MANYLION.
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Schools,
- Pwnc: Heb ei ddarparu
- Oriau: Heb ei ddarparu
- Cytundeb: Cyfnod penodol
- Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
- Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
- Math o gyflog: Heb ei Gyflenwi
- Cyflog: NJC G02 pwynt 4-5 £21,116 - £21,450 y flwyddyn \n\n
- Iaith: Unrhyw
- Dyddiad Cau: 21 Mai, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cymhorthydd Gweinyddol Lefel 2\/Derbynnydd Dros Dro - Ysgol Dyffryn Conwy
Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
Cyflog: NJC G02 pwynt 4-5 £21,116 - £21,450 y flwyddyn \n\n
YSGOL DYFFRYN CONWYYn eisiau erbyn mis Medi 2026
Cymhorthydd Gweinyddol Lefel 2 / Derbynnydd Dros Dro
(Dros gyfnod mamolaeth)
Cyflog: NJC G02 pwynt 4-5 £21,116 - £21,450 y flwyddyn
Oriau: 37 awr yr wythnos - tymor ysgol yn unig
Lleoliad - Ysgol Dyffryn Conwy
Mae Ysgol Dyffryn Conwy yn ysgol Gymunedol ddwyieithog gyda 630 o ddisgyblion oedran 11-18 yn cynnwys 106 yn y Chweched Dosbarth. Lleolir yr ysgol yn nhref Llanrwst gyda'r ysgol yn gwasanaethu'r dref a'r holl Ddyffryn.
Yn Ysgol Dyffryn Conwy credwn yn gryf mewn partneriaeth a'r disgyblion, rhieni a'r gymuned ehangach. Cynigwn i bob disgybl beth bynnag eu gallu a chefndir ymdeimlad o werth, hunan hyder ac ysgol hapus a chartrefol. Anelwn at ddarparu'r addysg orau posib i ddatblygu dysgwyr yn hyderus ddwyieithog ac yn ddysgwyr annibynnol gyda'r sgiliau angenrheidiol i'r dyfodol.
Ein nod yw datblygu pob plentyn er mwyn sicrhau eu bod yn cyrraedd eu potensial mewn sawl maes a thrwy amrywiol weithgareddau a chyfleoedd. Sicrheir cwricwlwm addas, eang a heriol i bob plentyn. Credwn mewn llwyddiant i bawb, gan roi pob cymorth iddynt lwyddo.
Am ragor o fanylion ynglŷn â'r swydd cysylltwch â Mrs Ffion Sabit, Cymhorthydd Personol y Pennaeth ar 01492-642802 neu e-bost fs@dyffrynconwy.conwy.sch.uk
Mae'r gallu i gyfathrebu trwy gyfrwng y Gymraeg yn hanfodol. Oherwydd natur y swydd byddwn yn gofyn am ddatgeliad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd ar gyfer yr ymgeiswyr llwyddiannus. Ni fyddwn yn derbyn CV heb ffurflen gais.
Bydd cyfweliadau yn cael eu cynnal 04/06/2026
Mae Conwy wedi ymrwymo i ddiogelu - bydd cymwysterau a geirdaon yn cael eu gwirio. Os na fyddwch yn cael gwybod o fewn 3 wythnos wedi'r dyddiad cau eich bod ar restr fer ar gyfer cyfweliad, rhaid i chi gymryd yn ganiataol na fyddwch yn cael cyfweliad. Ni fyddwch yn cael gwybod hynny ar bapur. Wrth fynd ati i hyrwyddo cyfle cyfartal, mae Conwy yn croesawu ymgeiswyr o bob rhan o'r gymuned. Bydd pob ymgeisydd anabl sy'n diwallu gofynion hanfodol swydd yn cael cyfweliad.
This form is also available in English