MANYLION
  • Lleoliad: Campws Pen-y-bont,
  • Oriau: Part time
  • Cytundeb: gweithio hyblyg
  • Math o gyflog: Annual
  • Cyflog: Digymhwyster: £25,371 - £29,942 y flwyddyn (pro rata)Cymwysedig: £32,304 - £49,934 y flwyddyn (pro rata)
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 17 Gorffennaf, 2025 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Darlithydd Celfyddydau Perfformio (Theatr Gerdd/Dawns) 0.4FTE

Coleg Penybont

Cyflog: Digymhwyster: £25,371 - £29,942 y flwyddyn (pro rata)Cymwysedig: £32,304 - £49,934 y flwyddyn (pro rata)

Darlithydd Celfyddydau Perfformio (Theatr Gerdd/Dawns)

0.4 FTE (14.8 awr yr wythnos) am gyfnod parhaol

(Mae oriau achlysurol darlithydd a delir fesul awr ar gael hefyd - cynigir oriau achlysurol ar sail ad hoc i gyd-fynd ag anghenion y gwasanaeth ac felly gallant amrywio.)

Digymhwyster: £25,371 - £29,942 y flwyddyn (pro rata)

Cymwysedig: £32,304 - £49,934 y flwyddyn (pro rata)

Rydym yn chwilio am Ddarlithydd brwdfrydig a phrofiadol yn y Celfyddydau Perfformio (Theatr Gerdd / Dawns) i ymuno â'n hadran fywiog. Bydd yr ymgeisydd delfrydol yn arbenigo mewn technegau jas, tapddawnsio a bale ac yn dangos aml ddoniau ar draws amrywiaeth o arddulliau. Byddwch yn dod â phrofiad proffesiynol mewn coreograffi, perfformio ac addysgu. Mae angen cymhwyster addysgu cydnabyddedig (e.e. TAR) neu barodrwydd i gyflawni un, ynghyd â dealltwriaeth gref o safonau'r diwydiant, paratoi ar gyfer clyweliadau a thechnegau perfformio.

Byddwch yn cyflwyno gwersi ymarferol a damcaniaethol diddorol ar draws ystod o alluoedd, gan gefnogi datblygiad myfyrwyr mewn dawns, actio trwy gân, gwaith ensemble a phrosiectau perfformio. Bydd eich gallu i ysgogi a mentora dysgwyr, gweithio ar y cyd a meithrin amgylchedd cynhwysol yn allweddol i lwyddiant myfyrwyr.

Yn ogystal ag addysgu, byddwch yn cyfrannu at ddatblygu'r cwricwlwm, asesiadau a gweithgareddau allgyrsiol gan gynnwys cynyrchiadau, ymarferion ac arddangosfeydd, gan gefnogi enw da cryf ein hadran am baratoi myfyrwyr ar gyfer y diwydiant celfyddydau perfformio.

I gael rhagor o wybodaeth, gwelwch becyn gwybodaeth y swydd .

Mae Coleg Penybont yn cydnabod ei gyfrifoldeb dros sicrhau diogelwch a lles pob myfyriwr. Rydym yn defnyddio proses drylwyr i wirio addasrwydd staff a gwirfoddolwyr i weithio â phlant ac oedolion sy'n agored i niwed. Mae'r swydd uchod yn amodol ar Wiriad Manylach gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) ar gyfer y gweithlu plant ac oedolion a bydd rhaid i chi gofrestru fel Athro Addysg Bellach gyda Chyngor y Gweithlu Addysg.

Mae Coleg Penybont yn deall gwerth darparu gwasanaethau yn Gymraeg a'r angen i dyfu ei weithlu dwyieithog. Rydym felly'n annog ceisiadau gan ymgeiswyr sydd â sgiliau Cymraeg da. Nodwch yn eich datganiad personol a fyddai'n well gennych i'ch asesiad/cyfweliad gael ei gynnal yn Gymraeg.

Rydym wrthi'n ceisio gwella cynrychiolaeth o bob rhan o'r gymuned a hyrwyddo cyfleoedd cyfartal. Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb, gan gynnwys pobl o wahanol gefndiroedd a chymunedau, ac o wahanol oedrannau.

Rydym yn falch o fod yn Arweinydd Hyderus o ran Anabledd ac rydym yn gwarantu cyfweld ag unrhyw un ag anabledd cyn belled â bod eu cais yn bodloni meini prawf hanfodol y swydd, a byddwn yn eu hystyried ar eu galluoedd. Gallwn hefyd gynnig addasiadau rhesymol trwy gydol y broses recriwtio.

Bydd gofyn i'r ymgeisydd llwyddiannus ddarparu tystiolaeth o'i hunaniaeth a'i gymhwystra i weithio yn y DU.

Nid yw'r Coleg yn cymryd rhan yng Nghynllun Noddi Fisa'r DU, felly bydd rhaid i ymgeiswyr ddarparu tystiolaeth o'u hawl i weithio yn y DU os cynigir rôl iddynt gyda ni.

Sylwch, efallai y bydd gofyn am gyfweliad neu asesiad ail gam.