MANYLION.
  • Lleoliad: Ysgol Glan y Môr, Pwllheli,
  • Pwnc: Heb ei ddarparu
  • Oriau: Heb ei ddarparu
  • Cytundeb: Parhaol
  • Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
  • Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
  • Math o gyflog: Heb ei Gyflenwi
  • Cyflog: Gweler Hysbyseb Swydd
  • Iaith: Unrhyw
  • Dyddiad Cau: 13 Ebrill, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Swyddog Data a Gweinyddwr Arholiadau Ysgol Glan y Mor

Cyngor Gwynedd

Cyflog: Gweler Hysbyseb Swydd

Manylion
Hysbyseb Swydd

YSGOLION UWCHRADD

Ysgol Glan y Môr, Pwllheli

(Ysgol Gyfun 11 - 16: 507 o ddisgyblion)

Yn eisiau: ar gyfer Mor fuan a phosib.

AIL-HYSBYSEBU Swyddog Data a Gweinyddwr Arholiadau

Mae Llywodraethwyr yr ysgol yn awyddus i apwyntio person brwdfrydig ac egnïol ar gyfer y swydd uchod sydd yn meddu ar y cymwysterau priodol a'r sgiliau addas.

Oriau gwaith: 37 awr yr wythnos

(40 wythnos waith mewn blwyddyn ysgol sef 38 wythnos tymor ysgol, 5 diwrnod mewn hyfforddiant) yn ogystal a bod ar gael i weithio am * wythnos ychwanegol tu hwn i'r tymor ysgol arferol.

Graddfa Gyflog: Telir cyflog yn unol ag Amodau Gwaith ar gyfer Gweithwyr Llywodraeth Leol, Graddfa S1 pwyntiau 12 - 17 (£25,252 - £27,392 y flwyddyn) yn ôl profiad a chymhwyster.

Mae'r gallu i gyfathrebu drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon. Mae'r ysgol yn gweithredu'n unol a'i Bolisi Iaith. Bydd angen i'r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy'n cael ei nodi yn y Manylion Person.

Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda'r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog. (Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i'r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a'r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas).

Gwahoddir unrhyw un sydd â diddordeb a/neu angen mwy o wybodaeth i drafod yn anffurfiol â'r Pennaeth Mr Huw Emyr Williams.

Gellir cyflwyno cais am y swydd yma ar-lein ar wefan Cyngor Gwynedd neu mae pecyn cais i'w cael gan Mr Robin Llywelyn Roberts, Rheolwr Busnes, Ysgol Glan Y Mor, Ffordd Caerdydd, Pwllheli, Gwynedd, LL53 5NU (Rhif ffôn: 01758 701244) ; e-bost: sg@glanymor.ysgoliongwynedd.cymru. Os dymunir dychwelyd y cais drwy'r post, dylid ei ddychwelyd i'r cyfeiriad uchod erbyn y dyddiad cau.

DYDDIAD CAU: 12:00 Y.P, DDYDD LLUN, 13 EBRILL, 2026.

Bydd y Cyngor yn gofyn am gopi o'r dadleniad gan Wasanaeth Datgelu gan yr ymgeisydd llwyddiannus cyn y gallent gychwyn yn yr Ysgol.

Manylion Person

.

Swydd Ddisgrifiad
Swyddog Data a Gweinyddwr Arholiadau
Teitl y Swydd
Rheolwr Data ac Arholiadau

Atebolrwydd
Yn atebol i'r Pennaeth Cynorthwyol (Cwricwlwm ac Asesu)

