MANYLION.
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Ysgol Brynrefail, Llanrug,
- Pwnc: Heb ei ddarparu
- Oriau: Heb ei ddarparu
- Cytundeb: Dros dro
- Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
- Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
- Math o gyflog: Blynyddol
- Cyflog: £35,875 y flwyddyn
- Iaith: Unrhyw
- Dyddiad Cau: 10 Ebrill, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Athro/Athrawes (Hyfforddi fel Athro Uwchradd)- Ysgol Brynrefail
Cyngor Gwynedd
Cyflog: £35,875 y flwyddyn
ManylionHysbyseb Swydd
ADDYSG
YSGOLION UWCHRADD
YSGOL BRYNREFAIL, LLANRUG
(Gyfun 11 - 18 oed, 759 o ddisgyblion)
Yn eisiau: 1af o Fedi, 2026.
Athro/Athrawes (Hyfforddi fel Athro Uwchradd)
Cytundeb dros dro am ddwy flynedd hyd at 31.08.2028 yn unig yw hwn
Mae'r ysgol yn awyddus i benodi Athro/Athrawes (Hyfforddi fel Athro Uwchradd) - gweler y swydd ddisgrifiad am fwy o fanylion.
Mae'r cynllun hwn wedi'i gefnogi gan Y Brifysgol Agored.
Telir cyflog yn unol â Graddfa Gyflog Athrawon Di-Gymhwyster (£22,685 - £35,875) yn ôl profiad a chymhwyster.
Mae'r gallu i addysgu trwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg yn hanfodol ar gyfer y swydd yma. Mae'r ysgol yn gweithredu'n unol a'i Bolisi Iaith. Bydd angen i'r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy'n cael ei nodi yn y Manylion Person.
Gwahoddir unrhyw un sydd a diddordeb neu angen mwy o wybdaeth i gysylltu i drafod yn anffurfiol gyda'r Pennaeth, Mr Dylan Jones, pennaeth@brynrefail.ysgoliongwynedd.cymru , neu ffôn 01286 672381.
Gellir cyflwyno cais am y swydd yma ar-lein ar wefan Cyngor Gwynedd, neu i'w cyflwyno i'r Rheolwr Busnes a Chyllid, Mrs Angharad Parry Davies, Ysgol Brynrefail, Ffordd Crawia, Llanrug, Caernarfon, Gwynedd, LL55 4AD. Rhif ffôn: 01286 672381; e-bost : sg@brynrefail.ysgoliongwynedd.cymru Os dymunir ddychwelyd y cais drwy'r post, dylid ei ddychwelyd i'r cyfeiriad uchod erbyn y dyddiad cau.
DYDDIAD CAU: Hanner Dydd, Dydd Gwener 10fed Ebrill, 2026
Bydd y Cyngor yn gofyn am ddadleniad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a chadarnhad o gofrestriad gyda'r Cyngor Gweithlu Addysg ar gyfer yr ymgeisydd llwyddiannus cyn y gallent gychwyn yn y swydd yma.
(The above is an advertisement for a temporary post at Ysgol Brynrefail, Llanrug for which the ability to communicate through the medium of Welsh and English is essential The Council will require a Disclosure and Barring Service Certificate and confirmation of registration with the Education Workforce Council for the successful applicant before they can start at the school ).
Mae'r awdurdod hwn wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc ac mae'n disgwyl y bydd pob un o'i staff a'i wirfoddolwr yn rhannu'r ymrwymiad hwn.
This authority is committed to safeguarding and promoting the welfare of children and young people and expects all staff and volunteers
Manylion Person
.
Swydd Ddisgrifiad
Swydd ddisgrifiad
Swydd : ATHRO/ATHRAWES (HYFFORDDI FEL ATHRO/ATHRAWES UWCHRADD)
Rheolwr Cyswllt : Pennaeth yr Adran/nau Perthnasol
Swydd: Athro / Athrawes
Graddfa Cyflog Athrawon Di-Gymhwyster
Athro/Athrawes (Hyfforddi fel Athro Uwchradd)
Dyma gyfle i hyfforddi fel athro uwchradd drwy'r Brifysgol Agored TAR WEDI EI ARIANNU'N LLAWN (rhaglen 2 flynedd)
Oriau: Llawn Amser
Cyflog: Statws Athro Digymhwyster Pwynt 1-6 (£22,685- £35,875 y flwyddyn)
Yn eisiau erbyn: Medi 2026 (cytundeb dros dro hyd at 31/08/2028)
Mae Ysgol Brynrefail yn Ysgol Uwchradd 11-18 oed ym mhentref Llanrug yng Ngwynedd. Ar hyn o bryd, mae 759 o ddysgwyr yn yr ysgol gan gynnwys 141 o fyfyrwyr Chweched Dosbarth. Mae'r disgyblion yn dilyn rhan fwyaf o'u pynciau yn bennaf drwy gyfrwng y Gymraeg ac o ganlyniad mae bron pob disgybl yn rhugl ddwyieithog. Mae awyrgylch hapus a chartrefol yma, gyda pherthynas iach rhwng y disgyblion a'r staff.
