MANYLION.
  • Lleoliad: Bangor,
  • Oriau: Full time
  • Cytundeb: Cyfnod penodol
  • Math o gyflog: Annual
  • Cyflog: £28,729.56 - £31,176.06 y flwyddyn, yn ddibynnol ar gymwysterau a phrofiad
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 04 Chwefror, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Aseswr Dysgu yn y Gweithle - Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Oedolion, Cytundeb cyfnod penodol hyd at 31 Awst 2026

Grwp Llandrillo Menai

Cyflog: £28,729.56 - £31,176.06 y flwyddyn, yn ddibynnol ar gymwysterau a phrofiad

Pwrpas y swydd

Golyga'r swydd hon fod yn gyfrifol am recriwtio, cadw a rheoli llwyth achosion safonol o ddysgwyr sydd wedi dewis cofrestru ar gymwysterau Iechyd a gofal cymdeithasol.

Mae'r Asesydd yn gyfrifol am ddarparu hyfforddiant, asesu, a sicrhau ansawdd gwaith y dysgwyr. Bydd yr asesydd yn goruchwylio dealltwriaeth a chymhwysedd ymarferol y dysgwyr yn y gweithle.

Bydd disgwyl i'r asesydd recriwtio dysgwyr a darparu amrywiaeth o gymwysterau.

O ddydd i ddydd bydd y swydd yn golygu cyfarfod â dysgwyr a chyflogwyr mewn lleoliadau gwaith gwahanol. Ar y cyfan, bydd hyn yn digwydd yn ddigidol ond bydd peth teithio'n ddisgwyliedig, gan weithio'n annibynnol i sicrhau cydymffurfiaeth â gofynion cymwysterau. Bydd gofyn i'r asesydd feddu ar y sgiliau i gynllunio ymweliadau mewn modd rhesymegol o ran cyfyngu ar deithio a gwneud y defnydd gorau o amser. Yn ogystal, bydd yn darparu adnoddau a chefnogaeth i fodloni anghenion unigol pob dysgwr yn ei ddewis iaith.

Bydd yr asesydd yn cynrychioli tîm aseswyr Iechyd a Gofal Cymdeithasol o fewn busnes@gllm a bydd disgwyl iddo hyrwyddo'r cyrsiau a gynigir er mwyn annog dysgwyr i gofrestru arnynt. Byddai'r gallu i addysgu grwpiau bach mewn sesiynau gweithdy ym maes Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn fanteisiol.



Manylion Swydd
Cyfeirnod y Swydd
BD/118/26

Cyflog
£28,729.56 - £31,176.06 y flwyddyn, yn ddibynnol ar gymwysterau a phrofiad

Lleoliad Gwaith
  • Bangor
  • Dolgellau
  • Gweithio gartref
  • Lleoliad gwaith i'w drafod
  • Llanelwy

Hawl gwyliau
  • 28 diwrnod y flwyddyn, yn codi i 32 diwrnod ar ôl pum mlynedd lawn o wasanaeth di-dor (01 Medi i 31 Awst).
  • Yr holl wyliau cyhoeddus arferol, i'w pennu'n flynyddol.

Patrwm gweithio
37 awr yr wythnos

Hawliau Pensiwn
Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol

Math o gytundeb
Llawn Amser Cyfnod Penodol

Dyddiad cau
04 Chwef 2026
12:00 YH(Ganol dydd)