MANYLION
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Llanelli, Sa15 4DN
- Math o gyflog: Annual
- Cyflog: £35,712 - £38,079 / blwyddyn
- Iaith: Cymraeg
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cyflog: £35,712 - £38,079 / blwyddyn
Cydlynydd Digwyddiadau ac Ymgysylltu â RhanddeiliaidApplication Deadline: 21 August 2025
Department: Marchnata
Employment Type: Parhaol
Location: Campws Graig
Compensation: £35,712 - £38,079 / blwyddyn
DescriptionMae Bwrdd Cyfarwyddwyr Coleg Sir Gâr a Choleg Ceredigion wedi ymrwymo i benodi'r staff gorau posibl sy'n cyflawni rhagoriaeth yn eu gwaith. Gan weithio i'r gwerthoedd a'r ymddygiadau sy'n tanategu cynllun strategol a busnes y sefydliad, mae'r Coleg yn ceisio staff sy'n arddangos creadigrwydd ac arloesedd, tra'n gyrru eu perfformiad eu hunain, a pherfformiad eraill, i ddarparu'r profiad a'r gwasanaeth gorau posibl i ddysgwyr.
Mae'r Coleg yn awyddus i gyflogi Cydlynydd Digwyddiadau ac Ymgysylltu â Rhanddeiliaid, a fydd yn gweithio fel rhan o'r Tîm Marchnata i gefnogi cynllun strategol y coleg, rhagori ar dargedau recriwtio ar draws pob marchnad, dathlu llwyddiant dysgwyr a staff a meithrin partneriaethau ag ysgolion lleol. Bydd deiliad y swydd yn cymryd cyfrifoldeb am gydlynu digwyddiadau sy'n cefnogi recriwtio, ymgysylltu, dilyniant, cyflogadwyedd a llwyddiant. Mae'r dyletswyddau'n cynnwys cydlynu calendr cynhwysfawr o ddigwyddiadau sy'n gyson â brand, cynllun strategol a strategaeth farchnata'r coleg.
Cyfrifoldebau Allweddol
- Cynllunio, trefnu a gwerthuso calendr cynhwysfawr o ddigwyddiadau mewnol ac allanol ledled Sir Gaerfyrddin a Cheredigion i gefnogi recriwtio, ymgysylltiad a dilyniant dysgwyr.
- Cyflwyno digwyddiadau sy'n gynhwysol, yn ddwyieithog ac yn hygyrch i bob dysgwr, gan gynnwys y rheini sy'n perthyn i grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol.
- Arwain ar y gwaith o gyflwyno digwyddiadau allweddol y coleg, gan gynnwys nosweithiau agored, seremonïau gwobrwyo dysgwyr, graddio, ffeiriau'r glas, diwrnodau rhagflas, digwyddiadau addysg, gwybodaeth, cyngor ac arweiniad gyrfaoedd, cofrestru, ac wythnosau dilyniant gan sicrhau bod gweithgareddau'n gynhwysol, yn ddwyieithog, ac yn gydnaws â strategaethau.
- Datblygu a rheoli partneriaethau cryf gydag ysgolion lleol, sefydliadau nad ydynt yn sefydliadau prif ffrwd, Gyrfa Cymru, Syniadau Mawr Cymru a sefydliadau cymunedol i gyflwyno gweithgareddau allgymorth gan gynnwys sesiynau Rhoi Cynnig Arni, sgyrsiau hyrwyddo, sgyrsiau gan fodelau rôl a digwyddiadau cydweithredol sy'n hyrwyddo'r coleg a'i lwybrau i addysg bellach, prentisiaethau a chyflogaeth.
- Cydlynu presenoldeb y coleg mewn digwyddiadau rhanbarthol a chenedlaethol mawr fel Sioe Frenhinol Cymru, Eisteddfod yr Urdd, UCAS a digwyddiadau Ysbrydoli Sgiliau Cymru, gan sicrhau safon uchel o ran cynrychiolaeth ac ymgysylltiad â rhanddeiliaid.
- Datblygu a chyflwyno digwyddiadau hyrwyddo cymunedol ledled Sir Gaerfyrddin a Cheredigion sy'n codi ymwybyddiaeth o gyfleoedd uwchsgilio, ailsgilio a dysgu gydol oes yn y coleg. Gweithio mewn partneriaeth â sefydliadau lleol, grwpiau cymunedol, a rhwydweithiau dysgu oedolion i sicrhau bod digwyddiadau'n gynhwysol, yn hygyrch, ac yn cyd-fynd ag anghenion cyflogadwyedd a sgiliau rhanbarthol.
- Gweithio ar y cyd â'r tîm Byddwch yn Uchelgeisiol i gynllunio a chyflwyno digwyddiadau'n ymwneud â gyrfaoedd, gwirfoddoli, swyddi a phrentisiaethau yn unol â strategaeth gyflogadwyedd Llywodraeth Cymru. Sicrhau bod y digwyddiadau hyn yn hyrwyddo llwybrau dilyniant yn weithredol gan gynnwys dysgu pellach, prentisiaethau, cyflogaeth a hunangyflogaeth.
