MANYLION
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Aberteifi, SA43 1AB
- Math o gyflog: Annual
- Cyflog: £25,372 - £49,934 / blwyddyn
- Iaith: Cymraeg
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cyflog: £25,372 - £49,934 / blwyddyn
Darlithydd mewn DodrefnApplication Deadline: 30 October 2025
Department: Adeiladu
Employment Type: Dros dro
Location: Campws Aberteifi
Compensation: £25,372 - £49,934 / blwyddyn
DescriptionYdych chi'n frwd dros grefftwaith ac ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf o ddylunwyr a gwneuthurwyr dodrefn? Yma yng Ngholeg Sir Gâr, rydyn ni'n chwilio am Ddarlithydd brwdfrydig a medrus mewn Dylunio a Gwneud Dodrefn i ymuno â'n tîm creadigol ac ymrwymedig.
Yn y rôl hon, byddwch yn cyflwyno addysgu o ansawdd uchel i ddysgwyr ar Lefel 2 a Lefel 3, gan gymryd cyfrifoldeb dros gynllunio, asesu, a chefnogi eu datblygiad yn agweddau ymarferol a damcaniaethol y pwnc.
Fel Arweinydd Rhaglen Maes Dysgu (Arweinydd LAP), byddwch yn trefnu carfan o ddysgwyr, cyfrannu at gynllunio cwricwlwm, a chwarae rôl allweddol wrth gynnal ansawdd ein darpariaeth drwy ddilysu mewnol a gwelliant parhaus.
Fel rhan o gymuned ehangach y coleg, byddwch yn ymwneud â thiwtora personol, cefnogi dysgwyr, hyrwyddo cwricwlwm, a datblygiad parhaus addysg ddwyieithog ac addysg ymatebol i gyflogwyr.
Cyfrifoldebau AllweddolBydd hi'n ofynnol i chi:
- Ymgymryd â'r gwaith o addysgu, asesu a chydlynu rhaglenni astudio sy'n arwain at gymwysterau mewn Dylunio a Gwneud Dodrefn ar gyfer lefel 2 a lefel 3.
- mynd i'r afael a rôl Arweinydd Rhaglen Maes Dysgu (arweinydd LAP) ar gyfer un garfan a chyfrannu at reoli'r maes pwnc hwn;
- darparu cefnogaeth, fel aelod o'r tîm, o ran gweinyddu a datblygu adnoddau o fewn y maes;
- cynorthwyo gyda'r gwaith o ddarparu Dylunio a Gwneud Dodrefn trwy gysylltu â'r diwydiant a'r posibilrwydd o ddatblygu cyrsiau masnachol;
- cyfrannu at ansawdd y ddarpariaeth trwy'r system dilysu mewnol;
- paratoi deunydd addysgu perthnasol ar gyfer pynciau penodedig;
- paratoi deunyddiau adnodd a chyfleusterau i ategu'r gwaith addysgu penodedig;
- ymgymryd â'r holl weithgarwch asesu ar gyfer pynciau penodedig;
- sicrhau bod yr holl ystafelloedd dosbarth a chyfleusterau hyfforddiant ymarferol yn cydymffurfio ag iechyd a diogelwch a gofynion deddfwriaethol eraill;
- cysylltu â rhanddeiliaid trydydd parti fel y'i nodwyd gan reolwyr y gyfadran, gan gynnwys cynghorau sgiliau sector, sefydliadau AU, cyrff diwydiannol, cyflogwyr ac ati;
- trefnu cyfleoedd lleoliad gwaith a monitro profiad y dysgwr;
- cyflawni unrhyw ddyletswyddau eraill yn ôl cyfarwyddyd y Pennaeth/Prif Weithredwr, yn gymesur â gradd y swydd, yn y gweithle cychwynnol neu leoliadau eraill yn y Coleg.
Sgiliau, Gwybodaeth ac ArbenigeddHanfodol
- Gradd berthnasol neu gymhwyster Addysg Uwch/Lefel Uwch
cyfwerth - TGAU Saesneg a Mathemateg - o leiaf Gradd C neu Lefel O cyfwerth
- Cymhwyster addysgu (os nad ydych yn meddu ar gymhwyster addysgu ar ddyddiad dechrau'r swydd, bydd yn ofynnol i chi ennill TAR o fewn 2 flynedd i'r dyddiad hwn)
- Profiad ymarferol/diwydiannol perthnasol mewn Dylunio Dodrefn Gwneud, Gwaith Saer
- Sgiliau llythrennedd a rhifedd da a'r gallu i gyfathrebu'n
effeithiol ar bob lefel ar lafar ac yn ysgrifenedig - Tystiolaeth ddogfennol o Ddatblygiad Proffesiynol parhaus priodol
- Sgiliau rhyngbersonol a threfniadol ardderchog
- Y gallu i weithio'n gytûn gyda dysgwyr a chydweithwyr
- Y gallu i weithio dan bwysau ac i derfynau amser tynn
- Prydlondeb ardderchog a'r gallu i weithio'n hyblyg
- Profiad addysgu perthnasol
- Dealltwriaeth dda o faterion perthnasol mewn addysg ôl 16
- Hanes profedig o lefelau uchel o gyrhaeddiad dysgwyr
- Ymwybyddiaeth o ddangosyddion perfformiad allweddol
- Tystiolaeth o weithgareddau addysgu a dysgu arloesol
- Tystiolaeth o olrhain a monitro perfformiad dysgwyr yn
effeithiol - Profiad o gymryd rhan weithredol yng ngofal bugeiliol
pobl ifanc - Dealltwriaeth gadarn o lythrennedd digidol
- Parodrwydd i yrru bws mini'r coleg
- Parodrwydd i gyfrannu at ddatblygu gweithgareddau allgyrsiol
- Llefaredd Cymraeg (Gwrando/Siarad) - Lefel 0/1 Dymunol
- Llythrennedd Cymraeg (Ysgrifennu/Darllen) - Lefel 0/1 Dymunol
Mae croeso i bobl wneud cais am swyddi yn Gymraeg, ac ni fydd ceisiadau a wneir yn Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a wneir yn Saesneg.
Buddion
- Byddwch yn cael 46 diwrnod o wyliau, ynghyd â gwyliau banc a phum diwrnod cau sef cyfanswm o 59 diwrnod o wyliau y flwyddyn. Hefyd byddwch yn cael 4 diwrnod ychwanegol ar ôl 5 mlynedd o wasanaeth.
- Cynllun pensiwn hynod o hael gyda 28.68% o gyfraniadau cyflogwr.
- Rhaglen dysgu a datblygu proffesiynol wobrwyedig.
- Cynllun seiclo i'r gwaith
- Maes parcio ceir am ddim ar y safle
- Disgowntiau mewn siopau adwerthu ac ar-lein