Mae'r ysgol yn cynnig cyfle arbennig i unigolyn trwy raglen TAR (2 flynedd) a ariennir gan Lywodraeth Cymru, drwy bartneriaeth Y Brifysgol Agored. Rydym eisoes wedi cynnig lleoliadau i unigolion ar y cynllun yma. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn addysgu mewn amgylchedd Gymraeg a Chymreig i ddisgyblion Ysgol Brynrefail a bydd angen gwneud cais i'r Brifysgol Agored gydag ardystiad gan Ysgol Brynrefail.
Mae'r rhaglen wedi'i hanelu at raddedigion sydd unai'n gweithio ar hyn a bryd ac eisiau newid gyrfa, neu sydd â phrofiad blaenorol o weithio mewn amgylchedd gyda phlant a phobl ifanc. Gall hyn gynnwys cynorthwywyr addysgu a hyfforddwyr dysgu sy'n dymuno symud ymlaen yn eu gyrfa. Croesewir ceisiadau gan ymgeiswyr sydd yn eu blwyddyn olaf yn y Brifysgol hefyd.
Rydym yn edrych am unigolion sydd yn angerddol am gefnogi gweledigaeth yr ysgol a thrwy hynny, wneud gwahaniaeth mawr yn addysg ac ym mywydau ein disgyblion. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael cefnogaeth lawn gan yr ysgol a gan athrawon profiadol iawn wrth iddynt ddatblygu i fod yn addysgwyr llwyddiannus.
Mae'r llwybr TAR yn raglen 2 flynedd. Rhaid i ymgeiswyr fodloni'r gofynion mynediad TAR arferol ac mae rhagor o fanylion am hyn ar gael ar gais. Yn ogystal â hynny, bydd angen i chi ddangos y canlynol:
- Dawn, gallu a gwydnwch i fodloni'r canlyniadau SAC gofynnol erbyn diwedd eich rhaglen TAR
- Rhinweddau personol a deallusol i ddod yn ymarferydd rhagorol
- Gallwch ddarllen yn effeithiol a chyfathrebu'n glir mewn Cymraeg/Saesneg llafar ac ysgrifenedig
- Sgiliau swyddogaethol personol mewn llythrennedd, rhifedd a chymhwysedd digidol sy'n berthnasol mewn cyd-destun addysgu a dysgu proffesiynol.
Oherwydd natur y swydd byddwn yn gofyn am ddatgeliad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd ar gyfer yr ymgeisydd llwyddiannus. Mae'n ofynnol bod yr ymgeisydd llwyddiannus yn cofrestru gyda'r Cyngor Gweithlu Addysg cyn cychwyn gweithio yn y swydd hon. Mae'r gallu i gyfathrebu drwy gyfrwng y Gymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd.
DISGRIFIAD O'R RHAGLEN
Gofynion mynediad ar gyfer llwybr TAR i addysgu a ariennir yn llawn gan y Brifysgol Agored
Mae'n ofynnol i ymgeiswyr ddal y canlynol, o leiaf:
- Safon sy'n cyfateb i TGAU Gradd C neu uwch mewn Mathemateg neu Fathemateg-Rhifedd
- Safon sy'n cyfateb i TGAU Gradd C neu uwch mewn naill ai Saesneg Iaith neu Gymraeg Iaith Gyntaf
- Gradd anrhydedd lawn yn y DU (neu gyfwerth). Rhaid i chi feddu ar radd sydd ag o leiaf 50% o berthnasedd i'r pwnc os ydych am addysgu i ddod yn athro ysgol uwchradd (dysgwyr 12-16 oed). I'r ymgeiswyr hynny sy'n gwneud cais pwnc Cymraeg, nid oes rhaid i'ch gradd fod yn y maes hwn o reidrwydd os gallwch ddangos eich bod yn defnyddio'r iaith yn rhugl, oherwydd efallai y bydd ystyriaeth yn cael ei rhoi yn dibynnu ar ddyfnder eich gwybodaeth.
Mae angen i ymgeiswyr fod ar gael i ymrwymo i gontract llawn amser (nid yn ystod y tymor yn unig) tan ddiwedd y rhaglen ym mis Gorffennaf 2028 a bydd yn ofynnol iddynt fod wedi'u lleoli yn yr ysgol o ddydd Llun i ddydd Gwener.
Am fwy o wybodaeth cysylltwch â Mrs Angharad Davies, Rheolwr Busnes a Chyllid ar sg@brynrefail.ysgoliongywnedd.cymru . Croesawir ceisiadau am sgyrsiau anffurfiol gyda'r Pennaeth.
DYDDIAD CAU: Hanner Dydd, Dydd Gwener 10fed o Ebrill, 2026
Datganiad Diogelu
Mae'r ymrwymiad hwn. Bydd y Cyngor yn gofyn am ddadleniad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a chadarnhad o gofrestriad gyda'r Cyngor Gweithlu Addysg ar gyfer yr ymgeisydd llwyddiannus cyn y gallent gychwyn yn y swydd yma.
- Ceisio ar lein - Sut?
- Rhestr Swyddi