MANYLION
  • Lleoliad: Brecon,
  • Oriau: Full time
  • Math o gyflog: Annual
  • Cyflog: Graddfa 9 Pwynt 23 i Bwynt 25 £34,434 i £36,363 y flwyddyn ar gyfartaledd £17.84 i £18.84 yr awr
  • Iaith: Cymraeg
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Cynorthwyydd Addysgu Lefe Uwch 4 - Ysgolion Arbennig yn Unig (Ysgol Penmaes)

Cyngor Sir Powys

Cyflog: Graddfa 9 Pwynt 23 i Bwynt 25 £34,434 i £36,363 y flwyddyn ar gyfartaledd £17.84 i £18.84 yr awr

Cynorthwyydd Addysgu Lefe Uwch 4 - Ysgolion Arbennig yn Unig (Ysgol Penmaes)
Swydd-ddisgrifiad
YSGOL PENMAES
CYNORTHWYYDD ADDYSGU LEFEL UWCH
32.5 awr yr wythnos yn ystod y tymor yn unig
Graddfa 9: £34,434 - £36,363 pro rata
Dyddiad dechrau: Rhagfyr 2025 - Cyfnod mamolaeth
Mae'r hysbyseb hon ar gyfer cyfnod mamolaeth ac mae'n addas ar gyfer ymgeiswyr sydd wedi ennill statws CALU. Byddai'r secondiad hyd nes y bydd deiliad gwreiddiol y swydd yn dychwelyd i'w swydd, yna byddai'r ymgeisydd llwyddiannus yn dychwelyd i'w swydd wreiddiol.
Darllenwch yr hysbyseb hon ynghyd â'r Safonau Proffesiynol ar gyfer Cynorthwyydd Addysgu.
Disgwyliwn i'r ymgeisydd llwyddiannus:
• Cefnogi cyflwyno profiadau dysgu o ansawdd uchel i bob disgybl a cheisio gwneud dysgu'n brofiad cyffrous a chadarnhaol.
• Ysbrydoli ac ysgogi ein disgyblion a dangos ymrwymiad i godi cyrhaeddiad disgyblion gyda disgwyliadau uchel o ddysgu.
• Cyfrannu'n weithredol at bennu a monitro targedau Darpariaeth Ddysgu Ychwanegol;
• Defnyddio eich menter eich hun i wella ansawdd y ddarpariaeth ar gyfer y disgyblion; Cael profiad o gynllunio a chyflwyno gwersi; Bod yn arloesol, creadigol ac uchelgeisiol fel model rôl dda i ddisgyblion a staff eraill; Bod yn gefnogol, meithringar a deallgar gyda disgwyliadau uchel o ymddygiad cadarnhaol.
• Cyfathrebu'n dda gyda rhieni, gofalwyr a chydweithwyr yn ogystal â disgyblion.
• Dangos sgiliau cyfathrebu da ar lafar ac yn ysgrifenedig.
• Gweithio'n dda fel rhan o dîm; Bod yn barod i gyfrannu at fywyd yr ysgol y tu allan i'r ystafell ddosbarth.
• Cael yr awydd i wneud cyfraniad sylweddol a pharhaus tuag at ethos a
gweledigaeth ein hysgol; Cael profiad helaeth o weithio gyda disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol; Bod yn barod i gynorthwyo gyda gofal personol (darperir hyfforddiant ar gyfer codi a chario); Cyflenwi ar gyfer sesiynau CPA wythnosol yn ôl yr angen a lle bod yn briodol
• Rheoli a chefnogi disgyblion ag ymddygiad heriol (darperir hyfforddiant) gan gynnwys cyfrannu at Gynlluniau Cymorth Unigol yn ogystal â chadw atynt
• Cefnogi'r gwaith o gynllunio ymweliadau oddi ar safle
Yn gyfnewid am hyn byddwch yn derbyn:
• Cefnogaeth cydweithwyr ymroddedig a brwdfrydig
• Amgylchedd gwaith cefnogol a phroffesiynol
• Cefnogaeth i'ch datblygiad proffesiynol parhaus

Bydd Gwiriad DBS Manwl yn ofynnol ar gyfer y swydd hon