MANYLION.
  • Lleoliad: Wrexham,
  • Pwnc: Heb ei ddarparu
  • Oriau: Heb ei ddarparu
  • Cytundeb: Parhaol
  • Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
  • Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
  • Math o gyflog: Blynyddol
  • Cyflog: £52,680 - £58,136
  • Iaith: Unrhyw
  • Dyddiad Cau: 18 Mawrth, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Athro/Athrawes - Cydlynydd ADY - Ysgol Madras

Cyngor Wrecsam

Cyflog: £52,680 - £58,136

Ynglŷn â'r Rôl
Mae cyfle cyffrous wedi codi i athro dosbarth ysbrydoledig, sydd â phrofiad ADY, ymuno â'n tîm ymroddedig fel Cydlynydd ADY yr ysgol, yma yn Ysgol Gynradd Wirfoddol a Gynorthwyir Madras.

Rydym yn chwilio am athro dosbarth rhagorol i gyflawni rôl Cydlynydd ADY. Mae'r rôl yn amser llawn, gydag ymrwymiad addysgu 0.8. Bydd y dosbarth yn ddosbarth cymysg blwyddyn 1 a 2.

Bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus:

Yn meddu ar brofiad blaenorol a sgiliau a gafwyd drwy weithio gyda phlant mewn ysgol gynradd

Yn meddu ar wybodaeth weithredol o Ddeddf ADYTA 2018 a Chod 2021

Yn hyblyg ac yn ymrwymedig i ddefnyddio eu sgiliau i ddiwallu anghenion yr ystod o ddisgyblion yn yr ysgol

Yn meddu ar barodrwydd i ddysgu mwy a throsglwyddo eich gwybodaeth i eraill

Yn weithiwr proffesiynol brwdfrydig, gweithgar sy'n gallu ysgogi ac ysbrydoli plant

Yn brydlon, yn ddibynadwy, ac yn unigolyn â ffocws

Yn meddu ar ddisgwyliadau uchel ohonyn nhw eu hunain ac eraill, ac yn ymrwymedig i gynnal safonau uchel mewn addysgu a dysgu

Yn gallu dangos blaengaredd, bod yn agored i ddysgu sgiliau newydd, ac yn ymrwymedig i ddatblygiad personol

Yn hyblyg, sy'n hanfodol, o ystyried ein tîm staff bach, gan ymgymryd â dyletswyddau gwahanol ar draws yr ysgol i sicrhau ei bod yn rhedeg yn llyfn

Yn chwaraewr tîm rhagorol, yn dangos esiampl, ac yn gallu gweithio ar y cyd â holl staff yr ysgol

Yn dangos agwedd ragweithiol ac yn dod â phositifrwydd i'r ysgol a'r tîm

Yn ymrwymiedig i ddiogelu ein disgyblion a'n staff

Yn meddu ar sgiliau cyfathrebu da er mwyn gallu cyfathrebu'n effeithiol â disgyblion, rhieni, teuluoedd a gweithwyr proffesiynol eraill

Mae ymweliadau â'r ysgol yn cael eu croesawu a'u hannog.

Cynhelir cyfweliadau ar ddydd Mercher 25 Mawrth 2026.

Dyddiad dechrau: Mis Medi 2026 neu'n gynt, os yn bosib.

Mae'r Cyngor yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr â chymwysterau addas heb ystyried hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol nac oed.

Mae'r Cyngor yn ymrwymedig i ddatblygu ei weithlu dwyieithog ac mae'n croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n dangos eu gallu i weithio yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni fydd ceisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn y Saesneg.
Amdanom Ni
Madras Primary School, situated in Penley, Wrexham, is a nurturing and inclusive learning community with approximately 120 pupils. The school is recognised for its strong values, exemplary pupil behaviour, and a positive ethos where safeguarding and well being are central to daily practice. We offer a broad and balanced curriculum that supports high standards in literacy, numeracy and digital competence, and pupils demonstrate positive attitudes and pride in their learning. Led by a dedicated senior leadership team, the school maintains high expectations and is committed to providing high quality learning experiences for all pupils.

Please visit our website to see more about our school: www.madras-pri.co.uk