MANYLION.
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Oriau: Full time
- Cytundeb: Parhaol
- Math o gyflog: Annual
- Cyflog: £32,731 - £51,942 (MPR2 - UPR3)
- Iaith: Cymraeg
- Dyddiad Cau: 04 Mawrth, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cyflog: £32,731 - £51,942 (MPR2 - UPR3)
Rydym yn mabwysiadu dull 'recriwtio dienw' wrth lunio'r rhestr fer. Ni fydd rheolwyr recriwtio yn cael mynediad at wybodaeth bersonol, gan gynnwys eich enw a'ch manylion cyswllt, hyd nes y bydd penderfyniad wedi'i wneud ynghylch y rhestr fer.Rydym wedi ymrwymo i recriwtio, cadw a datblygu gweithlu sy'n adlewyrchu'r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu. Mae rhannu eich data monitro cydraddoldeb yn ein galluogi i asesu effaith ein polisïau a'n harferion recriwtio a chyflogaeth ac yn rhoi cyfle i ni eu gwella lle bo modd. Nid yw rheolwyr recriwtio yn cael mynediad at wybodaeth monitro cydraddoldeb ar unrhyw adeg.
Ynglŷn â'r swydd wag
Cyfeirnod y Swydd Wag: 2818
Sefydliad:
Ysgolion
Nifer y swyddi gwag:
1
Math o gontract:
Parhaol Amser Llawn
Lleoliad:
Castellnewydd Emlyn
Gradd:
Athrawon Ysgol
Cyflog:
£32,731 - £51,942 (MPR2 - UPR3)
Os yw'n rhan-amser a/neu yn ystod y tymor, bydd y cyflog llawn amser a ddyfynnir (yn seiliedig ar 37 awr) ar sail pro rata yn unol â hynny
Cyfradd yr awr:
£24.72 - £30.04
Oriau Contract:
Dewch i ymuno â'n tîm
Yn eisiau ar gyfer Medi 2026. Rydym yn chwilio am berson brwdfrydig ac ysbrydoledig sy'n dysgu
Mathemateg. Rhaid i'r ymgeisydd llwyddiannus allu cymell ac ennyn diddordeb disgyblion ar draws yr
ystod gallu llawn ac oedran o gyfnod allweddol 3 i Lefel A. Byddai'r gallu i siarad Cymraeg yn fuddiol.
Byddai'r swydd hon yn addas ar gyfer athro newydd gymhwyso.
Mae Ysgol Gyfun Emlyn yn ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles plant, pobl ifanc ac oedolion sy'n
agored i niwed ac yn disgwyl i'r staff rannu'r ymrwymiad hwn.
Dyddaid Cau : 1:30 y.p., Dydd Mercher, 4ydd o Fawrth 2026
Mae pecyn cais ar gael o swyddfa'r ysgol (Mrs Nerys Davies)
Disgrifiad Swydd:
Job Description Maths Teacher.pdf - 210KB ~~EFORM_FILE_NEW_WINDOW~~
Lefel DBS:
Bydd gwiriad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd yn ofynnol ar gyfer y swydd hon
Lefel Sgiliau Cymraeg - Siarad:
Lefel 1 - Bydd angen gwybodaeth sylfaenol am y Gymraeg arnoch. Gellir darparu cymorth rhesymol ar ôl penodi i gyrraedd y lefel hon.
Dyddiad Cau: 04/03/2026, 13:30
Y Buddion
Rydym yn falch o gynnig amrywiaeth o fuddion i'n staff. Noder mai dim ond rhai o'r hyn a allai fod ar gael yw'r enghreifftiau a ddangosir, a gall cymhwysedd amrywio yn dibynnu ar eich rôl neu'ch math o gontract. Er enghraifft, efallai na fydd rhai buddion yn berthnasol i weithwyr achlysurol.
- Cyflog cystadleuol
- Cofrestru'n awtomatig i'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol
- Hawl i wyliau blynyddol hael gyda'r opsiwn o brynu gwyliau blynyddol ychwanegol
- Mynediad at gymorth iechyd a llesiant i staff
- Datblygiad personol a dilyniant gyrfa
- Cynlluniau disgownt staff a buddion eraill e.e., cynllun beicio i'r gwaith
- Gweithio hyblyg a pholisïau sy'n ystyriol o deuluoedd
Gwybodaeth Ychwanegol
Rydym wedi ymrwymo i recriwtio diogel a theg, diogelu ac amddiffyn y rhai yr ydym yn gofalu amdanynt ac yn eu gwasanaethu. Rydym yn sicrhau bod ein holl staff yn cael eu fetio, eu dethol, eu hyfforddi a'u goruchwylio'n deg ac i safon uchel fel y gallant ddarparu gofal diogel, effeithiol a thosturiol. ">Nodwch fod rhwymedigaeth gyfreithiol arnom i ystyried gweithwyr ar gyfer cyflogaeth arall addas os yw eu swyddi mewn perygl; rhoddir ystyriaeth ymlaen llaw i weithwyr presennol sy'n bodloni'r meini prawf hanfodol ac sydd wedi'u cofrestru ar ein cofrestr adleoli.
Cymhwysedd: Gofynnir i chi am eich cenedligrwydd ac a oes gennych hawl gyfreithiol i weithio yn y Deyrnas Unedig. Gwneir hyn er mwyn cael gwybod a ydych yn gymwys i wneud cais am y swydd wag hon. Mae hyn yn ofynnol ar gyfer gweithio yn y Cyngor neu mewn sefydliadau partner: https://www.gov.uk/prove-right-to-work . Nodwch: Os nad ydych yn bodloni'r meini prawf cymhwysedd, ni fydd eich cais yn symud ymlaen. Os daw'n amlwg yn ddiweddarach yn y broses nad ydych yn gymwys i wneud cais, efallai y bydd eich cais neu eich cynnig yn cael ei dynnu'n ôl.
Sut i wneud cais: Rhaid i bob cais am y swydd wag hon gael ei wneud drwy ein system ymgeisio ar-lein. Os oes gennych nam sy'n eich atal rhag gwneud cais ar-lein, e-bostiwch: swyddi@sirgar.gov.uk neu ffoniwch 01267 234567 a gofynnwch am 'Recriwtio' i drafod trefniadau eraill i'ch helpu yn y broses.
Gweler y canllawiau 'Sut rydym yn recriwtio' ar y Dudalen Gyrfaoedd i gael rhagor o wybodaeth am y broses recriwtio.