy'n angerddol am gefnogi gweledigaeth yr ysgol ac felly gwneud gwahaniaeth mawr mewn addysg ac ym mywydau ein pobl ifanc drwy gyfrwng y Gymraeg. Bydd deiliad y swydd hon yn derbyn cefnogaeth lawn yr ysgol a'i phobl wrth iddynt ddatblygu i fod yn addysgwr hyderus, arloesol a chreadigol.
Mae angen Gwiriad Manylach y DBS i'r swydd hon.