MANYLION
- Oriau: Part time
- Math o gyflog: Fesul awr
- Cyflog: Hourly rate: £13.05 | Grade 3
- Iaith: Cymraeg
- Dyddiad Cau: 17 Gorffennaf, 2025 12:00 y.b
This job application date has now expired.
Torfaen Local Authority
Cyflog: Hourly rate: £13.05 | Grade 3
SWYDD FEWNOL. Mae'r swydd hon ar gael i weithwyr Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen a gweithwyr asiantaeth sy'n gweithio gyda'r Cyngor ar hyn o bryd, yn unig.Mae'n hanfodol eich bod yn dangos sut rydych yn bodloni'r meini prawf 'hanfodol' a restrir yn y Fanyleb Person atodol, er mwyn sicrhau cyfweliad: Sut i wneud cais - canllaw i ymgeiswyr | Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen
Mae Corff Llywodraethu Ysgol Gynradd Wirfoddol a Reolir Treftadaeth Blaenafon yn dymuno penodi gofalydd cymorth i gyflenwi ar gyfer y Rheolwr Safle yn ystod absenoldebau. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gyfrifol am agor a chau'r safle, gan sicrhau ei fod yn ddiogel i bob defnyddiwr, ac yn ymgymryd â dyletswyddau ailgylchu a rheoli gwastraff.
Am drafodaeth anffurfiol am y swydd wag hon, mae croeso i chi gysylltu â Leanne Mason ar 01495 766500.
Mae Sgiliau Iaith Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon ond nid yn hanfodol.
Mae'r swydd hon wedi'i heithrio rhag Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974. Bydd proses sgrinio gynhwysfawr yn cael ei chynnal ar gyfer pob ymgeisydd a fydd yn cynnwys gwiriad manylach gyda'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen yn ymdrechu i fod yn gyflogwr teg, cefnogol ac effeithiol. Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo llesiant plant, pobl ifanc ac oedolion sy'n agored i niwed. Mae'r Cyngor yn disgwyl i'w gyflogeion, boed yn gweithio am dâl neu'n ddi-dâl, i rannu'r ymrwymiad hwn.
Mae croeso i chi gyflwyno eich cais yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Bydd pob cais yn cael ei drin yn gyfartal.