MANYLION.
  • Lleoliad: Llanfaes,
  • Pwnc: Heb ei ddarparu
  • Oriau: Rhan amser
  • Cytundeb: Dros dro
  • Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
  • Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
  • Math o gyflog: Per annum
  • Cyflog: Graddfa 4 Pwynt 5 i Bwynt 6 £25,583 i £25,989 y flwyddyn ar gyfartaledd £13.26 i £13.47 yr awr
  • Iaith: Unrhyw
  • Dyddiad Cau: 22 Mehefin , 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Cynorthwyydd Safle Cyn -Ysgol (Dechrau'n Deg) (Ysgol Llanfaes)

Cyngor Sir Powys

Cyflog: Graddfa 4 Pwynt 5 i Bwynt 6 £25,583 i £25,989 y flwyddyn ar gyfartaledd £13.26 i £13.47 yr awr

Cynorthwyydd Safle Cyn -Ysgol (Dechrau'n Deg) (Ysgol Llanfaes)
Swydd-ddisgrifiad

Ar hyn o bryd mae gan Gyngor Sir Powys dâl atodol Cyflog Byw Gwirioneddol yn ôl disgresiwn i weithwyr sy'n ennill llai na £13.45 yr awr.

Lleoliad Cyn-ysgol - Cynorthwyydd Dechrau'n Deg
Swydd Wag Dechrau'n Deg Camau Bach / Little Steps Flying Start
Mae Camau Bach Dechrau'n Deg Llanfaes / Little Steps Flying Start yn dymuno penodi
Cynorthwyydd Lleoliad Cyn-ysgol brwdfrydig ac addas ei brofiad i weithio yn eu lleoliad 2+.
Bydd y lleoliad yn darparu dechrau rhagorol i ddysgu i blant mewn amgylchedd bywiog, mewn cysylltiad agos ag Ysgol Llanfaes.
Bydd yn cynnig 2.5 awr o ofal plant y dydd, yn ystod y tymor ysgol yn unig. Mae'r lleoliad wedi'i gofrestru ar hyn o bryd ar gyfer 8 lle. Bydd y swydd am 18.5 awr yr wythnos ar sail cytundeb cyfnod penodol.**
Gofynion Hanfodol
• Cymhwyster Lefel 3 / Gradd 4 o leiaf, wedi'i gydnabod ar restr cymwysterau derbyniol Arolygiaeth Gofal Cymru ar gyfer gofal dydd plant.
• Mae profiad o weithio gyda phlant ag anghenion dysgu ychwanegol yn
ddymunol.
• Dyddiad cau ceisiadau: 22 Mehefin 2026
• Ar ôl cyflwyno eich cais, byddwn yn anfon e-bost atoch i gadarnhau ein bod wedi'i dderbyn.
• Byddwn yn llunio rhestr fer o'r ceisiadau ar 24 Mehefin 2026. Byddwn yn anfon e-bost atoch i'ch hysbysu p'un a ydych wedi bod yn llwyddiannus ai peidio, felly cadwch lygad ar eich mewnflwch!
• Cynhelir y cyfweliadau ar 3 Gorffennaf 2026.
Mae rhagor o fanylion ar gael gan yr ysgol, felly mae croeso i chi gysylltu â ni. Dylid dychwelyd ffurflenni cais i'r ysgol neu eu cwblhau ar-lein. Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â Mrs C North, y Pennaeth, dros y ffôn.
01874 623326
Dymunwn bob lwc i chi gyda'ch cais.