MANYLION
  • Lleoliad: Wrexham,
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Annual
  • Cyflog: £26,403 - £27,254
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 17 Ionawr, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Swyddog Presenoldeb

Cyngor Wrecsam

Cyflog: £26,403 - £27,254

Ynglŷn â'r Rôl
Mae Llywodraethwyr Ysgol Morgan Llwyd yn dymuno penodi Syddog Presenoldeb i weithio yn yr ysgol hapus a llwyddiannus hon.

Mae'r Corff Llywodraethol yn frwd dros addysg ac yn awyddus i barhau ar ein taith o welliant. Rydym yn chwilio am berson gweithredol a brwdfrydig sy'n rhannu'r weledigaeth:

Ysgol ofalgar sydd yn datblygu dysgwyr uchelgeisiol a galluog, mewn awyrgylch ble mae pawb yn hapus, yn ddiogel ac yn awyddus i ddysgu.

O dan arweiniad y Pennaeth Cynorthwyol, rôl y swydd yw bod yn gyfrifol am ymgymryd â phrosesau gweinyddol, sefydliadol a bugeiliol sy'n ymwneud â phresenoldeb yn yr ysgol er mwyn sicrhau bod yr ysgol yn cael ei rhedeg yn effeithiol. Paratoi adroddiadau presenoldeb i staff a llywodraethwyr. Am ragor o wybodaeth gweler y Swydd Ddisgrifiad.

Mae'r gallu i siarad Cymraeg ar gyfer y swydd hon yn hanfodol.

Am ragor o wybodaeth cysylltwch gyda Miss Rhian Owen Rheolwr Busnes [email protected] .

I wneud cais lawrlwythwch y ffurflen gais os gwelwch yn dda a'i ddychwleyd at Miss Rhian Owen, Rheolwr Busnes, drwy e-bost [email protected]

Mae Cyngor Wrecsam yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr cymwys beth bynnag fo eu hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol neu oedran

Noder fod yr holl swyddi mewn ysgolion yn ddibynnol ar wiriad DBS uwch (Y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd)

This is an advertisement for a Attendance officer which the ability to communicate through Welsh is essential.
Amdanom Ni
Gwybodaeth am yr Ysgol

Ysgol uwchradd gyfrwng Cymraeg yw Ysgol Morgan Llwyd wedi'i lleoli yn ninas Wrecsam ac sy'n gwasanaethu dalgylch eang Sir Wrecsam. Fe'i hagorwyd yn 1964 gyda chriw bach o ddisgyblion, ac ers hynny, mae'r ysgol wedi mynd o nerth i nerth gan symud i safle newydd yn y flwyddyn 2000. Erbyn hyn mae 992 o ddisgyblion ar ein cofrestr a 90 yn y chweched dosbarth. Daw ein disgyblion o'r ddinas ei hun, y pentrefi cyfagos ac o ardal wledig Dyffryn Ceiriog. Ysgol Morgan Llwyd yw unig ysgol uwchradd Gymraeg y Sir ac un o'r ddwy ysgol yn unig sydd â Chweched Dosbarth.

Ymfalchïwn yn ein traddodiad o lwyddiant academaidd ein disgyblion a'u llwyddiannau ymhob rhan o fywyd allgyrsiol yr ysgol.

Ein gweledigaeth yw sicrhau fod Ysgol Morgan Llwyd yn ysgol ofalgar sydd yn datblygu dysgwyr uchelgeisiol a galluog, mewn awyrgylch ble mae pawb yn hapus, yn ddiogel ac yn awyddus i ddysgu.