MANYLION
  • Lleoliad: SWANSEA, Swansea, SA2 9EB
  • Testun: Hyfforddwr (Aseswr)
  • Oriau: Amser llawn
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Blynyddol
  • Salary Range: £29,998 - £34,897
  • Iaith: Saesneg

This job application date has now expired.

Hyfforddwr Arwain a Rheoli

Hyfforddwr Arwain a Rheoli

Coleg Gwyr Abertawe
Dyma gyfle cyffrous i hyfforddwr Arwain a Rheoli cymwys ymuno â’n tîm llwyddiannus a phroffesiynol sy’n gweithredu o fewn Hyfforddiant CGA, cangen fasnachol y Coleg.

Byddwch yn gweithio yn yr adran Busnes, Sgiliau ac Arloesi, a bydd gofyn ichi farchnata, recriwtio, addysgu, asesu a chefnogi dysgwyr o fewn y sector. Gall rhaglenni gynnwys dysgu seiliedig ar waith, NVQ, prosiectau a ariennir gan Ewrop a rhaglenni a gweithdai pwrpasol.

Bydd gennych ymagwedd broffesiynol, dealltwriaeth gyfredol o’r fframwaith perthnasol a’r gallu i gyflwyno’r holl gymwysterau ar bob lefel sy’n berthnasol i’r fframwaith prentisiaethau. Yn ddelfrydol, byddwch yn gyfarwydd â gofynion gweinyddol rhaglenni prentisiaeth.

Byddwch yn gweithio â chyflogwyr allanol a rheolwyr o fewn y Coleg i nodi a hwyluso datrysiadau hyfforddiant, er mwyn diwallu anghenion y sefydliad a chynorthwyo Dilyswyr i sicrhau bod holl ofynion Dilyswyr allanol a’r corff dyfarnu yn cael eu bodloni.

Bydd gennych Gymhwyster Lefel 5 o leiaf neu gymhwyster cyfwerth mewn maes perthnasol, dyfarniad A1 Asesu/V1 Dilysu Mewnol (TAQA), neu byddwch yn barod i weithio tuag at y cymwysterau hyn. Mae lefel 2 (Gradd A-C) mewn Mathemateg a Saesneg, ynghyd ag ymrwymiad i ymgymryd â chymhwyster paratoi i addysgu (PTTLS) yn hanfodol.

Byddwch yn meddu ar sgiliau cyfathrebu gwych ar lafar ac yn ysgrifenedig, sgiliau TGCh da a’r gallu galwedigaethol i asesu hyd at Lefel 7 ac ysbrydoli a throsglwyddo eich gwybodaeth i’r dysgwyr. Yn ogystal, bydd gennych lygad wych am fanylder, awch i gwblhau targedau a ffocws ar ansawdd.

Ni cheir ceisiadau Cymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.

Mae Coleg Gwyr Abertawe yn ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles pobl ifanc ac yn disgwyl i’r holl staff rhannu’r ymrwymiad hwn. Bydd penodiadau eu gwneud ar sail gwiriad DBS manylach a bydd gofyn i chi ymaelodi â Chyngor Gweithlu Addysg Cymru.

Fel rheol, bydd penodiadau yn cael eu gwneud ar waelod y raddfa gyflog gyda chynyddrannau blynyddol ar 1 Awst bob blwyddyn (yn amodol ar ddyddiad cychwyn cyn 1 Chwefror).