MANYLION
  • Lleoliad: Rhos-on-Sea,
  • Oriau: Part time
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Not Supplied
  • Cyflog: Cyflog Gwirioneddol - £22,699 - £35,088 y flwyddyn, yn ddibynnol ar gymwysterau a phrofiad
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 01 Awst, 2025 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Darlithydd Gwaith Brics 0.7

Grwp Llandrillo Menai

Cyflog: Cyflog Gwirioneddol - £22,699 - £35,088 y flwyddyn, yn ddibynnol ar gymwysterau a phrofiad

Mae Adran Adeiladwaith a Rhos yn adran flaengar sy'n cynnig cyrsiau mewn ystod o ddisgyblaethau. Mae addysgu a dysgu yn digwydd gyda mynediad at offer safonol y diwydiant ac mewn cyfleusterau modern.

Rôl darlithydd mewn Gwaith Brics yw trefnu a chyflwyno sesiynau theori yn yr ystafell ddosbarth mewn gosod brics i lefel 3 a phynciau ychwanegol cysylltiedig. Mae'r rôl hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i'r ymgeisydd llwyddiannus addysgu ymarferol mewn lleoliad gweithdy o bryd i'w gilydd a chynnal asesiad o waith dysgwyr, gallai hyn olygu mynd allan i'r gweithle i gynnal asesiad. Bydd darlithwyr hefyd yn cysylltu â'r Sefydliad Dyfarnu (City & Guilds) ac yn sicrhau bod ansawdd gwaith dysgwyr yn cael ei gynnal drwy weithgareddau sicrhau ansawdd mewnol.

Mae'r rôl hefyd yn cynnwys arweinyddiaeth o fewn y tîm, fel bod aseswyr a hyfforddwyr yn gweithio ar yr un pynciau yn y gweithdy ag sy'n cael eu haddysgu mewn sesiynau theori.

Yn ogystal â hyn, bydd angen cynnal sesiynau tiwtorial rheolaidd i sicrhau bod pob dysgwr ar y trywydd iawn ac i gyfoethogi eu hamser yn y coleg. Bydd darparu cyfleoedd i ddysgwyr gymryd rhan yng nghystadlaethau Cystadleuaeth Sgiliau Cymru, World Skills, ac Urdd y Gosodwyr Brics hefyd yn rhan o'r rôl.

Disgwyliadau allweddol y rôl:

1. Addysgu i safon uchel er mwyn creu cyfleoedd dysgu effeithiol ac er mwyn galluogi'r holl ddysgwyr i gyflawni hyd eithaf eu gallu.

2. Darparu profiadau allgyrsiol rhagorol i'n dysgwyr.

3. Cynnal safonau uchel y ddarpariaeth â'r gefnogaeth a roddir i'r dysgwyr.

4. Sichrau bod polisiau a gweithdrefnau'r Grŵp yn cael ei dilyn.

5. Cefnogi dysgwyr i lwyddo er mwyn cyflawni eu targedau neu uwch gan herio ac ymestyn ein dysgwyr.

Manylion Swydd
Cyfeirnod y Swydd
CL/195/25

Cyflog
Cyflog Gwirioneddol - £22,699 - £35,088 y flwyddyn, yn ddibynnol ar gymwysterau a phrofiad

Lleoliad Gwaith
  • Llandrillo-yn-Rhos

Hawl gwyliau
• 46 diwrnod o wyliau yn flynyddol

• Pob gwyliau cyhoeddus a arsylwir fel arfer, yn cael eu pennu'n flynyddol.

• Hyd at 3.5 diwrnod o ddiwrnodau cau effeithlonrwydd y flwyddyn, a bennir yn flynyddol.

• Bydd contractau rhan amser yn derbyn hawl pro rata i'r uchod.

Patrwm gweithio
26 awr yr wythnos

587 awr o amser addysgu blynyddol - 17 i 18 awr yr wythnos.

Hyd at 3.5 awr yr wythnos o weithio oddi ar safle gyda chytundeb y rheolwr.

Hawliau Pensiwn
Cynllun Pensiwn Athrawon

Math o gytundeb
Rhan Amser Parhaol

Dyddiad cau
01 Awst 2025
12:00 YH (Ganol dydd)