MANYLION
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Oriau: Full time
- Math o gyflog: Not Supplied
- Cyflog: Blank
- Iaith: Cymraeg
- Dyddiad Cau: 13 Hydref, 2025 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Athro / Athrawes Dosbarth - Cyfrwng Cymraeg (Ysgol Dyffryn Trannon)
Cyngor Sir Powys
Cyflog: Blank
Athro / Athrawes Dosbarth - Cyfrwng Cymraeg (Ysgol Dyffryn Trannon)Swydd-ddisgrifiad
Athro / Athrawes Dosbarth (Blwyddyn 3 a 4) - Cyfnod Mamolaeth
I ddechrau: 5 Ionawr 2026
Lefel Iaith Cymraeg: Mae'r gallu i ddysgu trwy gyfrwng y Gymraeg yn hanfodol.
Mae Ysgol Dyffryn Trannon yn ysgol gynradd ddwy ffrwd wedi'i lleoli ym mhentref Trefeglwys, tua phum milltir o Lanidloes, ac yn gwasanaethu cymuned wledig.
Mae'r Corff Llywodraethol yn dymuno penodi athro angerddol, ymroddedig ac ysbrydoledig i ymuno â'n hysgol gynhwysol a blaengar.
Rydym yn chwilio am rywun sydd:
➢ yn uchelgeisiol ac yn gosod disgwyliadau uchel ar gyfer pob dysgwr.
➢ yn croesawu her ac yn gweithio gydag egni ac ymrwymiad.
➢ â sgiliau rhyngbersonol rhagorol.
➢ yn benderfynol o ddarparu profiadau dysgu rhagorol i bob plentyn.
Mae ein hysgol yn gwbl ymrwymedig i ddiogelu ac i hyrwyddo lles plant. Mae'r swydd yn destun cyfeiriadau boddhaol, DBS manylach a phob cliriad perthnasol arall.
Dyddiad Cau: Dydd Llun 13 Hydref 2025
Rhestr Fer: Wythnos yn dechrau 13 Hydref 2025
Cyfweliadau: Wythnos yn dechrau 20 Hydref 2025
Mae croeso cynnes i ymgeiswyr sydd â diddordeb ymweld âr ysgol neu gysylltu âr Pennaeth, Mrs Caroline Harries, am sgwrs anffurfiol: 01686 430644
Dylid cyflwyno ceisiadau ar-lein.