MANYLION
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Conwy,
- Cytundeb: Parhaol
- Math o gyflog: Annual
- Cyflog: NJC pwynt 8 - 11 £24,266 - £25,458 y flwyddyn
- Iaith: Cymraeg
- Dyddiad Cau: 04 Rhagfyr, 2025 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cymhorthydd Gweinyddol Lefel 3 - Ysgol Deganwy
Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
Cyflog: NJC pwynt 8 - 11 £24,266 - £25,458 y flwyddyn
Ysgol DeganwyPark Drive
Deganwy
Conwy
LL31 9YB
Ffôn: 01492 574600
Pennaeth: Mrs Zoe Pritchard Parry
Yn eisiau erbyn mis Rhagfyr 2025
CYMHORTHYDD GWEINYDDOL LEFEL 3
Mae Ysgol Deganwy yn awyddus i apwyntio Cymhorthydd Gweinyddol i'r swydd uchod. Fe fyddai cymhwysterau, profiad â sgiliau gweinyddol a chyfrifiadurol yn fanteisiol. Mae'r gallu i gyfathrebu drwy gyfrwng y Gymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd yma.
Oherwydd natur y swydd byddwn yn gofyn am Ddatgeliad gan y Gwasanaeth Cofnodi Troseddau ar gyfer yr ymgeisydd llwyddiannus.
Am ragor o fanylion ynglŷn â'r swydd cysylltwch â'r ysgol ar (01492) 574600
I wneud cais am y swydd hon, ewch i www.conwy.gov.uk/swyddi i lenwi cais ar lein.
Noder nid yw'r awdurdod yn cyhoeddi ffurflenni cais ac nid yw'n derbyn CV.
Ni fyddwn yn derbyn CV heb ffurflen gais
Os na fyddwch yn cael gwybod o fewn 3 wythnos wedi'r dyddiad cau eich bod ar restr fer ar gyfer cyfweliad, rhaid i chi gymryd yn ganiataol na fyddwch yn cael cyfweliad. Ni fyddwch yn cael gwybod hynny ar bapur.
Wrth fynd ati i hyrwyddo cyfle cyfartal, mae Conwy yn croesawu ymgeiswyr o bob rhan o'r gymuned. Bydd pob ymgeisydd anabl sy'n diwallu gofynion hanfodol swydd yn cael cyfweliad.
This form is also available in English