MANYLION.
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Ysgol Gyfun Penweddig, Aberystwyth,
- Pwnc: Heb ei ddarparu
- Oriau: Rhan amser
- Cytundeb: Dros dro
- Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
- Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
- Math o gyflog: Blynyddol
- Cyflog: 33,731 - 51,942 *
- Iaith: Unrhyw
- Dyddiad Cau: 03 Mawrth, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Athro/Athrawes (Gwyddoniaeth) - Ysgol Gyfun Penweddig
Cyngor Sir Ceredigion
Cyflog: 33,731 - 51,942 *
Ynglŷn â'r rôlThe following is an advert where the ability to communicate through the medium of Welsh and English is essential.
Mae'r ysgol yn chwilio am berson egnïol a deinamig gyda'r wybodaeth a'r sgiliau I ymgymryd â swydd addysgu Gwyddoniaeth, gydag arbenigedd Bioleg yn ddymunol, dros gyfnod mamolaeth o 1 Medi 2026. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn ymuno â grŵp o athrawon brwdfrydig sy'n awyddus i ddarparu'r addysg orau i ddisgyblion o flwyddyn 7 I 13. Yn rhinwedd y swydd, bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn ysbrydoli ac yn cefnogi cydweithwyr a disgyblion i barhau i godi safonau y gyfadran wyddoniaeth drwy ymarfer arloesol ac yn ymrwymedig i godi cyflawniad pob disgybl. Yn ogystal, bydd gweddill amserlen y deiliad llwyddiannus i'w drafod ymhellach yn ôl sgiliau a gwybodaeth yr ymgeisydd.
Mae'r swydd hon yn addas i athrawon sydd newydd gymhwyso neu sydd yn y broses o gymhwyso yn ystod y flwyddyn. Mae rhaglen cefnogaeth gynhwysfawr ar gael i athrawon newydd gymhwyso. Yn ogystal, gall fod cyfle i ymgeisydd addas ddilyn cynllun TAR Cyflogedig Partneriaeth AGA y Brifysgol Agored i gymhwyso fel athro cymwysedig.
Disgwylir i'r ymgeisydd llwyddiannus chwarae rhan weithredol i hyrwyddo nodau ac amcanion yr ysgol o Gymreictod, Parch ac Ymdrech.
Pecyn Gwybodaeth
Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.
Rydym wedi ymrwymoi ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o'r ymrwymiadhwn,maerhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch. Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau'r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a'ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.
Yr hyn a gynigwn
Cydbwysedd bywyd a gwaith
Cynllun cynilo ffordd o fyw
Cynllun pensiwn cyflogwr hael
Cynllun beicio i'r gwaith
Dysgu a datblygu
Lle byddwch yn gweithio
Gwasanaeth Ysgolion a Diwylliant
Rydym yn cynnig her a chefnogaeth briodol i'n hysgolion, i'w helpu i gyflwyno addysg o'r radd flaenaf i bob disgybl, ar draws yr ystod oedran a gallu. Mae ein prif swyddogaethau yn cynnwys:
- Gwella Ysgolion: Arweinyddiaeth; Cefnogaeth a Her, Addysgu a Dysgu; Llythrennedd Digidol; Llythrennedd a Rhifedd; Cymraeg mewn Addysg
- Anghenion Dysgu Ychwanegol: Darpariaeth ar gyfer disgyblion ag Anghenion Dysgu Ychwanegol, Cynhwysiant; Presenoldeb; Seicoleg Addysg
- Lles Disgyblion: Cwnsela; Lles; Gwrth-fwlio, Llais Disgyblion
- Llywodraethu Addysg: Data; Cefnogaeth Llywodraethwyr, Cefnogaeth polisi
- Derbyniadau Ysgol
- Diwylliant: Gwasanaeth Cerdd; Cered; Theatr Felinfach; Amgueddfa
- Seilwaith ac Adnoddau: cynllunio lleoedd ysgol, moderneiddio a rhaglen ysgolion yr Unfed Ganrif ar Hugain, Adeiladau; Grantiau
- Arlwyo: Canolfannau Dydd; Ysgolion cynradd; Cartrefi preswyl
- Uned Gofal Plant: Asesiad Digonolrwydd Gofal Plant; Grant Gofal Plant a Chwarae; Cynnig Gofal Plant Cymorth busnes a hyfforddiant staff ar gyfer Darpariaeth Ôl Ysgol (Clybiau ar ôl Ysgol a Chlybiau Gwyliau); Meithrinfeydd Dydd, Cylchoedd Meithrin/Chwarae a Gwarchodwyr Plant
Darllen mwy Aberystwyth Mae Aberystwyth yn dref brifysgol fywiog ac yn gyrchfan glan môr gyda phromenâd a phier. Yn ogystal dyma yw lleoliad y ddrama deledu atmosfferig Y Gwyll. Mae Aberystwyth yn lleoliad delfrydol i archwilio Llwybr Arfordir Cymru ar hyd Bae Cere...
Darllen mwy