MANYLION.
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Kerry,
- Pwnc: Heb ei ddarparu
- Oriau: Llawn amser
- Cytundeb: Parhaol
- Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
- Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
- Math o gyflog: Per annum
- Cyflog: Graddfa 5 Pwynt 7 i Bwynt 9 £26,403 i £27,254 y flwyddyn ar gyfartaledd £13.68 i £14.12 yr awr
- Iaith: Unrhyw
- Dyddiad Cau: 03 Gorffennaf, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cynorthwyydd Addysgu - Lefel 2 (Arbennig) (Ysgol Neuadd Brynllywarch)
Cyngor Sir Powys
Cyflog: Graddfa 5 Pwynt 7 i Bwynt 9 £26,403 i £27,254 y flwyddyn ar gyfartaledd £13.68 i £14.12 yr awr
Cynorthwyydd Addysgu - Lefel 2 (Arbennig) (Ysgol Neuadd Brynllywarch)Swydd-ddisgrifiad
Cynorthwyydd Addysgu - Lefel 2 (Arbennig)
Mae'r Corff Llywodraethu'n chwilio am gynorthwyydd addysgu llawn-amser i ymuno â'n tîm deinamig.
Byddwch yn berson brwdfrydig, ymroddedig a llawn cymhelliant sy'n mwynhau gweithio fel rhan o dîm i gefnogi myfyrwyr ag ymddygiadau heriol. Mae cyfle hefyd i gynorthwyo gyda threfniadau teithio ein disgyblion ar ddechrau a diwedd y diwrnod ysgol a gallwch hawlio am yr oriau sy'n cael eu gweithio yn ychwanegol at eich cyflog.
Dylai'r ymgeisydd llwyddiannus fod â'r canlynol: -
• Profiad o weithio gyda myfyrwyr ag anawsterau cymdeithasol, emosiynol ac ymddygiadol.
• Y gallu i weithio gyda grwpiau o 8 i 10 o fyfyrwyr yn ogystal ag un i un.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn destun gwiriad Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) Cyngor Sir Powys a chofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg (EWC) a bydd angen dau eirda boddhaol arnom hefyd cyn dechrau'r swydd.
Ar gyfer ffurflenni cais a disgrifiad swydd, anfonwch e-bost at:
recruitment@powys.gov.uk neu gwnewch gais ar-lein yn www.powys.gov.uk
Am drafodaeth anffurfiol a rhagor o wybodaeth, cysylltwch â:
Mrs Suzanne Williams, Rheolwr Busnes ar 01686 670276.