MANYLION.
  • Lleoliad: Ygg Blaendulais,
  • Pwnc: Heb ei ddarparu
  • Oriau: Llawn amser
  • Cytundeb: Parhaol
  • Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
  • Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
  • Math o gyflog: Heb ei Gyflenwi
  • Cyflog: Blank
  • Iaith: Saesneg
  • Dyddiad Cau: 01 Mehefin , 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Level 2 Teaching Assistant (Welsh)

Cyngor Castell-nedd Port Talbot

Cyflog: Blank

Swydd Cynorthwy-ydd Lefel 2 llawn amser (27.5 awr)

+ Goruwchwyliwr Cinio Lefel 2 (2.5 awr)

Swydd Cynorthwy-ydd: POSN1020859

27.5 awr, Gradd 3, pwyntiau graddfa 3-5, cyfradd tâl pro rata £15,922 - £16,473 (yn amodol ar addasiad amser tymor). Bydd y cyflog a nodir yn destun addasiad ar sail amser tymor yn unig os bydd dechrau'r gyflogaeth yn digwydd y tu allan i'r dyddiad cychwyn safonol sef 1 Medi.

Swydd Goruwchwyliwr Cinio : POSN1020860

2.5 awr Gradd 2, Cyfradd tâl £1,675 pro rata (yn amodol ar addasiad amser tymor). Bydd y cyflog a nodir yn destun addasiad ar sail amser tymor yn unig os bydd dechrau'r gyflogaeth yn digwydd y tu allan i'r dyddiad cychwyn safonol sef 1 Medi.

I ddechrau 1af o Fedi 2026

Mae'r Corff Llywodraethol yn awyddus i benodi unigolyn dibyniadwy a brwdfrydig i ymuno â'r ysgol hapus, gartrefol a llwyddiannus hon. Bydd disgwyl i'r ymgeisydd llwyddiannus gefnogi ethos gefnogol a gofalgar yr ysgol.

Mae'r gallu i siarad ac ysgrifennu yn y Gymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon.

Mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn gwbl ymroddedig i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc, ac mae'n disgwyl i'r holl staff a gwirfoddolwyr rannu'r ymroddiad hwn. Mae gan ein hysgolion yr un ymroddiad i sicrhau bod ein holl blant a phobl ifanc yn cael eu diogelu a'u hamddiffyn a byddant yn gweithredu i ddiogelu eu lles.

Wrth wraidd y broses recriwtio ar gyfer y swydd hon bydd asesiad recriwtio mwy diogel trylwyr i sicrhau bod plant a phobl ifanc yn cael eu hamddiffyn.
Mae'r swydd hon yn amodol ar Ddatgeliad Manwl y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (Plant).

Gellir cael gwybodaeth bellach drwy gysylltu â Mrs Kathryn Penhale.

Dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ceisiadau yw 12:00 canol dydd, Dydd Llun, 1 af o Fehefin.