MANYLION.
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Llandrindod Wells,
- Pwnc: Heb ei ddarparu
- Oriau: Rhan amser
- Cytundeb: Dros dro
- Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
- Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
- Math o gyflog: Per annum
- Cyflog: Graddfa 6 Pwynt 11 i Bwynt 14 £28,142 i £29,540 y flwyddyn ar gyfartaledd £14.58 i £15.31 yr awr
- Iaith: Unrhyw
- Dyddiad Cau: 13 Mai, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cyflog: Graddfa 6 Pwynt 11 i Bwynt 14 £28,142 i £29,540 y flwyddyn ar gyfartaledd £14.58 i £15.31 yr awr
Arweinydd Lleoliad Cyn Ysgol (Ysgol Trefonnen)Swydd-ddisgrifiad
Mae Ysgol Trefonnen yn ysgol fro ddwy ffrwd, a reolir yn wirfoddol ar gyfer plant 4-11 oed; mae rhai o'n plant yn dysgu'n gyfan gwbl trwy gyfrwng y Gymraeg a rhai trwy'r Saesneg. Fodd bynnag, mae ein holl ddisgyblion yn rhannu'r profiad cyffredin o fyw a dysgu yng Nghymru. O fewn adeilad yr ysgol, mae gennym saith ystafell ddosbarth, dau
grŵp Blynyddoedd Cynnar cyn-ysgol (cyfrwng Cymraeg a Saesneg), dau leoliad Dechrau'n Deg a ariennir gan Lywodraeth Cymru, Clwb Gwyliau Haf Bwyd a Hwyl
buddiol ac Oergell Gymunedol hynod lwyddiannus.
ARWEINYDD BLYNYDDOEDD CYNNAR Darpariaeth Cymraeg (Parhaol)
12.5 awr yr wythnos - gan ddechrau cyn gynted ag y bydd yr ymgeisydd a phenodir yn gallu cychwyn
Ar hyn o bryd mae gennym gyfle ar gyfer ARWEINYDD BLYNYDDOEDD CYNNAR i ymuno â'n tîm dibynadwy, gweithgar ac effeithlon.
Rydym yn chwilio am gynorthwyydd sydd:
• wedi cyflawni cymhwyster lefel 3 sy'n cael ei gydnabod ar restr gyfredol Cyngor Gofal Cymru o Gymwysterau a Dderbynnir ar gyfer y Blynyddoedd Cynnar neu'n sy'n barod i weithio tuag at y gymhwyster hwn
• yn gyfathrebwr da yn y Gymraeg a'r Saesneg
• yn cael dealltwriaeth gadarn o egwyddorion ac arferion y Blynyddoedd Cynnar ac
➢ bod yn gyfrifol am y gwaith o redeg y lleoliad o ddydd i ddydd gan gynnwys y goruchwylio a chefnogi staff
➢ sicrhau bod y gwaith o gynllunio, cyflawni ac adolygu profiadau a
gweithgareddau'n cyfrannu at brofiadau a gweithgareddau o ansawdd
uchel yn seiliedig ar chwarae.
➢ Bod yn gyfrifol am bolisiau, hunan-werthuso, asesiadau a chadw cofnodion
➢ Cynnal amgychledd ddysgu croesawgar, diogel ac wedi'I threfnu'n dda
➢ Bod yn model rol dda ar gyfer iaith
➢ Cefnogi plant yn gyson wrth gydnabod ac ymateb i'w hanghenion unigol.
➢ yn hyrwyddo cynhwysiant.
Y patrwm gwaith ar gyfer y rôl hon yw:
12.5 awr Dydd Llun i ddydd Iau 9-11.30 ar hyn o bryd ond gall hyn newid i'r prynhawn ynghyd ag 1.5 awr o amser weinyddol
Graddfa 6 Pwynt 11
£28142 pro rata / £14.59 per hr
Dyddiad cau: 13.5.26
Creu rhestr: I'w gadarnhau
Interview date: I'w gadarnhau TBC
Am fwy o wybodaeth cysylltwch â'r ysgol ar 01597 822190 neu
office@trefonnen.powys.sch.uk
Mae angen Gwiriad Manylach y DBS i'r swydd hon