MANYLION.
  • Lleoliad: Llandudno,
  • Pwnc: Heb ei ddarparu
  • Oriau: Heb ei ddarparu
  • Cytundeb: Parhaol
  • Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
  • Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
  • Math o gyflog: Heb ei Gyflenwi
  • Cyflog: Graddfa Cyflog Athrawon + CAD 2b
  • Iaith: Unrhyw
  • Dyddiad Cau: 14 Mai, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Pennaeth Cerdd - Ysgol Y Creuddyn

Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy

Cyflog: Graddfa Cyflog Athrawon + CAD 2b

YSGOL Y CREUDDYN

FFORDD DERWEN, BAE PENRHYN,

LLANDUDNO, LL30 3LB

Rhif Ffôn: 01492 544 344
Rhif Ffacs: 01492 547 594
E-bost: swyddfa@creuddyn.conwy.sch.uk
Gwefan: http://moodle.creuddyn.conwy.sch.uk

Ysgol Uwchradd Benodedig Gymraeg 11-18 oed (695 o ddisgyblion)

Yn eisiau erbyn mis Medi 2026

PENNAETH CERDD

Gwahoddir ceisiadau gan athrawon brwdfrydig ac ymroddedig sy'n meddu'r sgiliau angenrheidiol i arwain yr adran Gerdd o fewn yr ysgol. Mae'r gallu i gyfathrebu trwy gyfrwng y Gymraeg yn hanfodol

Oherwydd natur y swydd byddwn yn gofyn am ddatgeliad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd ar gyfer yr ymgeisydd llwyddiannus. Mae yn ofynnol bod yr ymgeisydd llwyddiannus yn cofrestru gyda Cyngor y Gweithlu Addysg cyn cychwyn gweithio yn y swydd hon.

Gweler pecyn gwybodaeth https://new.express.adobe.com/webpage/EdDtFWu8IYZhH

Am wybodaeth pellach, cysylltwch â Mrs Bethan Oliver-Jones

Rhif ffôn 01492 544344 neu bursar@creuddyn.conwy.sch.uk

Noder nid yw'r awdurdod yn cyhoeddi ffurflenni cais ac nid yw'n derbyn CV.

Bwriedir cynnal y cyfweliadau yn ystod wythnos yn dechrau 18/05/2026

Mae Conwy wedi ymrwymo i ddiogelu - bydd cymwysterau a geirdaon yn cael eu gwirio. Os nad ydych wedi derbyn ymateb o fewn 3 wythnos i'r dyddiad cau, rhaid i'r ymgeiswyr tybio nad ydynt wedi cael eu cynnwys yn y rhestr fer ac felly ni fyddent yn cael eu hysbysu mewn ysgrifen. Wrth fynd ati i hyrwyddo cyfle cyfartal, mae Conwy yn croesawu ymgeiswyr o bob rhan o'r gymuned. Bydd pob ymgeisydd anabl sy'n diwallu gofynion hanfodol swydd yn cael cyfweliad.

This form is also available in English