MANYLION.
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Machynlleth,
- Pwnc: Heb ei ddarparu
- Oriau: Llawn amser
- Cytundeb: Heb ei ddarparu
- Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
- Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
- Math o gyflog: Heb ei Gyflenwi
- Cyflog: Cyflog athrawon dosbarth & Lwfans CAD 2A
- Iaith: Unrhyw
- Dyddiad Cau: 14 Mai, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cyflog: Cyflog athrawon dosbarth & Lwfans CAD 2A
Arweinydd Cyfnod Allweddol 2 (Ysgol Bro Hyddgen)Swydd-ddisgrifiad
Mae'r gallu i ddefnyddio'r Gymraeg yn gymhwyster hanfodol ar gyfer y
swydd hon
Prif Ddyletswyddau a Chyfrifoldebau
• Dysgu ac addysgu
o Cynghori a chydweithio gyda'r dirprwy bennaeth, pennaeth cynorthwyol (cynradd) ac athrawon eraill (neu unrhyw un neu fwy ohonynt) ar gynllunio a datblygu cyrsiau astudio, deunyddiau addysgu, rhaglenni addysgu, dulliau addysgu a threfniadau asesu
o Bod yn fodel rôl o ran arferion dysgu ac addysgu, a bod yn barod i rannu a modelu arferion
o Cynllunio a pharatoi gwersi symbylus a heriol ar gyfer yr ystod gallu gan
sicrhau bod pob dysgwr yn cael y cyfle i lwyddo i'w lawn botensial
o Cynllunio i ddarparu cyfoeth o brofiadau pwrpasol i'w gwneud yn ddysgwyr cyflawn a medrus
o Dysgu, yn ôl eu hanghenion addysgol, y dysgwyr a neilltuwyd i ddeilydd y swydd, gan gynnwys gosod ac asesu gwaith i'w gwblhau gan y dysgwr
o Cydweithio gyda darparwyr Cyfnod Dysgu Sylfaen a'r sector uwchradd fel rhan o weithdrefnau trosglwyddo'r ysgol