MANYLION
  • Lleoliad: Conwy,
  • Cytundeb: Cyfnod penodol
  • Math o gyflog: Annual
  • Cyflog: Graddfa G05 NJC pwynt 12 - 19, £12,567 - £14,089 y flwyddyn
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 12 Mehefin , 2025 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Cymhorthydd Addysgu Lefel Uwch Dros Dro - Ysgol Awel y Mynydd

Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy

Cyflog: Graddfa G05 NJC pwynt 12 - 19, £12,567 - £14,089 y flwyddyn

Ysgol Awel y Mynydd

Sarn Mynach

Cyffordd Llandudno

Conwy

LL31 9RZ

Ffôn: 01492 577100

Ebost: pennaeth@awelymynydd.conwy.sch.uk

Pennaeth: Mr Edward Barnes

Yn eisiau erbyn mis Medi 2025

CYMHORTHYDD ADDYSGU LEFEL UWCH DROS DRO

(Contract dros dro hyd at 31/08/2026)

Mae Llywodraethwyr Ysgol Awel y Mynydd yn dymuno penodi Cymhorthydd Addysgu Lefel Uwch brwdfrydig i'r swydd uchod i weithio gyda disgyblion y Cyfnod Sylfaen. Mae'r gallu i gyfathrebu trwy gyfrwng y Gymraeg yn ddymunol

Oherwydd natur y swydd bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cael archwiliad

gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Mae yn ofynnol bod yr ymgeisydd llwyddiannus yn cofrestru gyda y Cyngor Gweithlu Addysg cyn cychwyn gweithio yn y swydd hon.

Am ragor o fanylion ynglŷn â'r swydd cysylltwch â'r Pennaeth ar 01492 577100

Noder nid yw'r awdurdod yn cyhoeddi ffurflenni cais ac nid yw'n derbyn CV.

Mae Conwy wedi ymrwymo i ddiogelu - bydd cymwysterau a geirdaon yn cael eu gwirio. Os nad ydych wedi derbyn ymateb o fewn 3 wythnos i'r dyddiad cau, rhaid i'r ymgeiswyr dybio nad ydynt wedi cael eu cynnwys yn y rhestr fer ac felly ni fyddent yn cael eu hysbysu'n ysgrifenedig. Wrth fynd ati i hyrwyddo cyfle cyfartal, mae Conwy yn croesawu ymgeiswyr o bob rhan o'r gymuned. Bydd pob ymgeisydd anabl sy'n diwallu gofynion hanfodol y swydd yn cael cyfweliad.

This form is also available in English