MANYLION
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Llangefni,
- Oriau: Part time
- Cytundeb: gweithio hyblyg
- Math o gyflog: Fesul awr
- Cyflog: £20.58 - £31.82 yr awr, yn cynnwys tâl gwyliau, yn ddibynnol ar gymwysterau a phrofiad
- Iaith: Cymraeg
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Darlithydd mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol / Astudiaethau Plentyndod / Datblygiad ac Addysg Plant
Grwp Llandrillo Menai
Cyflog: £20.58 - £31.82 yr awr, yn cynnwys tâl gwyliau, yn ddibynnol ar gymwysterau a phrofiad
Rydym yn chwilio am ddarlithydd(wyr) sesiynol mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol / Astudiaethau Plentyndod / Datblygiad ac Addysg Plant. Mae'r addysgu sydd ar gael yn cynnwys ystod o fodiwlau o'r rhaglen FdA/BA Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Lefelau 4 - 6), rhaglen FdA/BA Astudiaethau Plentyndod a darpariaeth Addysg Bellach yn ystod y dydd mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol / Astudiaethau Plentyndod. Mae'r addysgu Addysg Uwch yn digwydd ar ddydd Mawrth a/neu ar ddydd Iau rhwng 9am a 9pm. Trefnir y ddarpariaeth Addysg Bellach yn ystod yr wythnos fel arfer rhwng 09:00 a 16:30. Mae'r addysgu sydd ar gael yn amrywiol iawn a byddai eich amserlen a'ch oriau yn amodol ar gyfuniad o'ch argaeledd a'r modiwl(au) sy'n cael eu haddysgu.Croesewir ceisiadau yn arbennig gan unigolion sydd â phrofiad diweddar o weithio ym maes nyrsio / gofal iechyd / gwaith cymdeithasol / gofal cymdeithasol / gofal a datblygiad plant - rolau lle mae gennych ddealltwriaeth gadarn o ddeddfwriaeth, polisi a materion cyfoes cyfredol yn y sector Datblygiad ac Addysg Plant neu'r sector Gofal Iechyd.
Mae Modiwlau Addysg Uwch ac addysgu Addysg Bellach yn cynnwys pynciau fel Iechyd y Cyhoedd a Hybu Iechyd, Anghydraddoldebau Byd-eang, Amrywiaeth a Materion Cymdeithasol, Egwyddorion Moesegol mewn Iechyd, Llesiant a Gofal Cymdeithasol, Materion Cyfoes ym maes Anghenion Dysgu Ychwanegol, Arweinyddiaeth a Rheolaeth mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Hawliau Unigolion ac Ymarfer Proffesiynol, Hunaniaeth Broffesiynol a Gweithio Amlbroffesiynol, Safbwyntiau Addysg Gyfoes, Cefnogi Plant ag Anghenion Dysgu Ychwanegol i enwi ond rhai. Nodwch yn eich ffurflen gais unrhyw brofiad neu arbenigedd perthnasol i gefnogi eich cais.
Bydd y swydd yn rhoi cyfle i chi ddatblygu fel darlithydd o dan arweiniad a chyda chefnogaeth yr Arweinwyr Rhaglen, y Cydlynwyr a'r Mentoriaid sy'n arwain y ddarpariaeth yn yr adran. Bydd eich dyletswyddau'n cynnwys paratoi a chyflwyno darlithoedd diddorol i'n dysgwyr ynghyd â'r gwaith gweinyddu, asesu a sicrhau ansawdd sy'n gysylltiedig â hynny. Anogwn y defnydd o ddulliau dysgu ac addysgu ymarferol a gweithredol er mwyn gwneud y dysgu'n ddiddorol. Cewch gyfle i gymhwyso eich gwybodaeth ac enghreifftiau o'ch profiadau i'r dysgu ac addysgu. Bydd hyn yn sicrhau bod dysgwyr yn ennill dealltwriaeth a gwerthfawrogiad trylwyr o'r dyletswyddau, yr heriau a'r buddion sy'n gysylltiedig â dilyn gyrfa ym maes Iechyd a Gofal Cymdeithasol neu yn y sector Plentyndod.
Bydd gan ein hymgeisydd delfrydol brofiad blaenorol o addysgu ac o weithio yn y sector(au) perthnasol, fodd bynnag rydym hefyd yn croesawu ac yn cefnogi arbenigwyr yn y sector sy'n awyddus i fentro i'r maes addysgu.
Manylion Swydd
Cyfeirnod y Swydd
CM/193/25
Cyflog
£20.58 - £31.82 yr awr, yn cynnwys tâl gwyliau, yn ddibynnol ar gymwysterau a phrofiad
Lleoliad Gwaith
- Llangefni
Hawl gwyliau
Bydd hawl i wyliau pro rata gyda thâl ym mhob blwyddyn academaidd (sef y cyfnod rhwng 1 Medi a 31 Awst). Mae hyn yn cynnwys hawl pro rata i Wyliau Banc a Gwyliau Cyhoeddus traddodiadol Cymru (8 diwrnod) a hawl pro rata i 5 diwrnod effeithlonrwydd (noder y gall hyn newid yn bob blwyddyn). Caiff gwyliau blynyddol ei gyfrifo ar sail cyfran pro rata o'r hawl llawn amser o 46 awr sy'n gynwysedig yn y gyfradd a delir fesul awr.
Patrwm gweithio
Hyd at 250 awr yn ystod Blwyddyn Academaidd 2025/26. Patrwm gwaith i'w gytuno yn dibynnu ar argaeledd. Mae'r pwnc a'r lefel cyflwyno yn seiliedig ar gymwysterau a phrofiad
Bydd canran ychwanegol o rhwng 10% - 63.33% (yn ddibynnol ar feini prawf y pwnc) yn cael ei ychwanegu i'r oriau a weithir i adlewyrchu'r gwaith paratoi a marcio.
Hyd at 35 wythnos y flwyddyn yn ystod tymor y Coleg
Hawliau Pensiwn
Cynllun Pensiwn Athrawon
Math o gytundeb
Rhan Amser a Delir wrth yr Awr
Dyddiad cau
31 Gorff 2025
12:00 YH (Ganol dydd)