MANYLION
  • Lleoliad: Ysgol Tryfan, Bangor,
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Not Supplied
  • Cyflog: £22,536 y flwyddyn
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 14 Gorffennaf, 2025 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Ysgrifennydd Ysgol Tryfan

Cyngor Gwynedd

Cyflog: £22,536 y flwyddyn

Manylion
Hysbyseb Swydd

ADRAN ADDYSG

YSGOLION UWCHRADD

YSGOL TRYFAN, BANGOR

(Cyfun 11 - 18; 521 o ddisgyblion)

Yn eisiau: ar gyfer 1 o Fedi, 2025

YSGRIFENNYDD/ES

Swydd Barhaol

Mae Llywodraethwyr yr ysgol yn awyddus i apwyntio person brwdfrydig ac ymroddedig ar gyfer y swydd uchod. Prif gyfrifoldeb y swydd fydd i roi cefnogaeth weinyddol ym mhrif swyddfa'r ysgol.

Mae'r rôl yn hanfodol er mwyn sicrhau llwyddiant yr ysgol a bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn fedrus, yn frwdfrydig, yn ymroddgar ac yn awyddus i lwyddo.

Oriau gwaith: 37 awr yr wythnos (i'w drafod)

(Bydd yn ofynnol i chi weithio 40 wythnos waith mewn blwyddyn ysgol sef 38 wythnos tymor ysgol, 5 diwrnod mewn hyfforddiant yn ogystal â bod ar gael i weithio cyfwerth a'ch oriau wythnosol yn ychwanegol tu hwnt i'ch oriau arferol.)

Graddfa Gyflog: Telir cyflog yn unol ag Amodau Gwaith ar gyfer Gweithwyr Llywodraeth Leol, Graddfa GS3 pwyntiau 5-6, (£21,890 - £22,536 y flwyddyn) yn ôl profiad a chymhwyster.

Mae'r gallu i gyfathrebu drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon. Mae'r ysgol yn gweithredu'n unol a'i Bolisi Iaith. Bydd angen i'r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy'n cael ei nodi yn y Manylion Person.

Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda'r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog. (Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i'r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a'r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas).

Gwahoddir unrhyw un sydd â diddordeb a/neu angen mwy o wybodaeth i drafod yn anffurfiol â'r Pennaeth Dr Geraint Owen Jones (Rhif ffôn 01248 352633) neu trwy e-bost: pennaeth@tryfan.ysgoliongwynedd.cymru

Gellir cyflwyno cais am y swydd yma ar-lein ar wefan Cyngor Gwynedd neu mae pecyn cais i'w cael gan Miss Bethan Thomas, Rheolwr Busnes a Chyllid, Ysgol Tryfan, Lôn Powys, Bangor, Gwynedd, LL57 2TU

(Rhif Ffôn: 01248 352633, e-bost: sg@tryfan.ysgoliongwynedd.cymru )

Os dymunir dychwelyd y cais drwy'r post, dylid ei ddychwelyd i'r cyfeiriad uchod erbyn y dyddiad cau.

DYDDIAD CAU: 10.00 y bore, DYDD LLUN, GORFFENNAF 14eg, 2025

Rhagwelir cynnal y cyfweliadau ar ddydd Mercher 16/7/25

Bydd y Cyngor yn gofyn am gopi o'r dadleniad gan Wasanaeth Datgelu a Gwahardd gan yr ymgeisydd llwyddiannus cyn y gallent gychwyn yn y swydd yma.

Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda'r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog. (Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i'r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a'r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas).

Mae'r awdurdod hwn wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc ac mae'n disgwyl y bydd pob un o'i staff a'i wirfoddolwr yn rhannu'r ymrwymiad hwn.

Mae'r ymrwymiad hwn.

Manylion Person

.

Swydd Ddisgrifiad

Rheolwr Llinell: Rheolwr Busnes A Chyllid a'r Pennaeth

Oriau Gweithio: 37 awr yr wythnos (yn ystod tymhorau ysgol + 5 diwrnod HMS + 5 diwrnod gwyliau ysgol)

(Union oriau i'w cadarnhau)

Graddfa Gyflog: GS3, pwynt 5 - 6 (£22,536 y flwyddyn)

