MANYLION.
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Heb ei ddarparu
- Pwnc: Heb ei ddarparu
- Oriau: Amser llawn
- Cytundeb: Heb ei ddarparu
- Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
- Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
- Math o gyflog: Blynyddol
- Cyflog: Grade 7 - £32,061 - £35,412
- Iaith: Unrhyw
- Dyddiad Cau: 16 Mawrth, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Rheolwr Rhwydwaith TGCh - Ysgol Harri Tudur/Ysgol Harri Tudur
Cyngor Sir Benfro
Cyflog: Grade 7 - £32,061 - £35,412
Ysgol Harri TudurPENFRO, SIR BENFRO, SA71 4RL
Rheolwr Rhwydwaith TGCh
Gradd 7
Ystod graddfa 19-24
Mae gennym swydd wag ar gyfer Rheolwr Rhwydwaith TGCh i weithio 37 awr yr wythnos, yn llawn amser, drwy gydol y flwyddyn gyda hawl i wyliau blynyddol yn ystod cyfnodau gwyliau ysgol yn unig.
Mae Ysgol Harri Tudur yn ysgol groesawgar i weithio ynddi. Mae ein hysgol yn parhau ar ei thaith gwelliant cyflym er mwyn ceisio rhagoriaeth.
Rydym yn croesawu ymgeiswyr talentog, uchelgeisiol, egnïol a gwydn sydd nid yn unig yn dymuno ymuno â ni ar y daith honno ond sy'n gallu ac yn barod i wneud cyfraniad gwerthfawr ac ymroddedig at ei llwyddiant yn y dyfodol.
Rydym yn dymuno penodi Rheolwr Rhwydwaith TGCh i gynllunio, cyfarwyddo, rheoli a goruchwylio'r ddarpariaeth TGCh.
Mae dyletswyddau penodol yn cynnwys:
- Cyflwyno rhwydwaith cyfathrebu a diwifr gweithredol yr ysgol yn ddi-dor gan gynnwys y wefan, systemau ffôn, gwasanaeth e-bost, dyfeisiau ffôn symudol, llungopïwyr ac argraffwyr, gweinyddion, switshis, pwyntiau mynediad diwifr, ap yr ysgol a phob dyfais TGCh.
- Sicrhau bod holl ddyfeisiau TGCh a rhaglenni meddalwedd yr ysgol yn cael eu darparu, eu cynnal a'u cadw.
- Rheoli asedau, gan gynnwys gwirio asedau'n rheolaidd, o'r holl ddyfeisiau TGCh.
- Rheoli System Rheoli Gwybodaeth yr Ysgol a systemau eraill sy'n gysylltiedig â System Gwybodaeth Reoli, a sicrhau bod yr holl ddata'n ddiogel a bod copïau wrth gefn ohonynt.
- Gweithredu fel yr arbenigwr ar faterion pwnc ar bob mater TGCh i'r Pennaeth a'r uwch staff.
I ymweld â'r ysgol yn anffurfiol a thrafod y rôl, cysylltwch â Miss Liz Collyer, Rheolwr Busnes yr Ysgol, drwy liz.collyer@yht.wales neu 01646 682461.
Cyfeiriwch at y disgrifiad swydd uchod am ragor o fanylion am y swydd wag hon a manyleb y person.
Gwiriadau Cyflogaeth
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i wiriad datgelu gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Caiff yr wybodaeth bersonol rydym wedi'i chasglu gennych ei rhannu â Cifas pan fydd yn briodol ar gyfer eich rôl a'ch cyfrifoldeb, a bydd Cifas yn ei defnyddio i atal twyll, ymddygiad anghyfreithlon neu anonest arall, camymddwyn, ac ymddygiad arall sy'n ddifrifol amhriodol. Os caiff unrhyw un o'r rhain eu canfod, gellir gwrthod darparu rhai gwasanaethau neu gyflogaeth i chi. Bydd eich gwybodaeth bersonol hefyd yn cael ei defnyddio i wirio pwy ydych chi. Gallwch weld rhagor o fanylion am sut y caiff eich gwybodaeth ei defnyddio gennym ni a Cifas, a'ch hawliau diogelu data, yma: https://www.cifas.org.uk/fpn.
