MANYLION
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Ffordd y Bers,
- Math o gyflog: Annual
- Cyflog: £36,981 - £39,442
- Iaith: Cymraeg
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cyflog: £36,981 - £39,442
Disgrifiad Swydd a Manyleb PersonColeg Cambria: Cyflwyniad
Yng Ngholeg Cambria, ein nod yw bod yn sefydliad addysg eithriadol.
Rydym yn rhoi croeso cynnes i holl fyfyrwyr a staff i wneud Coleg Cambria yn lle rydych chi eisiau bod yn rhan ohono. Er mwyn sicrhau bod ein myfyrwyr yn cael y profiad a'r canlyniadau gorau y gallant eu cael, rydym yn sicrhau fod y bobl rydym yn eu cyflogi yn hapus. Rydym yn meithrin amgylchedd gwaith cadarnhaol, gweithlu sy'n ehangu ac yn gwella'n gyson, ac yn cynnig y cyfle i chi herio'ch hun. Yn ogystal â hynny, mae gennym ystod eang o fudd-daliadau i sicrhau fod ein gweithwyr yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, gan gynnwys gwyliau blynyddol hael, pecyn pensiwn gwych, ac aelodaeth â disgownt i'n campfeydd, ein salonau a'n bwytai hyfforddi proffesiynol.
Mae ein 5 safle, sydd wedi'u lleoli mewn ardal odidog yng Ngogledd Cymru, yn ehangu ac yn datblygu'n gyson. Gyda pherthnasoedd cryf gyda nifer o gwmnïau yn yr ardal, rydym yn helpu rhoi'r dechrau gorau i'n myfyrwyr i'w gyrfaoedd ac yn helpu'r economi leol i ffynnu. Mae gan Gymru ddiwylliant cadarn a balch, ac rydym yn parhau i ddatblygu'r gwerthoedd pwysig hynny trwy ymrwymo i hyrwyddo'r Gymraeg. Rydym yn falch iawn o'r hyn rydym wedi'i adeiladu yma ac rydym bellach yn chwilio am rywun i wella ein gweithlu sydd eisoes yn eithriadol.
Crynodeb o'r Swydd
Rhagori ar ddisgwyliadau drwy addysg, arloesedd ac ysbrydoliaeth...
Teitl y Swydd: Cydlynydd Cymorth Dysgu Ychwanegol
Lleoliad: Ffordd y Bers
Math o Gontract: Cyfnod Penodol Llawn Amser
Graddfa Gyflog: £36,981 - £39,442 (Cyfnod Mamolaeth - 12 mis)
Trosolwg o'r Swydd
Gan adrodd i'r Rheolwr Cymorth Dysgu, eich prif ddyletswyddau fydd rheoli tîm o Gynorthwywyr Dysgu, Gweithwyr Cymorth Cyfathrebu a Gweithwyr Cymorth Gofal ac Annibyniaeth sy'n hyrwyddo dysgu cynhwysol, cynnal presenoldeb, cefnogi cyflawniad a chynnydd myfyrwyr, a hefyd sicrhau bod cymorth dysgu o'r safon uchaf ac yn bodloni anghenion pob myfyriwr a'r Cod ADY arfaethedig.
Byd gofyn i chi hefyd i reoli'r ddarpariaeth cymorth yn yr ystafell ddosbarth i fyfyrwyr ag anghenion dysgu ychwanegol a'r rhai gydag anableddau corfforol, nam ar y synhwyrau, a chyflyrau iechyd meddwl neu feddygol sydd angen cymorth arnynt i ddilyn eu cyrsiau.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn rheoli, cynnal ac adolygu cynlluniau datblygu unigol, bod yn gyfrifol am bontio dysgwyr ag ADY, i mewn i'r coleg a dilyniant tuag at waith a/neu gynhwysiad cymunedol. Bydd gofyn i chi gynnal ac adolygu cynlluniau Addysg, Iechyd a Gofal (Lloegr) ac o 2019, Cynlluniau Datblygu Unigol (Cymru), bod yn gyfrifol am y system adolygu a chadw at ddisgwyliadau Awdurdodau Lleol. Byddwch hefyd yn bwynt cyswllt i staff, myfyrwyr a rhieni.
