MANYLION
  • Lleoliad: Llanfair Caereinion,
  • Oriau: Full time
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Annual
  • Cyflog: Cyfateb i £33,731 - £51,942 amser llawn + CAD 2c o £8,285
  • Iaith: Cymraeg
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Athro / Athrawes ac Arweinydd Dysgu Mathemateg a Rhifedd (Ysgol Bro Caereinion)

Cyngor Sir Powys

Cyflog: Cyfateb i £33,731 - £51,942 amser llawn + CAD 2c o £8,285

Athro / Athrawes ac Arweinydd Dysgu Mathemateg a Rhifedd (Ysgol Bro Caereinion)
Swydd-ddisgrifiad
Mae'r gallu i ddefnyddio'r Gymraeg yn gymhwyster hanfodol ar gyfer y swydd hon

YSGOL BRO CAEREINION
Athro / Athrawes ac Arweinydd Dysgu
Mathemateg a Rhifedd
Prif raddfa cyflog a CAD2C
(Cyfateb i £33,731 - £51,942 amser llawn + CAD 2c o £8,285)
Annwyl Ymgeisydd
Mae Ysgol Bro Caereinion yn awyddus i benodi Arweinydd Dysgu Mathemateg a Rhifedd ymroddedig i ymuno â'r ysgol pob oed ar ddechrau pennod newydd gyffrous wrth iddi ddod yn ysgol Gymraeg
f laenllaw ym Maldwyn, yng ngogledd Powys. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn ymuno â thîm brwdfrydig o staff sydd yn ymroi'n llwyr i gynnal y safonau uchaf o ddysgu ac addysgu a chyflawniad
disgyblion o fewn ysgol arbennig sydd ag ethos deuluol gref. Lleolir yr ysgol hon yn nhref marchnad Llanfair Caereinion, mewn ardal wledig hyfryd yng Nghanolbarth Cymru, wyth milltir o'r Trallwng ac o
fewn awr o daith o Aberystwyth. Mae Estyn, yn yr adroddiad craidd, Ebrill 2024, yn datgan bod Ysgol Bro Caereinion 'yn gymuned ysgol groesawgar lle caiff disgyblion eu parchu. Mae bron pob un o'r disgyblion yn ymddwyn yn dda iawn mewn gwersi ac o gwmpas adeiladau'r ysgol. Maent yn ymgysylltu'n gadarnhaol â'u dysgu'. I ddarllen yr adroddiad yn llawn cliciwch ar y ddolen hon: Adroddiad arolygiad Ysgol Bro Caereinion 2024 Dymunwn benodi athro deinamig, uchelgeisiol a chymwys iawn sydd â hanes o godi safonau a chynnydd dysgwyr. Mae hwn yn gyfle cyffrous i ymuno ân tîm brwdfrydig a phroffesiynol. Byddwch yn
meddu ar hanes o addysgu rhagorol i gyflawni dyheadau uchel Ysgol Bro Caereinion, Cwricwlwm i
Gymru a'r cymwysterau arholiadau newydd. Fel Arweinydd Dysgu, byddwch yn gyfrifol am ddarpariaeth mathemateg a rhifedd ar draws yr ysgol (Derbyn - Ôl 16) ac yn angerddol dros wneud gwahaniaeth i addysg a phrofiadau dysgu ein holl ddisgyblion.
Mae Ysgol Bro Caereinion yn ysgol ddwyieithog ac mae'r gallu i siarad, darllen ac ysgrifennu yn y Gymraeg yn hynod hanfodol ar gyfer y swydd hon (Lefel C - Defnyddiwr hyfedr ar y Fframwaith Cyfeirio
Cyffredin Ewrop ar gyfer Ieithoedd (CEFR)).
Gweler y disgrifiad swydd a'r fanyleb person isod.
Peidiwch ag oedi i gysylltu gyda'r ysgol os dymunwch sgwrs gyda'r pennaeth neu i ddod i ymweld âr ysgol. Dymunwn bob hwyl i chi gyda'ch cais.
Yn gywir

Myfanwy Alexander

Anwen Orrells