MANYLION.
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Llanelli, Sa15 4DN
- Math o gyflog: Annual
- Cyflog: £10,087 - £10,187 / blwyddyn
- Iaith: Cymraeg
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cyflog: £10,087 - £10,187 / blwyddyn
Cynorthwyydd Cymorth DysguApplication Deadline: 22 January 2026
Department: Cymorth Dysgu
Employment Type: Contract Cyfnod Penodol
Location: Campws Graig
Reporting To: Cydlynydd Cymorth Dysgu
Compensation: £10,087 - £10,187 / blwyddyn
DescriptionMae Bwrdd Cyfarwyddwyr Coleg Sir Gâr a Choleg Ceredigion (y coleg) wedi ymrwymo i benodi'r staff gorau posibl sy'n cyflawni rhagoriaeth yn eu gwaith. Gan weithio i'r gwerthoedd a'r ymddygiadau sy'n tanategu cynllun strategol a busnes y sefydliad, mae'r Coleg yn ceisio staff sy'n arddangos creadigrwydd ac arloesedd, tra'n gyrru eu perfformiad eu hunain, a pherfformiad eraill, i ddarparu'r profiad a'r gwasanaeth gorau posibl i ddysgwyr.
Prif bwrpas y swydd yw darparu cymorth i fyfyrwyr unigol a/neu grwpiau o fyfyrwyr sydd ag ystod o anawsterau dysgu ac anableddau neu anghenion eraill sydd yn gofyn am gymorth.
Rydym yn chwilio am Gynorthwyydd Cymorth Dysgu caredig, ymroddedig a rhagweithiol i ymuno â'n tîm yn Aberystwyth — rhywun a all helpu dysgwyr ag ystod eang o anghenion ychwanegol i ffynnu a chyflawni eu potensial llawn.
Os ydych chi'n frwd dros gefnogi eraill, yn meddu ar sgiliau rhyngbersonol gwych, ac eisiau gweithio mewn amgylchedd deinamig sy'n rhoi boddhad — byddem wrth ein bodd yn clywed gennych chi!
Cyfrifoldebau AllweddolFel Cynorthwyydd Cymorth Dysgu, byddwch yn:
- Darparu cymorth yn y dosbarth a chymorth unigol i fyfyrwyr ag anawsterau dysgu, anableddau, neu anghenion ychwanegol eraill.
- Helpu dysgwyr i ddatblygu hyder, annibyniaeth a sgiliau astudio cryf.
- Gweithio'n agos gyda thimau cwrs a chydlynwyr cymorth dysgu i deilwra cymorth sy'n diwallu anghenion unigryw pob myfyriwr.
- Cefnogi dysgwyr gyda threfniadaeth, sgiliau ymchwil, defnyddio TGCh, a pharatoi aseiniadau.
- Cymryd rhan mewn teithiau, hyfforddiant, gweithgareddau gwella ansawdd, a chyfrannu at brofiad cyffredinol y dysgwr.
Sgiliau Gwybodaeth ac ArbenigeddHanfodol
- Cymwysterau Priodol hyd at Lefel 3
- TGAU (neu'n gyfwerth) mewn Saesneg a Mathemateg o leiaf Gradd C
- Ymagwedd gadarnhaol, hyblyg ac empathig
- Sgiliau cyfathrebu a TG cryf
- Awydd gwirioneddol i wneud gwahaniaeth ym mywydau pobl ifanc
- Y gallu i weithio'n gytûn gyda chydweithwyr
- Cymhwyster Sgiliau Sylfaenol Cynorthwywyr Cymorth Dysgu Lefel 2 (os nad yw'r cymhwyster gennych bydd disgwyl i chi gwblhau'r cwrs o fewn 2 flynedd i gael eich penodi)
- Cymhwyster Cymorth Cyntaf yn y Gwaith (Os nad yw'r cymhwyster gennych bydd disgwyl i chi gwblhau'r cwrs o fewn 2 flynedd i gael eich penodi)
- Profiad perthnasol o weithio gydaphobl ag anawsterau dysgu a/neu anableddau
- Llefaredd Cymraeg (Gwrando/Siarad) - Lefel 2 Hanfodol
- Llythrennedd Cymraeg (Ysgrifennu/Darllen) - Lefel 2 Hanfodol
Mae croeso i bobl wneud cais am swyddi yn Gymraeg, ac ni fydd ceisiadau a wneir yn Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a wneir yn Saesneg.
Buddion
- Byddwch yn cael 28 diwrnod o wyliau, ynghyd â gwyliau banc a phum diwrnod cau sef cyfanswm o 41 diwrnod o wyliau y flwyddyn. Hefyd byddwch yn cael 4 diwrnod ychwanegol ar ôl 5 mlynedd o wasanaeth.
- Cynllun pensiwn hynod o hael gyda 20% o gyfraniadau cyflogwr.
- Rhaglen dysgu a datblygu proffesiynol wobrwyedig.
- Cynllun seiclo i'r gwaith
- Maes parcio ceir am ddim ar y safle
- Disgowntiau mewn siopau adwerthu ac ar-lein