Gofynion Hanfodol
I gael eich ystyried ar gyfer y swydd hon rhaid bod gennych TGAU mewn Mathemateg a Saesneg Gradd C neu uwch (neu gyfwerth).
Rhaid i ymgeiswyr fod â phrofiad blaenorol sylweddol o weithio gyda phobl ag anghenion ychwanegol ac mae darparu cefnogaeth mewn ystafell ddosbarth neu leoliad tebyg yn hanfodol.
Mae sgiliau Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon.
Mae Coleg Cambria wedi ymrwymo i hyrwyddo proffil y Gymraeg.
Mae hyrwyddo'r Gymraeg yn rhan hanfodol o'n gwaith. Mae croeso i ymgeiswyr gyflwyno cais yn Gymraeg. Nid ydym yn trin cais a gyflwynwyd yn Gymraeg yn llai ffafriol na chais a chyflwynwyd yn Saesneg.
Bydd ffurflenni cais, deunydd esboniadol, gwybodaeth am y broses gyfweld a dulliau asesu a disgrifiadau swydd i gyd ar gael yn Gymraeg.
Mae Coleg Cambria yn gyflogwr 'Hyderus o ran Anableddau'.
Mae hyrwyddo Cydraddoldeb ac Amrywiaeth yn rhan hanfodol o'n gwaith, ac mae'r coleg wedi ymrwymo i gael grwp staff amrywiol fel rhan o hynny.
Mae Coleg Cambria wedi ymrwymo i ddiogelu pob dysgwr, ac rydym yn disgwyl i bob aelod o staff rannu'r ymrwymiad hwn.
Mae'r rôl hon wedi'i chynnwys o dan Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) ac wedi'i dosbarthu fel gweithgaredd rheoleiddiedig.
Mae'n ofynnol felly cael gwiriad DBS Uwch gyda Rhestr Waharddedig, ac mae'n rhaid i ymgeiswyr ddatgelu pob rhybudd a chollfarn yn cynnwys unrhyw rai sydd wedi darfod. Mae'n drosedd gwneud cais os ydych wedi'ch gwahardd rhag gweithio gyda phlant. Ni fydd datgelu yn atal cyflogaeth yn awtomatig; cynhelir asesiad risg ond efallai y byddwn yn ystyried bod rhai euogfarnau / rhybuddion yn golygu eu bod nhw'n anaddas i weithio gyda phlant.
Yn dibynnu ar y swydd, efallai y bydd angen i ymgeiswyr llwyddiannus gofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg hefyd.
Fel arfer mae swyddi'n cael eu hysbysebu gydag ystod cyflog. Os cewch gynnig swydd yn y coleg, bydd profiad perthnasol yn cael ei ystyried er mwyn pennu eich cyflog cychwynnol.
Sylwer fod Coleg Cambria yn cadw'r hawl i gau'r rhestr ymgeiswyr yn gynnar ar gyfer unrhyw swydd pe byddwn yn derbyn nifer fawr o geisiadau. Byddwn yn argymell eich bod yn cwblhau eich cais cyn gynted â phosibl os hoffech gael eich ystyried ar gyfer y swydd hon.
Buddion
Cynllun(iau) pensiwn ardderchog
Hawl gwyliau blynyddol hael
Darpariaeth feithrin ar ein safle yng Nglannau Dyfrdwy
Gostyngiadau ar ystod o gyrsiau gyda'r nos y coleg
Mynediad i ystod eang o gyrsiau e-ddysgu a datblygiad proffesiynol
Disgownt ar aelodaeth ystafell ffitrwydd
Cyfleusterau chwaraeon a ffitrwydd ardderchog
Parcio am ddim ar bob safle
Cynllun Beicio
Cyfraddau gostyngol ar gyfer trin gwallt a thriniaethau harddwch
Cyfraddau gostyngol yn ein bwytai
Absenoldeb mamolaeth, mabwysiadu a thadolaeth estynedig