MANYLION
- Oriau: Full time
- Math o gyflog: Annual
- Cyflog: £76,238.00 - I: £89,186.00
- Iaith: Cymraeg
This job application date has now expired.
Pennaeth, Ysgol Gymunedol Twynyrodyn
Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful
Cyflog: £76,238.00 - I: £89,186.00
CYNGOR BWRDEISTREF SIROL MERTHYR TUDFULADRAN YSGOLION
Ysgol Gymunedol Twynyrodyn
Gilfach Cynon
Twynyrodyn
Merthyr Tudful
CF47 0LW
01685 351804
PENNAETH
ISR: Graddfa Arweinyddiaeth 18-24, llawn amser
Nifer y disgyblion: 315 Ystod oedran: 3-11 Grwp Ysgol: 3
Dyddiad Cau: 23 Mai 2025
Yn ofynnol ar gyfer Ionawr 2026 neu cyn gynted â phosibl
'Rhoi dechrau gorau posibl i'n plant mewn bywyd'
Diolch am eich diddordeb mewn gwneud cais i fod yn Bennaeth newydd. Bydd angen i'r ymgeisydd llwyddiannus ddangos profiad fel arweinydd ysbrydoledig i adeiladu ar lwyddiannau'r ysgol a'i harwain i'w cham nesaf o ddatblygu.
Mae gennym ddisgwyliadau uchel o'n staff a'n disgyblion ac rydym yn disgwyl y bydd gennych chi hefyd. Bydd angen i'r ymgeisydd llwyddiannus ddangos ei allu i gyflawni safonau uchel, meddu ar ragwelediad i wneud newidiadau, addasu lle bo angen ac arwain trwy esiampl.
Rydym yn falch o'n natur gynhwysol a gofalgar yn Nhwynyrodyn fel ysgol gymunedol wirioneddol sefydledig a dywedodd arolygiad ESTYN y llynedd bod yr holl staff a disgyblion yn falch o fod yn rhan o Ysgol Gymunedol Twynyrodyn. Mae arweinwyr wedi creu gweledigaeth glir ar gyfer yr ysgol ac yn gweithio'n bwrpasol i greu amgylchedd diogel a chynhwysol lle mae disgyblion a staff yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a'u cefnogi. Rydym yn cyfateb hyn ag addysgu a dysgu o ansawdd uchel ac yn cyd-adeiladu cwricwlwm cytbwys gyda disgyblion i bob disgybl i wneud cynnydd da yn eu dysgu, o'u gwahanol fannau cychwyn, yn enwedig mewn llythrennedd a mathemateg. Rydym yn ymdrechu i ysbrydoli ein holl blant i fod y gorau y gallant fod ym mhopeth y maent yn ei wneud. Rydym hefyd yn hynod falch o fod wedi derbyn yr achrediad Aur ar gyfer y Rhaglen Ysgrifennu Seiniau yn ddiweddar, sy'n dangos ein hymrwymiad i ddarparu rhagoriaeth mewn addysgu ffoneg.
Rydym yn chwilio am Bennaeth sydd...
Yn gosod lles pob aelod o'n cymuned ysgol wrth wraidd ei waith.
yn feddyliwr strategol â gweledigaeth glir ar gyfer llwyddiant parhaus a hanes profedig o gyflawni canlyniadau cadarnhaol.
wedi ymrwymo i ddatblygiad parhaus Twynyrodyn fel ysgol gymunedol.
yn meddu ar sgiliau cyfathrebu a chydweithredu rhagorol sy'n galluogi datblygiad parhaus partneriaethau effeithiol â phlant, staff, rhieni, llywodraethwyr, asiantaethau allanol eraill a'r gymuned ehangach.
yn rhannu ein gwerthoedd, yn hygyrch, yn gefnogol ac yn angerddol am lwyddiant y staff a'r disgyblion.
yn arweinydd blaengar, creadigol ac ysbrydoledig sy'n gallu defnyddio ymarfer sy'n seiliedig ar dystiolaeth i sicrhau bod ein cwricwlwm a'n cynnig dysgu yn seiliedig ar weledigaeth o ragoriaeth i bawb.
yn galluogi datblygiad y Gymraeg a'r diwylliant ar draws yr ysgol, y gymuned leol a'r fwrdeistref sirol wrth i ni barhau i adeiladu ein dull dwyieithog o ddysgu.
Yn Ysgol Gymunedol Twynyrodyn, gallwn gynnig...
ysgol hapus, groesawgar sydd yn codi dyheadau ac sydd yn uchelgeisiol am lwyddiant parhaus.
staff ymroddedig, gweithgar, gofalgar a bob amser yn mynd y filltir ychwanegol i'n plant.
disgyblion sydd ag ymdeimlad gwirioneddol o berthyn, sy'n barchus, yn awyddus i ddysgu, yn greadigol ac yn gallu mynegi eu hunain.
Corff Llywodraethu sy'n ymrwymedig i welliant, yn cefnogi ac yn herio pawb i sicrhau eu bod yn cyflawni eu potensial.
amgylchedd diogel, cadarnhaol a chroesawgar sy'n hyrwyddo ac yn dathlu llwyddiant.
rhieni/gofalwyr sy'n gefnogol ac yn ymwneud â dysgu eu plant.
cymuned sy'n gynhwysol, amrywiol, sy'n cefnogi'r ysgol ac yn poeni am ei dyfodol.
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 23 Mai 2025.
Cynhelir y rhestr fer ar 4 Mehefin 2025.
Bydd cyfweliadau'n cael eu cynnal dros ddau ddiwrnod ar 10 ac 11 Mehefin 2025 a bydd ymgeiswyr yn cael eu hysbysu ar ddiwedd Diwrnod 1 os ydynt am symud ymlaen i Ddiwrnod 2.