MANYLION
  • Lleoliad: Rhondda Cynon Taf,
  • Oriau: Full time
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Not Supplied
  • Cyflog: £41,511
  • Iaith: Cymraeg
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Swyddog Prosiect Cyfalaf Gofal Plant a'r Blynyddoedd Cynnar

Rhondda Cynon Taf

Cyflog: £41,511

Swyddog Prosiect Cyfalaf Gofal Plant a'r Blynyddoedd Cynnar

Disgrifiad Swydd
Mae'r Gyfadran Addysg a Gwasanaethau Cynhwysiant yn bwriadu penodi Swyddog Prosiect Cyfalaf Gofal Plant a'r Blynyddoedd Cynnar sy'n llawn cymhelliant er mwyn goruchwylio rhaglen Grant Cyfalaf Gofal Plant a'r Blynyddoedd Cynnar, wedi'i hariannu gan Lywodraeth Cymru. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn rhan allweddol o Garfan Ysgolion yr 21ain Ganrif sydd wedi'i lleoli yng Nghanolfan Menter y Cymoedd, Abercynon, gan sicrhau bod prosiectau cyfalaf gofal plant a'r blynyddoedd cynnar yn cael eu darparu'n llwyddiannus. Bydd hefyd yn sicrhau bod Cynllun Grant Cyfalaf Bach Gofal Plant a'r Blynyddoedd Cynnar yn cael ei roi ar waith a'i weinyddu'n llwyddiannus. Dyma swydd 37 awr yr wythnos.

Bydd prif ddyletswyddau'r swydd yn cynnwys datblygu a helpu i lunio ceisiadau am gyllid a darparu prosiectau cyfalaf gofal plant a'r blynyddoedd cynnar. Bydd y swydd hefyd yn cynnwys cydlynu cynllun Grant Cyfalaf Bach Gofal Plant a'r Blynyddoedd Cynnar, a fydd yn caniatáu i ddarparwyr gofal plant gyflwyno cais am gyllid i wneud gwelliannau cyfalaf ar raddfa fach i'w lleoliadau.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gallu dangos sgiliau trefnu rhagorol a phrofiad o baratoi ceisiadau am gyllid, yn ogystal â phrofiad o gyflawni prosiectau cyfalaf.Yn ogystal â chynrychioli cleientiaid ar gynlluniau cyfalaf a bod yn rhan o bob agwedd ar achlysuron i randdeiliaid ac ymgynghoriadau cyhoeddus, bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus sgiliau rhyngbersonol rhagorol a hyder wrth ymdrin ag amrywiaeth o randdeiliaid ar draws y sectorau cyhoeddus a phreifat.

Gweler y disgrifiad swydd a manyleb person sydd wedi'u hatodi.Dyma swydd dros dro, tan 31 Mawrth 2026.Fodd bynnag, mae'r Rhaglen Gyfalaf Gofal Plant a'r Blynyddoedd Cynnar yn rhaglen tair blynedd o hyd tan 2028, felly mae ariannu'r swydd yma wedi 2025 yn bosibl.

Am sgwrs anffurfiol neu ragor o wybodaeth, cysylltwch â Denise Humphries, Uwch Reolwr Prosiect Ysgolion yr 21ain Ganrif, drwy e-bostio: denise.humphries@rctcbc.gov.uk neu ffonio: 07825 675667 neu Lisa Howell, Pennaeth Trefniadaeth Ysgolion a Chynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg, drwy e-bostio: lisa.j.howell@rctcbc.gov.uk neu ffonio: 07817 428635.

Mae diogelu plant ac oedolion agored i niwed yn gyfrifoldeb craidd pob un o'r gweithwyr sy'n cael eu penodi gan y cyngor.

Yn ogystal â'r cyfrifoldeb yma mewn perthynas â diogelu, bydd y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd hefyd yn ymchwilio'n fanwl i gefndir yr ymgeisydd llwyddiannus.

Mae'r Cyngor yn adnabod gwerth amrywiaeth yn y gweithlu.

Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau nad yw unrhyw ymgeisydd yn destun gwahaniaethu yn ystod y brosess denu a dethol ar sail ei oedran, rhyw, hil, anabledd, cyfeiriadaeth rywiol, hunaniaeth rhywedd, gan gynnwys y rheiny a chanddyn nhw hunaniaeth anneuaidd, crefydd neu gred neu feichiogrwydd neu famolaeth. Mae gyda ni nifer o rwydweithiau staff gan gynnwyd Rhwydwaith y Cynghreiriaid, Rhwydwaith Anabledd a Chynhalwyr, a 'Perthyn', ein rhwydwaith LHDTQ+.

Fydd ceisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Gymraeg ddim yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Saesneg.

Yn rhan o'i amcanion tymor hir mewn perthynas â'r Gymraeg a'i Strategaeth Cynllunio'r Gweithlu, mae'r Cyngor yn ymrwymo i gynllun sicrhau cyfweliad ar gyfer ymgeiswyr sydd wedi cyrraedd sgiliau Cymraeg Lefel 3 neu'n uwch na hynny. Os byddwch chi'n bodloni'r meini prawf hanfodol fel sydd wedi'u nodi yn y fanyleb person a bod eich sgiliau Cymraeg gyfwerth â Lefel 3 neu'n uwch, byddwch chi'n cael gwahoddiad i gyfweliad os ydych chi'n dymuno bod yn y cynllun.

Oherwydd y nifer sylweddol o Ffurflenni Cais sy'n cael eu cyflwyno ar hyn o bryd, does dim modd cydnabod ceisiadau unigol. Felly, os na fyddwch chi'n clywed oddi wrthon ni cyn pen pedair wythnos ar ôl y dyddiad cau, cymerwch fod eich cais wedi bod yn aflwyddiannus y tro yma. Diolch am eich diddordeb ac am gyflwyno cais am swydd gyda'r Cyngor.

Er mwyn gwireddu addewid gwirfoddol y Cyngor i gefnogi'r Lluoedd Arfog, rhaid i'r sawl sy'n penodi sicrhau bod ymgeiswyr sydd wedi datgan eu bod nhw'n aelodau o'r Lluoedd Arfog, gan gynnwys y rheiny sydd wedi gadael y lluoedd, cyn-filwyr a milwyr wrth gefn, sy'n cwrdd â'r meini prawf hanfodol yn y fanyleb person, yn cael cynnig cyfweliad.