MANYLION.
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Berriew,
- Pwnc: Heb ei ddarparu
- Oriau: Llawn amser
- Cytundeb: Parhaol
- Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
- Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
- Math o gyflog: Heb ei Gyflenwi
- Cyflog: Graddfa Grŵp 8-14 £62,612 - £72,579 y flwyddyn
- Iaith: Unrhyw
- Dyddiad Cau: 19 Mehefin , 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cyflog: Graddfa Grŵp 8-14 £62,612 - £72,579 y flwyddyn
Pennaeth (Ysgol Aberriw)Swydd-ddisgrifiad
PENODI PENNAETH YSGOL GYNRADD ABERRIW
Swydd barhaol llawnamser - angenrheidiol ar gyfer Ionawr 2027
Graddfa Grŵp 8-14
£62,612 - £72,579 y flwyddyn
NAG : 106
Mae'r swydd yn cynnwys ymrwymiad addysgu 2 ddiwrnod yr wythnos.
Mae Llywodraethwyr Ysgol Aberriw yn ceisio penodi Pennaeth ysbrydoledig, ymroddedig a
blaengar i arwain ein hysgol wledig lewyrchus i'w phennod gyffrous nesaf.
Mae Ysgol Aberriw yn ysgol groesawgar a meithringar yng nghanol ei chymuned, gyda 106 o ddisgyblion brwdfrydig sy'n ymddwyn yn dda, sy'n falch o'u hysgol ac sy'n awyddus i ddysgu. Rydym wedi ein hamgylchynu gan gymuned wledig gefnogol, ac yn gwerthfawrogi perthnasoedd
cryf, disgwyliadau uchel ac ethos gofalgar lle mae pob plentyn yn cael ei adnabod a'i annog i gyflawni ei orau glas.
Rhaid i'r ymgeisydd llwyddiannus feddu ar gymhwyster NPQH, neu fod wedi'i gofrestru ar hyn o bryd, neu weithio tuag at y rhaglen NPQH, ar gyfer swydd pennaeth dros dro.
Rydym yn chwilio am Bennaeth sy'n bodloni'r canlynol:
• Yn meddu ar weledigaeth glir ar gyfer addysgu a dysgu rhagorol
• Yn gallu ysbrydoli, ysgogi a chefnogi staff a disgyblion fel ei gilydd
• Dangos sgiliau arweinyddiaeth, cyfathrebu a threfnu cryf
• Gwerthfawrogi pwysigrwydd gweithio cymunedol a gweithio mewn partneriaeth
• Wedi ymrwymo i sicrhau bod pob plentyn yn ffynnu yn academaidd, yn gymdeithasol ac yn emosiynol
• Bydd yn parhau i adeiladu ar gryfderau'r ysgol wrth gofleidio cyfleoedd yn y dyfodol
Yn gyfnewid, rydym yn cynnig:
• Disgyblion brwdfrydig, cyfeillgar a hapus
• Tîm staff ymroddedig a phrofiadol
• Llywodraethwyr a rhieni cefnogol
• Ymdeimlad cryf o gymuned a pherthyn
• Y cyfle i wneud gwahaniaeth go iawn mewn lleoliad gwledig gwerth chweil
Mae croeso cynnes i ymweliadau â'r ysgol ac fe'u hanogir.
Os ydych chi'n arweinydd angerddol sydd â'r weledigaeth, y cynhesrwydd a'r uchelgais i arwain
Ysgol Aberriw, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych chi. Cysylltwch â:
office@berriew.powys.sch.uk
Pob cais i'w gyflwyno drwy: recruitment@powys.gov.uk
Dyddiad Cau: 19 Mehefin 2026
Dyddiad y Cyfweliad: 6 Gorffennaf 2026