MANYLION
  • Lleoliad: Nantgarw Campus,
  • Oriau: Full time
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Annual
  • Cyflog: £26,709 - £28,695
  • Iaith: Cymraeg
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Swyddog Ystadau a Chyfleusterau

Coleg Y Cymoedd

Cyflog: £26,709 - £28,695

Swyddog Ystadau a Chyfleusterau
Swydd ddisgrifiad
Am y rôl:

Fel Swyddog Ystadau a Chyfleusterau, bydd y rôl yn cynnwys cadw allweddi, a fydd yn rhan bwysig o'r rôl, er mwyn sicrhau diogelwch adeiladau ac offer y Coleg. Bydd angen bod ar alw i ymateb i larwm tresmaswyr a larwm tân, y tu allan i oriau gwaith. Bydd angen i'r Swyddog Ystadau a Chyfleusterau gysylltu â chontractwyr i sicrhau ein bod yn bodloni gofynion deddfwriaethol ac adrodd unrhyw broblemau i'w rheolwr llinell os na allant eu datrys.

GwybodaethBellach:

Maeangeni staff a gyflogir yng Ngholeg y Cymoedd fod yn gyfrifol am ddiogelu ac am hyrwyddo lles y dysgwr.

Ymgymrydagunrhyw ddyletswyddaurhesymol eraill y mae'r Coleg yn gofyn amdanyn nhw, naill ai yn eich prif weithle neu yn adeiladau eraill y Coleg, sy'n gymesur â gradd a chyfrifoldebau'r rôl.

Cydnabyddir y gall dyletswyddau a chyfrifoldebau pob swydd newid o bryd i’w gilydd a gellir diwygio disgrifiadau swydd mewn ymgynghoriad â deiliad y swydd i adlewyrchu’r newidiadau hynny sy’n gymesur â’r rôl.



Canllawiau Cais:

Yn unol â Pholisi Recriwtio’r Coleg, byddwn yn defnyddio’r Fanyleb Person i greu rhestr fer o blith yr ymgeiswyr. Dylech gynnig tystiolaeth o sut rydych yn bodloni’r holl Feini Prawf Hanfodol a amlinellir yn y Fanyleb Person, a’r Meini Prawf Dymunol os yw hynny’n berthnasol. Dylech gynnig tystiolaeth ysgrifenedig ar sut rydych yn bodloni pob un o’r Meini Prawf Hanfodol (a Dymunol os yw hynny’n berthnasol). Yn yr adran ‘Gwybodaeth Bellach’, dylech nodi tystiolaeth am sut rydych yn bodloni’r meini prawf yn yr un drefn ag y maent yn ymddangos yn y Fanyleb Person.

Noder, mae Coleg y Cymoedd yn arddel yr hawl i gau’r swydd hon yn gynnar os bydd digon o geisiadau yn dod i law



Cyswllt:

Am unrhyw gwestiynau ynglŷn â'r broses ymgeisio, cysylltwch â people@cymoedd.ac. uk