MANYLION.
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Llanidloes,
- Pwnc: Heb ei ddarparu
- Oriau: Amser llawn
- Cytundeb: Parhaol
- Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
- Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
- Math o gyflog: Heb ei Gyflenwi
- Cyflog: Graddfa Gyflog Athrawon Ystafell Ddosbarth
- Iaith: Unrhyw
- Dyddiad Cau: 12 Ebrill, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cyflog: Graddfa Gyflog Athrawon Ystafell Ddosbarth
Athro/ Athrawes Mathemateg (Ysgol Uwchradd Llanidloes)Swydd-ddisgrifiad
Athro/ Athrawes Mathemateg
Mae Ysgol Uwchradd Llanidloes yn un o'r ysgolion mwyaf hapus a llwyddiannus yng
Nghymru. Rydym wedi'n bendithio â diwylliant dysgu bywiog a llewyrchus, ethos gofalgar
a thîm staff ymroddedig dros ben. Mae hwn yn gyfle gwirioneddol gyffrous i athro
Mathemateg ysbrydoledig ymuno ag ysgol ragorol, gyfeillgar sydd wedi'i lleoli yng
nghanolbarth Cymru hardd, wledig.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus:
• yn ofalgar am les a llwyddiant academaidd pob disgybl;
• yn medru addysgu Mathemateg yn effeithlon hyd at a chan gynnwys Lefel A; yn weithgar, yn ysbrydoli cariad tuag at ddysgu ac yn sicrhau bod pob disgybl yn
cyrraedd y safon academaidd uchaf posibl; yn ddynamig yn y dosbarth ac yn cynnal safonau uchel iawn o addysgu a dysgu; â sgiliau rhyngbersonol rhagorol, yn aelod da o dîm ac yn medru gweithio'n
annibynnol; sgiliau trefniadol gwych ac etheg gwaith cryf; yn cyfrannu'n llawn tuag at ddarparu cyfleoedd allgyrsiol; ag agwedd bositif tuag at ddatrys problemau.
Mae'r gallu i addysgu trwy gyfrwng y Gymraeg ac i gynnig ail bwnc yn ddymunol. Mae
croeso i ANG wneud cais.
Ydyddiad cau ar gyfed ceisiadau yw dydd Sul 12 Ebrill. Bydd y rhestr fer un digwydd
wythnos sy'n dechrau 13 Ebrill a'r cyfweliadau ddydd Mercher 15 Ebrill 2026.
.
Os oes angen mwy o wybodaeth, cysylltwch â Mr Daniel Owen, y Pennaeth.