Pwrpas y Swydd
I reoli systemau data'r ysgol yn effeithiol, gan sicrhau bod gwybodaeth disgyblion, asesiadau ac arholiadau yn cael eu rheoli'n gywir ac yn ddiogel. Bydd y swydd yn cynnwys rheoli data drwy SIMS ar hyn o bryd a chefnogi'r ysgol wrth symud i Bromcom, yn ogystal â chydlynu'r holl brosesau arholiadau yn unol â rheoliadau'r cyrff arholi.
________________________________________
Prif Gyfrifoldebau
Rheoli Data
• Cynnal a rheoli cronfa ddata gwybodaeth yr ysgol (SIMS / Bromcom).
• Sicrhau cywirdeb data disgyblion, staff a chyrsiau.
• Mewnforio ac allforio data yn rheolaidd.
• Cynhyrchu adroddiadau data ar gyfer yr Uwch Dîm Arwain, llywodraethwyr a staff.
• Dadansoddi data perfformiad disgyblion i gefnogi gwella ysgol.
• Rheoli diogelwch data yn unol â GDPR.
• Cynnal systemau wrth gefn a sicrhau cywirdeb gwybodaeth.
________________________________________
Asesu a Monitro Cynnydd
• Cefnogi'r ysgol gyda systemau asesu, monitro cynnydd a thargedau disgyblion.
• Trefnu cylchoedd casglu data.
• Mewnbynnu a gwirio data asesu.
• Cynhyrchu dadansoddiadau cynnydd ar gyfer adrannau a'r UTA.
• Paratoi data ar gyfer adroddiadau mewnol a chynllunio ysgol.
• Paratoi Asesiadau Personol
________________________________________
Adrodd i Rieni
• Paratoi a chydlynu adroddiadau disgyblion i rieni.
• Sicrhau bod templedi adrodd yn gywir o fewn SIMS/Bromcom.
• Cynhyrchu adroddiadau ar gyfer pob cyfnod adrodd.
• Cefnogi staff gyda phroblemau technegol wrth fewnbynnu adroddiadau.
________________________________________
Gweinyddu Arholiadau
• Gweithredu fel Prif Weinyddwr Arholiadau'r ysgol.
• Cofrestru disgyblion ar gyfer arholiadau allanol.
• Cysylltu â chyrff arholi megis:
o WJEC / CBAC
o Pearson / Edexcel
o Agored Cymru
• Trefnu amserlenni arholiadau.
• Trefnu goruchwylwyr arholiadau.
• Sicrhau bod arholiadau'n cael eu cynnal yn unol â rheoliadau JCQ.
• Derbyn, gwirio a phrosesu canlyniadau arholiadau.
• Paratoi data arholiadau ar gyfer dadansoddi.
• Cydlynu Arholiadau Ar-lein
• Gweinyddu Arholiadau Mewol
• Prosesu Tystysgrifau
• Canlyniadau Haf - bod ar gael 2 ddiwrnod
________________________________________
Systemau Gwybodaeth Ysgol
• Rheoli a datblygu defnydd yr ysgol o SIMS a Bromcom.
• Arwain ar brosesau trosglwyddo data wrth symud o SIMS i Bromcom.
• Hyfforddi staff ar ddefnydd systemau data.
• Datrys problemau technegol sylfaenol sy'n ymwneud â'r system data.
• Rheoli mynediad i becynau/meddalwedd e.e. ClassCharts, 4Matrix
• Schoolcomms- cysylltu hefo rhieni drwy text/ebost
• CIVICA - trosolwg a rheoli dyledion
• Cyfrifiad Presenoldeb blynyddol
• Rheoli gwefan yr ysgol
________________________________________

Cefnogi Arweinwyr yr Ysgol
• Paratoi adroddiadau data ar gyfer:
o yr Uwch Dîm Arwain
o llywodraethwyr
o Estyn
o yr awdurdod lleol
• Cynorthwyo gyda dadansoddi data perfformiad yr ysgol.
• Cefnogi cynllunio strategol drwy ddarparu gwybodaeth gywir.
________________________________________
Cyfrifoldebau Cyffredinol
• Cydymffurfio â pholisïau' Cynnal cyfrinachedd llawn o ran data disgyblion a staff.
• Cymryd rhan mewn datblygiad proffesiynol parhaus.
• Cyflawni unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill yn unol â chyfarwyddyd y Pennaeth.
• Cynorthwyo ar adegau yn y Brif Swyddfa/Dderbynfa
________________________________________
Sgiliau a Rhinweddau Dymunol
• Profiad o ddefnyddio SIMS neu Bromcom.
• Profiad o weinyddiaeth arholiadau ysgol.
• Sgiliau TG cryf a dadansoddi data.
• Sylw manwl i fanylion.
• Y gallu i weithio'n annibynnol ac fel rhan o dîm.
• Sgiliau trefnu a chyfathrebu rhagorol.

  • Ceisio ar lein - Sut?
  • Rhestr Swyddi