MANYLION.
  • Lleoliad: Nationwide,
  • Pwnc: Heb ei ddarparu
  • Oriau: Heb ei ddarparu
  • Cytundeb: Parhaol
  • Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
  • Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
  • Math o gyflog: Per annum
  • Cyflog: £35,533 - £38,016 y flwyddyn (JNC 17 - 20)
  • Iaith: Unrhyw
  • Dyddiad Cau: 11 Mai, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Gweithiwr Ieuenctid Ardal - Conwy Dwyrain

Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy

Cyflog: £35,533 - £38,016 y flwyddyn (JNC 17 - 20)

Lleoliad gwaith: Hybrid - Ysgolion ag yn gymuned

Mae Gwasanaeth Ieuenctid Conwy yn dymuno penodi gweithiwr ieuenctid brwdfrydig i ymuno â'r tîm.

Rydym yn chwilio am ymgeiswyr sy'n angerddol am waith ieuenctid ac, yn bwysicach na dim, sy'n angerddol am weithio gyda phobl ifanc i wireddu eu dyheadau a'u huchelgeisiau.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn arwain ar ddarparu gwasanaeth ar sail cymuned yn, ac o gwmpas, canol y sir, gan ddarparu darpariaethau ieuenctid wyneb yn wyneb, gwaith estyn allan a phrosiectau wedi'u targedu i bobl ifanc. Bydd y rôl hon yn cynnwys gweithio mewn partneriaeth gyda sefydliadau ac ysgolion lleol i gynyddu'r cynnig a'r cyfleoedd i bobl ifanc.

Rydym yn chwilio am rywun sydd â phrofiad o reoli ac arwain ardal a thîm o weithwyr cefnogi ieuenctid. Bydd yr ymgeisydd cywir yn ymuno â thîm cyfeillgar, brwdfrydig ac angerddol.

Disgwylir i'r ymgeisydd llwyddiannus fod â dealltwriaeth lawn a chynhwysfawr o bob mater sy'n ymwneud â diogelu

Manylion y rheolwr ar gyfer trafodaeth anffurfiol:

Chris Gledhill, Uwch Ymarferydd Gwaith Ieuenctid
( chris.gledhill@conwy.gov.uk / 01492 575508 )

Gofynion y Gymraeg: Mae'r gallu i gyfarthrebu yn y Gymraeg yn dymunol ar gyfer y swydd hon. Rydym ni wedi ymrwymo i'r Gymraeg ac yn falch iawn o'n diwylliant Cymreig. Rydym yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg a'r Saesneg fel ei gilydd ac ni fydd ffurflenni cais a dderbynnir yn y naill iaith na'r llall yn cael eu trin yn llai ffafriol na'i gilydd. Rydym yn frwdfrydig dros eich cefnogi a'ch annog i ddefnyddio'ch Cymraeg, beth bynnag eich lefel; ac mae gennym ni ddosbarthiadau am ddim ar gyfer pob lefel, wyneb yn wyneb ac ar-lein, i'ch cefnogi chi ymhellach.

Mae Conwy wedi ymrwymo i ddiogelu. Bydd cymwysterau a geirdaon yn cael eu dilysu.

Cliciwch yma i ddysgu am y manteision o ymuno â Thîm Conwy.

Dysgwch fwy am ein proses recriwtio drwy fynd i'n Tudalen Proses Recriwtio.

Rydym wedi ymrwymo i ddatblygu gweithlu amrywiol a thimoedd cynhwysol sy'n croesawu ystod eang o leisiau, profiadau, safbwyntiau a chefndiroedd. Mae creu gweithle sy'n groesawgar a lle mae pawb yn teimlo eu bod yn perthyn yn sicrhau y gallwn ddarparu gwasanaethau rhagorol.

Croesawn ac anogwn ymgeiswyr o bob cefndir a phrofiadau.

Rydym yn Gyflogwr Hyderus o ran Anabledd. Os oes gennych anabledd wedi'i ddatgan yn eich cais, gallwn sicrhau cyfweliad os ydych yn profi eich bod yn bodloni meini prawf hanfodol y swydd yn eich cais (gofynion a nodir gyda 'H' ar y Manylion am yr Unigolyn). Angen rhywfaint o gymorth gyda'ch cais? Mae gennym awgrymiadau, canllawiau a gwasanaethau cymorth i'ch helpu chi drwyddo.

Rydym yn fodlon darparu addasiadau rhesymol trwy gydol y broses recriwtio (ac mewn cyflogaeth) lle bynnag bosibl. Anogwn i chi wneud cais am addasiadau. Er mwyn gwneud hyn, cysylltwch â'r rheolwr a enwir uchod er mwyn trafod eich anghenion a chymorth posibl. Mae dewisiadau i wneud cais trwy ffurfiau gwahanol, cysylltwch â'r Tîm AD ar 01492 576129 er mwyn trafod sut y gallwn eich cefnogi chi. Ni fydd y ceisiadau hyn yn eich rhoi dan unrhyw anfantais.

This form is also available in English.