Pwrpas y Swydd

Pwrpas y swydd hon yn bennaf yw cwblhau nifer o dasgau gweinyddol yn effeithiol a chynnig gwasanaeth gweinyddol i staff yr Ysgol. Mae'r dyletswyddau yn amrywiol a hefyd yn amrywio o ddiwrnod i ddiwrnod.
  • TASGAU DESG FLAEN YR YSGOL
  • Bod yn gyfrifol am dderbynfa'r ysgol gan groesawu ymwelwyr, arwyddo i mewn a sicrhau bod pob ymwelydd yn derbyn 'bathodyn ymwelydd'.
  • Cynnal trefn a thaclusrwydd yn y swyddfa ac yn ardal tu-blaen y dderbynfa/'foyer'
  • Derbyn galwadau ffôn, e-bost a negeseuon drwy blatfformau eraill gan ymateb yn briodol iddynt
  • Agor a dosrannu'r post boreol a threfniadau postio dyddiol gan gadw cofnodion manwl
  • Ymdrin ag ymholiadau disgyblion/rhieni/staff/ymwelwyr/asiantaethau allanol
  • CYLLIDOL (MEWN CYDWEITHREDIAD GYDA'R RHEOLWR BUSNES A CHYLLID)
  • Derbyn a gweinyddu incwm am werthiannau, teithiau, a.y.b. drwy 'School Gateway' (yn bennaf) gan rannu adroddiadau â threfnydd y weithgaredd.
  • Archebu deunyddiau a defnyddiau i sicrhau rhediad esmwyth y swyddfa.
  • Gweinyddu'r drefn cynllun gwersi offerynnol ar gais y rheolwr llinell.
  • Gweinyddu cyfrifon banc amrywiol (e.e. y Gronfa Ysgol)
  • Codi archebion ar y system FMS ar gyfer adrannau
  • Cynorthwyo gyda chodi anfonebau fel yr angen
  • Archebu, cadw stoc a gwerthu gwisg ysgol y 6ed dosbarth
  • Cadw cofnod/dyddiadur a derbyn incwm am osodiadau/defnydd ystafelloedd gan y gymuned
  • Casglu dyfynbrisau a bwcio bysus/tacsi
  • Gweinyddu trefniadau cludiant cyrsiau disgyblion 14-16 ac ôl-16 a chydweithio ar ddechrau'r flwyddyn academaidd i boblogi'r wefan drafnidiaeth.
  • Gwirio'r rhestr cinio am ddim yn wythnosol a chroes-gyfeirio gyda'r wybodaeth yn SIMS a'i diweddaru. Cydweithio a rhannu gwybodaeth gyda'r gegin.
  • SIMS (Bydd hyfforddiant ar gael pe bai angen) Ymdrin â nifer o agweddau o system gyfrifiadurol SIMS ond yn benodol:
  • Sicrhau fod manylion disgyblion yn gywir drwy fewnbynnu a chynnal yr wybodaeth yn gyfredol a chywir yn system SIMS (yn cynnwys gwybodaeth meddygol gyfredol) a chynnal system ffeilio effeithiol o fewn SIMS a 'Provision Mapper'
  • Sicrhau bo manylion cyswllt rhieni yn gyfredol yn School Comms gan weithredu ar faterion e.e. ebost rhiant yn anghywir
  • Gweinyddu ffeiliau trosglwyddo disgyblion 'CTFs' ac adroddiadau o ysgolion eraill (derbyn ac anfon)
  • Cychwyn y flwyddyn addysgol newydd yn SIMS a phoblogi'r calendr ar y platfform.
  • Cynorthwyo gyda gweinyddu'r system gofrestru a delio gydag absenoldebau lle nad oes rheswm yn ogystal â ffurflenni gwyliau disgyblion.
  • Cynorthwyo'r Swyddog Data i boblogi dosbarthiadau ar gychwyn blwyddyn academaidd newydd ac i weithredu unrhyw addasiadau yn ystod y flwyddyn
  • Cofnodi disgyblion sydd yn cyrraedd yn hwyr neu gadael yn fuan
  • Argraffu ystod o adroddiadau yn ôl yr angen
  • Argraffu cofrestr y disgyblion/ymwelwyr pe cyfyd tân (yn cynnwys ymarferion)
  • CYSWLLT Â'R RHIENI
  • Cyfathrebu gyda rhieni yn ôl yr angen drwy ffonio, ebostio a llythyru yn cynnwys salwch plentyn.
  • Mewn cydweithrediad â'r UDA/Gofalwr sicrhau trefniadau Nosweithiau Rhieni
  • TASGAU ERAILL
  • Gweithredu'r gloch i hysbysu'r ysgol o gloi mewn argyfwng ar gais yr UDA a chloi drws y Brif Fynedfa gan roi arwydd ar y drws i hysbysu ymwelwyr o'r sefyllfa.
  • Nodi unrhyw bryderon am ddisgybl ar 'My Concern'
  • Cysylltu â'r awdurdod ynghylch materion gwaharddiadau a iechyd a diogelwch

Hefyd, bydd yr Ysgrifenydd/es, ar y cyd ag aelodau eraill o'r Tîm Gweinyddol, yn:
  • darparu gwasanaeth ysgrifenyddol i'r Pennaeth a'r Tîm Arwain, gan gynnwys teipio, ffeilio, cadw dyddiadur a.y.b.
  • ymgymryd â thasgau gweinyddol cyffredinol eraill
  • dirprwyo yn absenoldeb y 'Rheolwr Busnes a Chyllid', dan gyfarwyddyd y Pennaeth
  • cyd-weithio gyda'r swyddog arholiadau i weinyddu arholiadau
  • ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd rhesymol arall sy'n gydnaws â natur gyffredinol y swydd ar gais y Pennaeth

Mae'r uchod yn disgrifio'r ffordd y disgwylir i'r deilydd weithredu a chwblhau'r dyletswyddau a nodir. Gellir amrywio'r dyletswyddau i gyfarfod â newidiadau mewn gofynion ysgol yn ôl disgresiwn rhesymol y Pennaeth.

  • Ceisio ar lein - Sut?
  • Rhestr Swyddi