MANYLION.
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Llandysul,
- Pwnc: Heb ei ddarparu
- Oriau: Llawn amser
- Cytundeb: Cyfnod penodol
- Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
- Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
- Math o gyflog: Per annum
- Cyflog: 25,185 *
- Iaith: Unrhyw
- Dyddiad Cau: 16 Mehefin , 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cynorthwyydd Addysgu Lefel 2 x 2 - Ysgol T. Llew Jones
Cyngor Sir Ceredigion
Cyflog: 25,185 *
Ynglŷn â'r rôlThe following is an advert where the ability to communicate through the medium of Welsh and English is essential.
Rydym am benodi dau Cynorthwyydd Dosbarth Lefel 2 i'n cynorthwyo i gefnogi a chyflwyno dysgu yn Ysgol T Llew Jones.
Lleolir Ysgol T Llew Jones, ym mhentref Brynhoffnant, Ceredigion. Mae tua 165 o ddisgyblion ar gofrestr yr ysgol. Mae'r ysgol yn sefydliad hapus, a chyfeillgar gyda'r disgyblion yn ganolog i holl weithgareddau'r ysgol. Rydym yn chwilio am berson brwdfrydig, egniol i ymuno a thîm llwyddiannus er mwyn sicrhau y cyfleoedd gorau ar gyfer disgyblion yr ardal.
Fe fydd gofyn i chi:
- Goruchwylio a darparu cefnogaeth neulltiol i ddisgyblion, gan gynnwys y rheiny âg anghenion arbennig, gan sicrhau eu bod yn ddiogel a bod ganddynt fynediad at weithgareddau dysgu;
- Sefydlu perthynas adeiladol gyda holl ddisgyblion, gan ryngweithio yn unol â'u hanghenion unigol;
- Herio a symbylu disgyblion, hyrwyddo ac atgyfnerthuhunan-werth;
- Annog disgyblion i ryngweithio ag eraill ac i gymryd rhan mewn gweithgareddau o dan yr athro neu'r athrawes;
- Cynorthwyo gyda'r gwaith o gynllunio a chyflwyno gweithgareddau dysgu penodol megis ymyrraethau fel Trandep a Chyfrif Ceredigion neu Els
Rydym am benodi unigolyn sydd â:
- Sgiliau rhifedd/llythrennedd da yn y Gymraeg a'r Saesneg;
- Sgiliau cyfathrebu gwych ac yn meddu ar y gallu i adeiladu perthnasau dros ystod oedran a gallu
- Dealltwriaeth gyffredinol o'r Cwricwlwm i Gymru/ rhaglenni a strategaethau dysgu sylfaenol eraill e.e Trandep / Cyfrif Ceredigion;
- Gweithio'n adeiladol a hyblyg yn rhan o dîm, deall cyfrifoldebau a swyddogaethau'r ystafell ddosbarth a'ch safle bersonol o fewn y swyddogaethau hynny;
Pecyn Gwybodaeth
Fe fydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn mwynhau gweithio mewn amgylchedd prysur, drwy ddefnyddio'u menter, gydag rhagolwg bositif a gwir ddiddordeb mewn cefnogi anghenion dysgu'r disgyblion.
I gydnabod eich sgiliau a'ch ymrwymiad, fe fyddwn yn cynnig amrediad o fuddion gweithwyr gan gynnwys cynllun pensiwn cyflogwr hael. Gallwch ddysgu mwy am ein buddion gweithwyr drwy ymweld â'r wefan yma.Rydym wedi ymrwymo i ddatblygu ein pobl a byddwn yn darparu cefnogaeth i'ch galluogi i gymryd perchnogaeth o feysydd cyfrifoldeb allweddol y rôl hon yn gyflym ac yn hyderus.
Am fwy o wybodaeth mae croeso i chi gysylltu â'r Pennaeth Mrs Rhian Lloyd ar 01239 654553 neu ebostiwch lloydm38@hwbcymru.net.
Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.
Rydym wedi ymrwymoi ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o'r ymrwymiadhwn,maerhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch. Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau'r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a'ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.
Yr hyn a gynigwn
Cydbwysedd bywyd a gwaith
Cynllun cynilo ffordd o fyw
Cynllun pensiwn cyflogwr hael
Cynllun beicio i'r gwaith
Dysgu a datblygu
Lle byddwch yn gweithio
Gwasanaeth Ysgolion a Diwylliant
Rydym yn cynnig her a chefnogaeth briodol i'n hysgolion, i'w helpu i gyflwyno addysg o'r radd flaenaf i bob disgybl, ar draws yr ystod oedran a gallu. Mae ein prif swyddogaethau yn cynnwys:
- Gwella Ysgolion: Arweinyddiaeth; Cefnogaeth a Her, Addysgu a Dysgu; Llythrennedd Digidol; Llythrennedd a Rhifedd; Cymraeg mewn Addysg
- Anghenion Dysgu Ychwanegol: Darpariaeth ar gyfer disgyblion ag Anghenion Dysgu Ychwanegol, Cynhwysiant; Presenoldeb; Seicoleg Addysg
- Lles Disgyblion: Cwnsela; Lles; Gwrth-fwlio, Llais Disgyblion
- Llywodraethu Addysg: Data; Cefnogaeth Llywodraethwyr, Cefnogaeth polisi
- Derbyniadau Ysgol
- Diwylliant: Gwasanaeth Cerdd; Cered; Theatr Felinfach; Amgueddfa
- Seilwaith ac Adnoddau: cynllunio lleoedd ysgol, moderneiddio a rhaglen ysgolion yr Unfed Ganrif ar Hugain, Adeiladau; Grantiau
- Arlwyo: Canolfannau Dydd; Ysgolion cynradd; Cartrefi preswyl
- Uned Gofal Plant: Asesiad Digonolrwydd Gofal Plant; Grant Gofal Plant a Chwarae; Cynnig Gofal Plant Cymorth busnes a hyfforddiant staff ar gyfer Darpariaeth Ôl Ysgol (Clybiau ar ôl Ysgol a Chlybiau Gwyliau); Meithrinfeydd Dydd, Cylchoedd Meithrin/Chwarae a Gwarchodwyr Plant
Darllen mwy