- Gweithio ar y cyd â'r tîm Byddwch yn Uchelgeisiol i ddatblygu a chydlynu digwyddiadau sy'n ymgysylltu â dysgwyr ac yn galluogi dysgwyr i ystyried hunangyflogaeth ac entrepreneuriaeth fel opsiwn dilys ar gyfer gyrfa.
- Gweithio ar y cyd ag Ysbrydoli Sgiliau Cymru, y Tîm Byddwch yn Uchelgeisiol, a meysydd cwricwlwm perthnasol i gynllunio, cydlynu a chynnal cystadlaethau, dathliadau a phartïon gwylio ar gyfer gwobrau Ysbrydoli Sgiliau Cymru. Cefnogi datblygiad digwyddiadau sy'n codi ymwybyddiaeth o ragoriaeth sgiliau, cyflawniad dysgwyr, a chyfleoedd ar gyfer dilyniant.
- Arwain ar y broses asesu risg ar gyfer pob digwyddiad a gweithgaredd ymgysylltu, gan sicrhau bod mesurau priodol ar waith o ran iechyd a diogelwch, diogelu, hygyrchedd a diogelu data. Cysylltu ag adrannau mewnol a phartneriaid allanol i sicrhau cydymffurfiaeth â pholisïau'r coleg a gofynion cyfreithiol, ac addasu cynlluniau yn ôl yr angen i liniaru'r risgiau a nodwyd.
- Sicrhau bod yr holl weithgarwch yn cydymffurfio â Safonau'r Gymraeg ac yn hyrwyddo Coleg Sir Gâr a Choleg Ceredigion fel coleg dwyieithog.
- Gwerthuso effaith digwyddiadau gan ddefnyddio data presenoldeb, adborth a chanlyniadau dysgwyr. Adrodd wrth y Rheolwr Marchnata a Recriwtio gyda chanlyniadau'r dadansoddiad.
- Cydweithio â'r tîm Marchnata i ddatblygu cynnwys ar gyfer hyrwyddo ac ymgyrchoedd, gan sicrhau cysondeb brand a negeseuon dwyieithog.
- Ymgymryd ag unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill yn ôl cais y Rheolwr Marchnata a Recriwtio neu'r Pennaeth/Prif Weithredwr, yn gymesur â gradd y swydd.
Sgiliau Gwybodaeth ac ArbenigeddHanfodol:
- Gradd neu brofiad diwydiannol cyfwerth sy'n berthnasol i'r swydd
- TGAU Graddau A*-C mewn Mathemateg a Saesneg neu gyfwerth
- Profiad o reoli digwyddiadau
- Profiad o ymgysylltu â rhanddeiliaid
- Dadansoddi ac Adrodd am Ddata
- Adeiladu perthnasoedd gwaith cydweithredol
- Ymagwedd broffesiynol a hyderus
- Cyfathrebwr ardderchog â diplomyddiaeth a thact
- Sgiliau trefniadol a rheoli amser ardderchog
- Sylw i fanylion, rhagweithiol a gallu defnyddio menter
- Sgiliau rhyngbersonol ardderchog
- Sgiliau ysgrifenedig a chyfathrebu llafar ardderchog
- Wedi'i yrru gan ddatrysiadau a syniadau creadigol
- Ymagwedd frwdfrydig a chadarnhaol
- Ymagwedd ragweithiol tuag at waith tîm
- Hyblyg i weithio'r tu allan i oriau contract arferol
- Gallu teithio rhwng campysau
- Cymhwyster IOSH Rheoli'n Ddiogel
- Dealltwriaeth o faterion Addysg Bellach ac Uwch
- Llefaredd Cymraeg (Gwrando/Siarad) - Lefel 3/4
- Llythrennedd Cymraeg (Ysgrifennu/Darllen) - Lefel 3/4
Mae croeso i bobl wneud cais am swyddi yn Gymraeg, ac ni fydd ceisiadau a wneir yn Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a wneir yn Saesneg.
Buddion
- Byddwch yn cael 28 diwrnod o wyliau, ynghyd â gwyliau banc a phum diwrnod cau sef cyfanswm o 41 diwrnod o wyliau y flwyddyn. Hefyd byddwch yn cael 4 diwrnod ychwanegol ar ôl 5 mlynedd o wasanaeth.
- Cynllun pensiwn hynod o hael gyda 20% o gyfraniadau cyflogwr.
- Rhaglen dysgu a datblygu proffesiynol wobrwyedig.
- Cynllun seiclo i'r gwaith
- Maes parcio ceir am ddim ar y safle
- Disgowntiau mewn siopau adwerthu ac ar-lein