MANYLION
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Llangefni,
- Math o gyflog: Annual
- Cyflog: £28,729 - £31,176 y flwyddyn pro rata, yn ddibynnol ar gymwysterau a phrofiad
- Iaith: Cymraeg
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Swyddog Lleoliad Gwaith - Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Llawn Amser, Tymor yn Unig
Grwp Llandrillo Menai
Cyflog: £28,729 - £31,176 y flwyddyn pro rata, yn ddibynnol ar gymwysterau a phrofiad
Pwrpas y SwyddPwrpas y swydd yw cefnogi dysgwyr addysg bellach llawn amser i ddod o hyd i leoliad gwaith, i baratoi i fynd ar leoliad gwaith, ac i ymgymryd â'u gwaith ar leoliad ym maes Iechyd a Gofal Cymdeithasol, sy'n ofyniad ar gyfer eu cymhwyster. Byddech hefyd yn gyfrifol am gynnal prosiectau adrannol allweddol gyda'n partneriaid agos, fel ein prosiect Camau i'r Maes Gofal gyda thîm Datblygu Gweithlu Iechyd a Gofal Cymdeithasol Cyngor Sir Ynys Môn. Byddech yn cadw cofnodion cywir am y lleoliadau rydym ni'n gweithio gyda nhw, yn sicrhau bod lleoliadau newydd yn cael eu gwirio a bod dysgwyr yn cael eu cefnogi gyda'r broses o gael gwiriad DBS cyn mynd ar leoliad.
Bydd y rhan fwyaf o'r gwaith yn cael ei wneud ar y safle yn y swyddfa ar gampws Llangefni. Mae hyn yn sicrhau bod y dysgwyr a'r staff addysgu yn gallu cael gafael ar y swyddog lleoliad gwaith a bod systemau'r coleg yn gallu cael eu defnyddio i gadw cofnodion cywir a chyfredol o weithgaredd y dysgwyr yn eu lleoliadau. O bryd i'w gilydd byddai angen mynd iddi ar y safle i gynorthwyo'r dysgwyr i ganfod lleoliadau newydd ac i ddelio â materion yn gysylltiedig â'r lleoliadau.
Math o gytundeb : Telir fesul awr, ar gyfer blwyddyn academaidd 2025/26 o ddechrau
Manylion Swydd
Cyfeirnod y Swydd
CM/189/25
Cyflog
£28,729 - £31,176 y flwyddyn pro rata, yn ddibynnol ar gymwysterau a phrofiad
Lleoliad Gwaith
- Llangefni
- Wedi ei nodi yn y Swydd Ddisgrifiad
Hawl gwyliau
- 28 diwrnod y flwyddyn, yn cynyddu i 32 diwrnod ar ôl pum mlynedd lawn o wasanaeth di-dor (1 Medi i 31 Awst).
- Yr holl wyliau cyhoeddus arferol, i'w pennu'n flynyddol.
- Hyd at 5 diwrnod effeithlonrwydd bob blwyddyn, i'w pennu'n flynyddol.
- Bydd gan y rhai ar gontractau rhan-amser hawl pro rata i'r hyn a nodir uchod.
- Bydd gan y rhai ar gontractau Amser Tymor hawl pro rata i'r hyn a nodir uchod a delir fel rhan o'r cyflog blynyddol.
Patrwm gweithio
37 awr yr wythnos - 40 wythnos y flwyddyn, Tymor yn Unig (yn ystod tymor y Coleg)
Hawliau Pensiwn
Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol
Math o gytundeb
Arall
Dyddiad cau
24 Gorff 2025
12:00 YH (Ganol dydd)