MANYLION.
  • Lleoliad: Merthyr, CF48 1AR
  • Pwnc: Heb ei ddarparu
  • Oriau: Heb ei ddarparu
  • Cytundeb: Heb ei ddarparu
  • Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
  • Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
  • Math o gyflog: Blynyddol
  • Cyflog: £33,596 - £51,931
  • Iaith: Unrhyw
  • Dyddiad Cau: 17 Ebrill, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Darlithydd Adeiladwaith Gwaith Saer ac Aml-sgiliau

Y Coleg Merthyr Tudful

Cyflog: £33,596 - £51,931

Mae Y Coleg Merthyr Tudful yn recriwtio darlithydd i addysgu Gwaith Saer ac Aml-sgiliau i fyfyrwyr mewn gwersi ymarferol a theori ar draws Lefelau 1-2 ac o bosib L3 Gwaith Saer a hefyd Lefel 1 Aml Grefftau. Mae hwn yn gyfle gwych i ddarlithydd arloesol ac ysbrydoledig darparu dysgwyr a phrofiad dysgu rhagorol a bod yn rhan annatod o dîm ymrwymedig a deinamig. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn addysgu ar draws pob un o'r meysydd canlynol, gyda gwybodaeth ragorol o Waith Saer a gwybodaeth ehangach o (Paentio ac Addurno, Plastro a Gwaith Brics)

Bydd gennych gymhwyster lefel uwch (Lefel 3 neu'n uwch) mewn Gwaith Saer ac yn ddymunol profiad perthnasol yn y diwydiant adeiladwaith neu o addysgu yn y meysydd cysylltiedig. Dylech fod ag ymrwymiad cryf i safonau uchel o arferion dosbarth ac o bosib profiad o addysgu neu weithio gyda phobl ifanc. Mae'r Coleg yn cynnig rhaglen sefydlu strwythuredig i'r rhai sydd yn newydd, ac yn dibynnu ar eich profiad efallai byddech yn cael eich paru a mentor profiadol i'ch cefnogi wrth i'ch profiad a sgiliau cryfhau.

Prif Ofynion Person

  • Cymhwyster lefel uwch (Lefel 3 neu'n uwch) mewn disgyblaeth berthnasol
  • Cymhwyster asesydd (TAQA/A1 neu gyfwerth) neu ymrwymiad i weithio tuag ato;
  • Dyfarniad Gwiriwr (neu ymrwymiad i weithio tuag ato);
  • Profiad mewn aml-sgiliau
  • Profiad profedig yn y diwydiant adeiladwaith;
  • Dealltwriaeth o gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yng ngwaith a'r amgylchedd dysgu;
  • Profiad galwedigaethol cyfredol
  • Gwiriad DBS manylach
  • Delio â chyflogwyr mewn gallu proffesiynol


Rydym yn croesawu ceisiadau gan Athrawon sydd Newydd Gymhwyso ac o ymarferwyr cyfredol sydd heb gymhwyster addysgu ond yn barod i weithio tuag at y cymhwyster.

Mae gwiriad DBS a chofrestriad CGA yn ofynion y swydd hon.

Rydym yn disgwyl i staff hybu ein gwerthoedd Coleg byw; Proffesiynol, Ysbrydoledig, Cydweithredol a Chefnogol

Yn Y Coleg Merthyr Tudful, rydym yn sefydliad cynhwysol lle nid yn unig rydym yn derbyn gwahaniaeth - rydym yn ei ddathlu ac yn croesawu ceisiadau gan bobl o bob diwylliant a chefndiroedd.

Ymgeisiwch trwy ffurflen gais yn unig, os gwelwch yn dda.

Dyddiad cau am geisiadau: 17/04/2026