MANYLION.
  • Lleoliad: Swansea,
  • Math o gyflog: Not Supplied
  • Iaith: Saesneg
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Ysgol Gynradd Gymraeg Gellionnen: Head teacher

Cyngor Abertawe
Mae Ysgol Gynradd Gymraeg Gellionnen yn ysgol hapus, ofalgar a chynhwysol sydd wrth wraidd ei chymuned. Mae'r ysgol wedi'i lleoli ar safle mawr sy'n darparu cyfleoedd ardderchog ar gyfer dysgu yn yr awyr agored. Gwerth craidd yr ysgol yw 'un gwreiddyn dan y canghennau'. Credwn fod ein disgyblion yn dysgu orau pan fyddant yn teimlo'n ddiogel ac yn cael eu cefnogi, ac mewn amgylchedd cadarnhaol a meithringar lle mae croeso i bawb.

Mae Llywodraethwyr Ysgol Gynradd Gymraeg Gellionnen yn dymuno penodi arweinydd angerddol, arloesol ac ysbrydoledig sydd â'r sgiliau a'r profiad proffesiynol angenrheidiol i adeiladu ar gryfderau'r ysgol a'i thywys i'r dyfodol.

Rhaid i'r ymgeisydd llwyddiannus fod yn arweinydd deinamig, cydnerth sydd â gweledigaeth glir, ac yn gallu llywio twf a datblygiad yr ysgol tra'n ymateb yn hyderus i flaenoriaethau lleol a chenedlaethol.

Rydym yn chwilio am bennaeth cynnes a chroesawgar sydd â'r nodweddion canlynol:
  • Arweinydd ysbrydoledig sy'n gallu rheoli a chymell staff a disgyblion i gyflawni eu gorau a chodi safonau'n barhaus.
  • Angerdd gwirioneddol dros hyrwyddo diwylliant Cymru a defnydd naturiol a dyddiol o'r Gymraeg yn yr ysgol a'r tu hwnt.
  • Ymrwymiad cryf i ddatblygu ac atgyfnerthu ein gweledigaeth ac ethos unigryw, cynhwysol a chydweithredol.
  • Brwdfrydedd dros gefnogi a gwella lles pob unigolyn yng nghymuned yr ysgol.
  • Cred gadarn fod llwyddiant o fewn cyrraedd pob plentyn, waeth beth fo'u cefndir neu eu gallu.
  • Sgiliau arweinyddiaeth strategol rhagorol ac ymrwymiad i gynnal safonau uchel o addysgu a dysgu.
  • Sgiliau rhyngbersonol a chyfathrebu effeithiol iawn, ynghyd â'r gallu i ysgogi, grymuso a chreu ymdeimlad o bwrpas a chydberthynas.
  • Y gallu i edrych y tu hwnt i gatiau'r ysgol, gan feithrin perthnasoedd cadarnhaol ac effeithiol gyda theuluoedd a'r gymuned ehangach.

Byddech chi'n cael eich cefnogi gan y canlynol:
  • Tîm o staff proffesiynol a gofalgar.
  • Plant hapus a brwdfrydig sy'n mwynhau dysgu a chyfleoedd ehangach.
  • Amgylchedd gofalgar, meithringar sy'n caniatáu i bob disgybl ddatblygu dyheadau cadarnhaol a chyrraedd safonau uchel.
  • Cymuned ysgol gefnogol a brwdfrydig.
  • Llywodraethwyr ymroddedig a phrofiadol.
  • Ymrwymiad i ddysgu proffesiynol parhaus ar bob lefel.
  • Partneriaethau addysgol â chymunedau allanol sefydledig.

Mae'n ofynnol bod CPCP gan ymgeiswyr nad ydynt eisoes yn benaethiaid.

Mae'r swydd hon yn amodol ar gais Datgelu Uwch i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Ysgol Gynradd Gymraeg Gellionnen - Head teacher - Job description ( PDF, 297 KB )

Ysgol Gynradd Gymraeg Gellionnen - Head teacher - Person Specification ( PDF, 203 KB )

Application form - headteacher/deputy headteacher ( Word doc, 171 KB )

Dylid dychwelyd y ffurflen gais at [email protected]

Ni ddylai eich llythyr cais ategol fod yn hwy na 2,000 o eiriau (maint ffont 12 neu faint 14 ar gyfer nam ar y golwg).

Byddem yn eich annog i ymweld â'n hysgol, fel y gallwch weld drosoch eich hun beth sydd gan yr ysgol i'w gynnig. Trefnir taith o amgylch yr ysgol ar gyfer darpar ymgeiswyr ddydd Mercher, 11.02.26 o 2yp. Gallwch drefnu hyn drwy [email protected]

Taith ysgol: 11.02.26 @2pm
Dyddiad cau: 24.02.26 @ 2pm
Rhestr Fer: 26.02.26
Y Broses Cyfweld: 04.03.26 a 05.03.26

Yng Nghyngor Abertawe yr egwyddor yw "Busnes Pawb yw Diogelu", ac mae hyn yn berthnasol I holl weithwyr Cyngor Abertawe, aelodau etholedig, gwirfoddolwyr a chontractwyr. I gael rhagor o fanylion ewch I https://www.abertawe.gov.uk/diogelucorfforaethol