MANYLION.
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Wrexham,
- Pwnc: Heb ei ddarparu
- Oriau: Heb ei ddarparu
- Cytundeb: Parhaol
- Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
- Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
- Math o gyflog: Heb ei Gyflenwi
- Cyflog: £20,734 - £ 24,319
- Iaith: Unrhyw
- Dyddiad Cau: 19 Mehefin , 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cyflog: £20,734 - £ 24,319
Ynglŷn â'r Rôl•Dyddiad cychwyn: Medi'r 1af 2026
35 awr yr wythnos
Parhaol
Yn ystod y tymor yn unig heb wyliau yn ystod y tymor
O ganlyniad i ymddeoliad y sywddog gweinyddol presennol, mae'r Corff Llywodraethol am apwyntio swyddog gweinyddol brwdfrydig a threfnus i ymuno efo staff Ysgol Plas Coch.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio'n agos gyda'r Pennaeth, yr Uwch Dim Rheoli a staff ehangach yr ysgol i ddarparu cefnogaeth weinyddol a threfniadol o safon uchel er mwyn sicrhau bod swyddfa'r ysgol yn rhedeg yn llyfn ac yn effeithlon. Bydd yn gweithredu fel y prif bwynt cyswllt i rieni/gofalwyr, disgyblion, staff ac ymwelwyr, gan greu amgylchedd croesawgar a phroffesiynol.
Bydd y rôl yn cynnwys amrywiaeth eang o ddyletswyddau megis gwaith derbynfa, ymateb i ymholiadau ffôn a wyneb yn wyneb, cynnal cofnodion llaw a chyfrifiadurol, cynhyrchu adroddiadau a gohebiaeth, cefnogi cyfathrebiadau'r ysgol, cynorthwyo gyda theithiau a digwyddiadau, a chyflawni gweinyddiaeth ariannol reolaidd.
Bydd yr ymgeisydd delfrydol yn:
• Meddu ar sgiliau trefnu a gweinyddol cryf
• Hyderus wrth ddefnyddio systemau TGCh a meddalwedd swyddfa
• Meddu ar sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol rhagorol
• Gallu gweithio'n effeithlon ac yn gywir a rheoli llwyth gwaith amrywiol
• Dangos gallu i weithio'n annibynnol ac fel rhan o dîm
• Meddu ar brofiad o waith clerigol neu weinyddol cyffredinol
• Dangos ymrwymiad i gyfrinachedd, diogelu a diogelu data
Byddai profiad o weithio mewn amgylchedd ysgol a gwybodaeth o systemau ysgol yn ddymunol ond nid yn hanfodol.
Mae'r gallu i siarad ac ysgrifennu yn Gymraeg yn hanfodol i'r swydd.
Ysgol benodol Gymraeg yw Ysgol Plas Coch wedi'i lleoli ar gyrion tref Wrecsam. Gallwn gynnig awyrgylch ac ethos hyfryd ymysg y staff a'r plant sy'n cyfrannu'n helaeth at lwyddiant yr ysgol.
Am wybodaeth bellach, neu os am ymweld efo'r ysgol, cysylltwch efo'r pennaeth yn yr ysgol.
Mae'r Cyngor yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr â chymwysterau addas heb ystyried hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol nac oed.
Mae'r Cyngor yn ymrwymedig i ddatblygu ei weithlu dwyieithog ac mae'n croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n dangos eu gallu i weithio yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni fydd ceisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn y Saesneg.
Dyddiad cau: Mehefin 19eg 2026
Dyddiad cyfweliadau i'w gadarnhau
•
•
Amdanom Ni
Amdanom ni - Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn gweinyddu gwasanaethau amrywiol sy'n helpu i wella bywydau trigolion Wrecsam a'r cymunedau o'n cwmpas. Rydym yn ymrwymedig i ddarparu gwasanaethau o safon uchel drwy gydweithredu gyda phartneriaid lleol a chenedlaethol. Gyda phwyslais ar ddatblygiad cynaliadwy, lles y gymuned a chyfleoedd cyfartal i bawb, mae Wrecsam yn lle gwych i weithio, byw a dysgu.
Yn y Cyngor, rydym yn gwerthfawrogi amrywiaeth, cefnogi twf personol a phroffesiynol, ac yn darparu amgylchedd gwaith hyblyg a chefnogol. Ymunwch â ni i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl Wrecsam a thros y rhanbarth ehangach.
About Us - Wrexham County Borough Council
Wrexham County Borough Council delivers a wide range of services aimed at improving the lives of Wrexham residents and surrounding communities. We are committed to providing high-quality services through collaboration with local and national partners. With a focus on sustainable development, community wellbeing, and equal opportunities for all, Wrexham is a fantastic place to work, live, and learn.
At the Council, we value diversity, support personal and professional growth, and offer a flexible and supportive working environment. Join us to make a real difference in the lives of people in Wrexham and the wider region.