Dylai ymgeiswyr sicrhau bod ganddynt yr hawl i weithio yn y Deyrnas Unedig cyn gwneud cais am swydd wag.
Sylwch nad yw Cyngor Sir Penfro ar hyn o bryd yn derbyn ymgeiswyr sydd angen fisa Gweithiwr Medrus fel rhagofyniad i hawl i weithio yn y DU. Dylai ymgeiswyr sicrhau bod ganddynt yr hawl i weithio yn y DU cyn gwneud cais am swydd wag.
Nodyn Canllaw: Defnyddio Deallusrwydd Artiffisial a Chywirdeb Gwybodaeth:
- Rydym yn deall y gall ymgeiswyr ddewis defnyddio offer fel Deallusrwydd Artiffisial cynhyrchiol i gefnogi paratoi eu cais. Er bod defnyddio offer o'r fath yn cael ei ganiatáu, mae'n parhau i fod yn gyfrifoldeb llawn yr ymgeisydd i sicrhau bod yr holl wybodaeth a gyflwynir yn ffeithiol gywir, yn wir, ac yn gynrychioliadol o'u sgiliau, profiadau a chymwysterau eu hunain.
- Gall darparu gwybodaeth sy'n ffug, yn gamarweiniol, neu'n orliwiedig, p'un a gafodd ei chynhyrchu gan Deallusrwydd Artiffisial ai peidio, arwain at anghymhwyso o'r broses recriwtio neu ddiswyddo os caiff ei ddarganfod ar ôl penodi.
- Drwy gyflwyno'r cais hwn, rydych yn cadarnhau bod yr holl gynnwys a ddarperir yn gywir ac wedi'i gyflwyno'n ddidwyll.
Mae diogelu ac amddiffyn plant ac oedolion mewn perygl yn flaenoriaeth uchel i Gyngor Sir Penfro. Ein nod yw cefnogi plant sy'n agored i niwed ac oedolion mewn perygl er mwyn sicrhau eu bod mor ddiogel â phosibl. Rydym yn ymrwymedig i sicrhau eu diogelwch a byddwn yn gweithredu i ddiogelu eu llesiant. Mae Polisi Diogelu Corfforaethol y Cyngor yn darparu fframwaith i bob aelod o staff a gwasanaeth yn y Cyngor, gan amlinellu cyfrifoldebau mewn perthynas â diogelu ac amddiffyn plant ac oedolion mewn perygl yn ogystal âr dulliau a ddefnyddir gan y Cyngor i sicrhau ei fod yn cyflawni ei ddyletswyddau.
Mae'r polisi hwn yn berthnasol i holl weithwyr a gweithlu'r Cyngor, yn ogystal â chynghorwyr, gwirfoddolwyr a darparwyr gwasanaethau a gomisiynir gan y Cyngor. Busnes pawb yw diogelu, p'un a ydynt yn gweithio i'r Cyngor neu'n gweithio ar ran y Cyngor.
Cymorth a Gwybodaeth Ychwanegol
- Cysylltwch â'r Tîm Systemau AD cyn gynted â phosibl os na allwch wneud cais ar-lein drwy anfon e-bost at hrsystemsteam@pembrokeshire.gov.uk .
- Cysylltwch âm Recriwtio os oes gennych unrhyw ymholiadau yn ymwneud âr swydd wag hon drwy anfon e-bost at recriwtio@sir-benfro.gov.uk
- Mae gweithwyr llywodraeth leol ar delerau'r Cyd-gyngor Cenedlaethol yn destun bargeinio cyflog cenedlaethol; mae'r holl gyflogau a nodir yn ein hysbysebion ar hyn o bryd ar sail cyflogau 1/4/2025.
Mae sgiliau Cymraeg yn ddymunol