MANYLION.
  • Lleoliad: Ysgol Uwchradd Tywyn,
  • Pwnc: Heb ei ddarparu
  • Oriau: Heb ei ddarparu
  • Cytundeb: Dros dro
  • Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
  • Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
  • Math o gyflog: Blynyddol
  • Cyflog: £35,875 y flwyddyn
  • Iaith: Unrhyw
  • Dyddiad Cau: 14 Ebrill, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Athro/Athrawes Cymraeg Ysgol Uwchradd Tywyn (Hyfforddai fel athro Uwchradd)

Cyngor Gwynedd

Cyflog: £35,875 y flwyddyn

Manylion
Hysbyseb Swydd

ADRAN ADDYSG

YSGOLION UWCHRADD

YSGOL UWCHRADD TYWYN

(Cyfun 11 - 16; 374 o ddisgyblion)

Yn eisiau: 1 Medi, 2026

ATHRO/ ATHRAWES CYMRAEG (Hyfforddi fel Athro Uwchradd)

Cytundeb dros dro am ddwy flynedd hyd at 31/08/2028 yn unig yw hwn.

Mae'r Ysgol yn awyddus i benodi Athro/Athrawes Cymraeg, Gwyddoniaeth, Mathemateg a Thechnoleg (Hyfforddi fel Athro Uwchradd) 4 swydd wahanol - gweler gweddill yr hysbysebion am fwy o fanylion.

Mae'r cynllun hwn wedi'i gefnogi gan Y Brifysgol Agored.

Telir cyflog yn unol â Graddfa Gyflog Athrawon Digymhwyster (£22,685 - £35,875) y flwyddyn yn ôl profiad a chymwysterau.

Mae'r gallu i addysgu trwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon.

Gwahoddir unrhyw un sydd â diddordeb a/neu angen mwy o wybodaeth i drafod yn anffurfiol â'r Pennaeth, Mr David Thorp, pennaeth@tywyn.ysgoliongwynedd.cymru neu ffôn 01654 710256.

Gellir cyflwyno cais am y swydd yma ar-lein ar wefan Cyngor Gwynedd neu mae pecyn cais i'w cael gan Mrs Lynsey Williams, Swyddog Gweinyddol, (Rhif ffôn 01654 710256)

e-bost: sg@tywyn.ysgoliongwynedd.cymru

Os dymunir dychwelyd y cais drwy'r post, dylid ei ddychwelyd i'r cyfeiriad uchod erbyn y dyddiad cau.

DYDDIAD CAU: HANNER DYDD, DYDD MAWRTH, 14eg o Ebrill, 2026.

Bydd y Cyngor yn gofyn am ddadleniad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a chadarnhad o gofrestriad gyda'r Cyngor Gweithlu Addysg ar gyfer yr ymgeiswyr llwyddiannus cyn y gallent gychwyn yn yr Ysgol.

Manylion Person

.

Swydd Ddisgrifiad

Ysgol Uwchradd Tywyn

(This is an advertisement for an opportunity to train as a secondary school teacher through the Open University at Ysgol Uwchradd Tywyn. It is desirable that all candidates are fluent in both Welsh and English).

Athro / Athrawes Cymraeg

Dyma gyfle i hyfforddi fel athro uwchradd drwy'r Brifysgol Agored TAR WEDI EI ARIANNU'N LLAWN (rhaglen 2 flynedd)

Graddfa Cyflog: Statws Athro Digymhwyster Pwynt 1(£22,685)

Yn eisiau erbyn: Medi 2026

Mae Ysgol Uwchradd Tywyn yn ysgol wledig sydd wedi ei leoli yn Nhywyn, De Gwynedd. Ar hyn o bryd, mae 374 o ddysgwyr yn yr ysgol. Y mae i'r ysgol naws ofalgar a theuluol gyda cynhwysiant yn ganolog i bopeth.

Mae'r ysgol yn cynnig cyfle arbennig i unigolyn trwy raglen bartneriaeth TAR (2 flynedd) a ariennir yn llawn gan Lywodraeth Cymru drwy darpariaeth y Brifysgol Agored. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn addysgu Cymraeg. Mae'r ysgol wedi ymrwymo'n llwyr i gefnogi ymgyrch Llywodraeth Cymru i gynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg yng Nghymru.

Mae'r rhaglen wedi'i hanelu at raddedigion sydd unai'n gweithio ar hyn o bryd ac eisiau newid gyrfa, neu sydd â phrofiad yn y gorffennol o weithio mewn amgylchedd gyda phlant a phobl ifanc. Gall hyn gynnwys cynorthwywyr addysgu a hyfforddwyr dysgu sy'n dymuno symud ymlaen yn eu gyrfa yn ogystal â swyddogion ieuenctid. Croesewir ceisiadau gan ymgeiswyr sydd yn eu blwyddyn olaf yn y brifysgol hefyd.

Rydym yn edrych am unigolyn sydd yn angerddol am gefnogi gweledigaeth yr ysgol a thrwy hynny, wneud gwahaniaeth mawr yn addysg ac ym mywyd ein pobl ifanc. Bydd deilydd y swydd hon yn cael cefnogaeth lawn gan yr ysgol wrth iddynt ddatblygu i fod yn addysgwr llwyddiannus.

DISGRIFIAD O'R RHAGLEN
Gofynion mynediad ar gyfer llwybr TAR i addysgu a ariennir yn llawn gan y Brifysgol Agored. Mae'n ofynnol i ymgeiswyr ddal y canlynol, o leiaf:
•Safon sy'n cyfateb i TGAU Gradd C neu uwch mewn Mathemateg neu Fathemateg-Rhifedd
•Safon sy'n cyfateb i TGAU Gradd C neu uwch mewn naill ai Saesneg Iaith neu Gymraeg Iaith Gyntaf
•Gradd anrhydedd lawn yn y DU (neu gyfwerth). Rhaid i chi feddu ar radd sydd ag o leiaf 50% o berthnasedd i'r pwnc os ydych am addysgu i ddod yn athro ysgol uwchradd (dysgwyr 12-16 oed). I'r ymgeiswyr hynny sy'n gwneud cais pwnc Cymraeg, nid oes rhaid i'ch gradd fod yn y maes hwn o reidrwydd os gallwch ddangos eich bod yn defnyddio'r iaith yn rhugl, oherwydd efallai y bydd ystyriaeth yn cael ei rhoi yn dibynnu ar ddyfnder eich gwybodaeth.
•Mae angen i ymgeiswyr fod ar gael i ymrwymo i gontract amser llawn (nid yn ystod y tymor yn unig) tan

ddiwedd y rhaglen ym mis Gorffennaf 2028 a bydd yn ofynnol iddynt fod wedi'u lleoli yn yr ysgol o ddydd Llun i ddydd Gwener.

•Mae'r llwybr TAR yn rhaglen 2 flynedd.
•Mae'r swydd hon yn amodol ar wiriad DBS manylach.

  • Ceisio ar lein - Sut?
  • Rhestr Swyddi