MANYLION
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Mynydd Cynffig Primary,
- Oriau: Part time
- Cytundeb: Not Specified
- Math o gyflog: Fesul awr
- Cyflog: £12.65 awr yn yr
- Iaith: Cymraeg
- Dyddiad Cau: 07 Ionawr, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cynorthwy-ydd Goruchwylio - Ysgol Gynradd Mynydd Cynffig
Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
Cyflog: £12.65 awr yn yr
Cynorthwy-ydd Goruchwylio - Ysgol Gynradd Mynydd CynffigDisgrifiad swydd
Yn ystod tymor yr ysgol
Dros dro tan 02 Gorffennaf 2026
1 awr y dydd yn ôl yr angen
Mae Ysgol Gynradd Mynydd Cynffig yn awyddus i benodi Goruchwyliwr Amser Cinio Llanw i weithio yn ystod amser cinio, yn ystod tymor yr ysgol yn unig.
Efallai y gelwir ar staff llanw i weithio ar fyr rybudd i gyflenwi absenoldeb aelodau eraill o staff yr ysgol yn amodol ar eu hargaeledd eu hunain, yn ystod amser cinio, rhwng 12pm – 1pm yn ôl y galw.
Gan weithio fel rhan o dîm, bydd yn ofynnol i'r ymgeisydd llwyddiannus oruchwylio'r plant ym mhob un o ardaloedd yr ysgol, yn ogystal â goruchwylio disgyblion mewn gemau ar y maes chwarae a'u cynnwys ynddynt.
Byddai profiad o weithio gyda phlant, a'r gallu i annog ymddygiad da a chwarae ymhlith disgyblion yn fantais, ond nid yw'n hanfodol oherwydd darperir hyfforddiant.
Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn un o gyfrifoldebau craidd pob un o gyflogeion y cyngor.
Mae gwiriad cofnodion troseddol Manwl gyda Rhestr Waharddedig Plant gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Dyddiad Cau: 07 Ionawr 2026
Dyddiad Llunio'r Rhestr Fer: 09 Ionawr 2026
Dyddiad y Cyfweliad: 14 Ionawr 2026
Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr
Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person