MANYLION
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Oriau: Full time
- Math o gyflog: Not Supplied
- Cyflog: Teacher's Main Payscale
- Iaith: Cymraeg
- Dyddiad Cau: 16 Ionawr, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Athro/Athrawes Ystafell Ddosbarth (Blwyddyn 3) - Ysgolion y Ffederasiwn
Torfaen Local Authority
Cyflog: Teacher's Main Payscale
DYDDIAD DECHRAU: Cyn gynted â phosiblHoffech chi weithio mewn dwy o'r ysgolion mwyaf uchelgeisiol yng Nghymru?
Hoffech chi fod yn rhan o gymuned ddysgu lle, rydyn ni'n ymdrechu ym mhopeth a wnawn i:
- dyfu dysgwyr llwyddiannus, ffyniannus;
- arwain ein pobl at ragoriaeth; a
- newid ein cymuned a'n gwlad er gwell?
Ydych chi'n athro brwdfrydig, creadigol ac angerddol sy'n barod i wneud gwahaniaeth?
Os felly, mae Ffederasiwn Ysgol Gynradd Gymunedol Blenheim Road ac Ysgol Gynradd Coed Eva yn awyddus i glywed gennych.
Rydyn ni'n chwilio am athro dosbarth ysgogol ac ysbrydoledig i ddysgu ym Mlwyddyn 3, i feithrin chwilfrydedd ac annibyniaeth, a dod â dysgu yn fyw i'n dysgwyr ieuengaf.
Mae ein Ffederasiwn yn unigryw yng Nghymru. Anelwn i sicrhau'r:
- lefelau cyrhaeddiad uchaf i'n dysgwyr; font-size:12pt">lefelau llesiant uchaf posib; font-size:12pt">ymgysylltiad mwyaf effeithiol â theuluoedd a'r gymuned; a'r
- paratoadau mwyaf effeithiol ar gyfer y dyfodol;
ar gyfer ein cymuned ysgol gyfan, trwy'r amser.
Rydym yn sefydliad blaengar, lle mae creadigrwydd ac arloesedd yn rhan annatod o ddarparu profiadau dysgu cyfoethog.
Os yw hon yn her sy'n ennyn cyffro ynoch, ac os ydych chi'n barod i gael eich grymuso i weithio fel aelod allweddol o'n tîm, edrychwn ymlaen at glywed gennych.
Mae'r swydd hon wedi'i heithrio rhag Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974. Bydd proses sgrinio gynhwysfawr yn cael ei chynnal ar bob ymgeisydd a fydd yn cynnwys gwiriad Uwch gyda'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Ar gyfer y swydd hon mae gofyn cofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg.
Mae Cyngor Bwrdeistref Siriol Torfaen yn ymdrechu i fod yn gyflogwr teg, cefnogol ac effeithiol. Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo llesiant plant, pobl ifanc ac oedolion sy'n agored i niwed. Mae'r Cyngor yn disgwyl i'w gyflogeion, boed yn gweithio am dâl neu'n ddi-dâl, i rannu'r ymrwymiad hwn. Rydym yn gwerthfawrogi'r ystod o brofiadau a ddaw yn sgil gweithlu amrywiol ac felly rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o bob cefndir a grwpiau sy'n cael eu tangynrychioli.
Mae croeso i chi gyflwyno eich cais yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Bydd pob cais yn cael ei drin yn gyfartal.
Dyddiad Cau: 16 Ionawr 2026
Llunio Rhestr Fer: Wythnos yn cychwyn 19 Ionawr 2026
Arsylwi Gwersi a Chyfweliadau: Wythnos yn cychwyn: 19 a 26 Ionawr 2026