MANYLION
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Oriau: Part time
- Cytundeb: Dros dro
- Math o gyflog: Annual
- Cyflog: Graddfa 4 Pwynt 5 i Bwynt 6 £24,790 i £25,183 y flwyddyn ar gyfartaledd £12.84 i £13.05 yr awr
- Iaith: Cymraeg
- Dyddiad Cau: 13 Gorffennaf, 2025 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cyflog: Graddfa 4 Pwynt 5 i Bwynt 6 £24,790 i £25,183 y flwyddyn ar gyfartaledd £12.84 i £13.05 yr awr
Cynorthwyydd Addysgu (Generig Lefel 2)Swydd-ddisgrifiad
Cynorthwy-ydd Addysgu Cyfnod Allweddol 2
Nifer ar y gofrestr: 132
Cytundeb: Cyfnod penodol o 1af Medi 2025 tan 31ain Awst 2026. Gydag estyniad posibl.
Patrwm gwaith: Dydd Llun - Dydd Mercher 9yb - 3yp
Mae Ysgol Gynradd Tal-y-bont Trewern yn ysgol boblogaidd gydag ethos gofalgar ac ysbryd cymunedol. Rydym yn chwilio am Gynorthwyydd Addysgu (Gradd 4) i ymuno â'n tîm ymroddedig.
Bydd ein cynorthwyydd addysgu newydd yn:
• meddu ar ddealltwriaeth dda o'r Cwricwlwm i Gymru
• meddu ar sgiliau Llythrennedd, Rhifedd a Digidol da i gefnogi dysgwyr hyd at
Flwyddyn 6
• hyblyg i weithio o fewn ac ar draws dosbarthiadau gydag unigolion a grwpiau
• cefnogi addysgu a dysgu o ansawdd uchel ac yn cynnig adborth rheolaidd
• hyrwyddo a chefnogi strategaethau a mentrau llesiant
• cyfathrebu'n effeithiol gydag aelodau o gymuned ein hysgol ac yn chwaraewr tîm
• meddu ar ddisgwyliadau uchel sy'n cefnogi cynnydd da a safonau
• cydweithio â chydweithwyr o fewn ein hysgol a Chlwstwr Y Trallwng
• hyrwyddo Cymru, ei threftadaeth a'i diwylliant a'i hiaith.
Diogelu: Mae'n ofynnol cael Gwiriad Manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd ar gyfer y swydd hon.
Croesewir trafodaethau neu ymweliadau anffurfiol drwy apwyntiad ymlaen llaw gyda'r Pennaeth, Ms Anna Griggs Ffôn: 01938 570283 office@trewern.powys.sch.uk
Gwnewch gais arlein ar www.powys.gov.uk erbyn 9yh dydd Sul 13eg Gorffennaf a sicrhewch fod llythyr cefnogi gyda'ch cais.
Llunio rhestr fer: Dydd Llun 14eg Gorffennaf Cyfweliadau: Dydd Iau 17eg Gorffennaf